Recriwtiwr gyda’r heddlu’n uwchsgilio gyda’r Drindod Dewi Sant
05.07.2022
A hithau’n brysur yn cydlynu ymdrechion Heddlu Dyfed Powys o fewn Rhaglen ‘Uplift’ fwyaf y DU i recriwtio 20,000 o Swyddogion Heddlu, dewisodd Catherine Evans uwchsgilio gan gychwyn Diploma'r CIPD mewn Rheoli Pobl ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
“Fel arweinydd recriwtio swyddogion heddlu gyda Heddlu Dyfed Powys, dechreuais fy nghwrs yn y Drindod Dewi Sant ar adeg brysur iawn yn y gwaith,” meddai Catherine.
Gweithiodd yn y diwydiant adeiladu am 31 mlynedd cyn ymgymryd â rôl yn yr Heddlu bron iawn bum mlynedd yn ôl, ac ychwanega: “Mae gan yr Heddlu ddiwylliant dysgu cadarn ac mae’n annog staff i gynyddu eu gwybodaeth drwy ddilyn cyrsiau amrywiol. Nid yw oed yn gwneud unrhyw wahaniaeth ac rydym yn cael ein hannog bob amser.”
Gyda’r gefnogaeth hon, dewisodd Catherine ymuno â’r Drindod Dewi Sant a dechreuodd Ddiploma mewn Rheoli Pobl gan arbenigo mewn AD Cymhwysol, a graddio’r haf hwn. At hynny, “mae’r cymhwyster hwn wedi caniatáu i mi gael dyrchafiad yn y gwaith, am ei fod yn ofynnol ar gyfer rôl y Swyddog Recriwtio, sydd gen i bellach,” meddai wrthym.
“Un o’r rhannau gorau o’r cwrs yw fy mod i wedi datblygu rhwydweithiau a pherthnasoedd gyda fy nghyd-fyfyrwyr sydd wedi bod o fudd i ni gyd ar wahanol adegau. Mae gennym grŵp WhatsApp i rannu syniadau ac i roi gwybod i’n gilydd am swyddi gwag o fewn ein sefydliadau gwahanol.
“Roedd y Darlithwyr yn rhan ffantastig arall o’r cwrs – roedden nhw yno i’n helpu, ein cefnogi a’n harwain ar hyd y ddwy flynedd a doedd dim byd yn ormod o drafferth. Roeddynt bob amser yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt a mwynheais ein sesiynau wyneb yn wyneb yn fawr iawn.
“Ar adegau roedd hi’n anodd cydbwyso’r cartref, bywyd gwaith ac aseiniadau ond ces i gefnogaeth barhaus gan fy nghyd-weithwyr, fy narlithwyr a fy nghyd-fyfyrwyr. Rwy’n falch fy mod wedi cyflawni’r cymhwyster hwn a byddwn yn ei argymell i unrhyw un sy’n dymuno cael gyrfa yn y dyfodol fel Gweithiwr AD Proffesiynol.”
“Efallai ei bod wedi cymryd 53 mlynedd i mi gyrraedd fy ngraddio,” meddai Catherine gan gellwair, “ond rwy’n falch y bydd fy rhieni 90 mlwydd oed a fy nheulu gyda mi ar y diwrnod i fy ngweld i’n graddio!”.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078