Sioe un fenyw The Ballad of Mulan yn dod i Lambed


26.01.2022

I nodi Gŵyl Wanwyn Tsieineaidd a dechrau Blwyddyn y Teigr, mae Athrofa Confucius yn falch o gynnal The Ballad Mulan  am 19:30 ar 11 Chwefror yn yr Hen Neuadd, Campws Llambed.

To mark the Chinese Spring Festival and beginning of the Year of the Tiger, the Confucius Institute is proud to host The Ballad of Mulan at 19:30 on 11 February in the Old Hall, Lampeter Campus.

Yn seiliedig ar gerdd Tsieineaidd o’r 6ed Ganrif a boblogeiddiwyd gan y ffilm Disney,  mae’r Ballad of Mulan gan Dragonfly Productions yn hanes go iawn caled wedi ei adrodd gan Mulan hithau. Wedi'i osod yn ystod cyfnod y rhyfel sifil, mae ein harwres Tsieineaidd  yn mynd ati i geisio achub anrhydedd ei theulu, ac wrth ffugio bod yn ddyn mae’n ymuno â byddin yr Ymerawdwr. Mae adroddiad y stori yn arw iawn. Mae Mulan yn rhyfelwr, yn ymladdwr, yn fenyw a oroesodd mewn byd gwrywaidd iawn am ddeng mlynedd heb ddarganfod.

Comisiynwyd Balad Mulan gan yr actor a'r cynhyrchydd Dwyrain Asiaidd Prydeinig Michelle Yim ac fe'i hysgrifennwyd gan y dramodydd Bloomsbury Ross Ericson. Yn y prynhawn ar 11 Chwefror, bydd Ross Ericson yn arwain gweithdy drama sy'n archwilio  datblygiad y sgript  o gerdd Tsieineaidd i'r cynhyrchiad llwyfan.

Mae Michelle Yim yn actor Prydeinig-Dwyrain-Asiaidd a raddiodd o ALRA. Yn ogystal â'r rolau theatr niferus, mae hefyd wedi ymddangos mewn llawer o ffilmiau byr ac mewn rolau bach ar y teledu (Sherlock a Blue Murder), ac mae'n gweithio’n artist drosleisiol yn Saesneg, Cantoneg a Mandarin. Mae hi hefyd yn un o sylfaenwyr Red Dragonfly Productions, sy'n  ymdrechu i ddod â straeon o'r Dwyrain a'r Dwyrain Pell i gynulleidfa Brydeinig ac Ewropeaidd.

Mae'r gerddoriaeth gefndir wedi ei chreu gan Pearl Yim, cyfansoddwr, arweinydd cerddorfa a threfnydd arobryn rhyngwladol.

Gellir prynu tocynnau ar-lein yn https://www.uwtsd.ac.uk/confucius-institute/events/ a'r pris yw £5.00 oedolyn, £3:00 gostyngiadau (myfyrwyr, staff Y Drindod Dewi Sant, rhai heb gyflog, rhai sydd wedi ymddeol). Ddim yn addas i blant ifanc.

I archebu eich lle yn y gweithdy drama a gynhelir am 14:00 yn yr Hen Neuadd anfonwch e-bost i confuciusinstitute@pcydds.ac.uk. Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at  k.krajewska@pcydds.ac.uk

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076