Seremonïau Graddio Campws Llundain


07.02.2022

Mae Seremoni Raddio gyntaf ein graddedigion o gampws Llundain yn cael ei chynnal heddiw (Dydd Llun, 7 Chwefror 2022) yn y Guildhall yn Llundain.

The first Graduation Ceremony for our London Campus graduands is taking place today (Monday, 7th February 2022) at the Guildhall in London.

Mae hyn yn cyd-fynd â 10 mlynedd o fodolaeth ein Campws yn Llundain.

Mae mwy na 400 o raddedigion, o TystAU i lefel Ôl-raddedig, yn mynychu gyda'u ffrindiau, eu teuluoedd ac aelodau staff ar yr achlysur cofiadwy hwn.

Mae’r seremonïau graddio yn cynnig cyfle i ddathlu llwyddiant, gwaith caled ac ymrwymiad graddedigion y Drindod Dewi Sant ac yn rhoi cyfle i gymuned y Brifysgol dalu teyrnged i’r ymroddiad hwnnw.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor: "Rydyn ni  yma i ddathlu eich cyflawniadau academaidd a chydnabod eich taith academaidd.  Hoffwn dalu teyrnged i’r staff. Mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad wedi eich cefnogi dros y flwyddyn.

“Mae’n flwyddyn hanesyddol i’r Brifysgol. 10 mlynedd yn ôl sefydlwyd y campws dysgu cyntaf yng nghanol y ddinas. Mae hyn yn deyrnged i'r Athro Connie Matera Rogers, Profost Campws Llundain a Dr Audsin Dhas, Deon Gweithredol a Phennaeth campws Llundain am eu harweinyddiaeth ragorol dros y 10 mlynedd diwethaf.

“Rydym hefyd yn dathlu carreg filltir arall. Deucanmlwyddiant addysg uwch yng Nghymru sy’n dynodi 200 mlynedd o gyfleoedd dysgu gydol oes sydd wrth galon y Brifysgol hon. Rydym yn falch bod y Brifysgol hon wedi rhoi cyfle i chi ddysgu a gwneud cynnydd yn eich gyrfa broffesiynol.”

“Rydyn ni yma i ddathlu. Rydyn ni'n byw mewn byd sy'n galw am arweinwyr gonest angerddol, sy'n barod i arwain gan ddangos y ffordd trwy arweinyddiaeth ddinesig gref. Mae gennych chi gymaint o gyfleoedd o'ch blaen. Rydych chi wedi cael cyfle i ennill gwybodaeth a phrofi syniadau.

“Nawr daw'r cyfrifoldeb o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned rydych chi'n rhan ohoni. Rwy’n eich annog i fod yn wneuthurwyr newid ac yn arweinwyr yn eich cymuned gan fynd â hyder eich gwybodaeth a’ch sgiliau gyda chi er mwyn i chi allu gwneud gwahaniaeth. Mae arnom angen pobl a all ddod â chymunedau at ei gilydd. A gallwch chi wneud hyn a gwneud gwahaniaeth."