Symposiwm AtiC 2022: Cyflymu Arloesedd mewn Iechyd a Llesiant Digwyddiad


10.10.2022

Bydd Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnal ei hail symposiwm ddydd Iau, 13 Hydref ar y thema Cyflymu Arloesedd mewn Iechyd  a Llesiant.

Symposiwm ATiC Symposium 2022

Cynhelir y digwyddiad, sy’n rhad ac am ddim, o 9:30am tan 5pm a hynny wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe. Bydd hefyd yn cael ei ffrydio’n fyw ar https://youtu.be/vNTXw3dG750.  

Bydd Symposiwm ATiC 2022 yn myfyrio ar effaith a gwaddol y rhaglen arloesol Cyflymu Cymru, gan arddangos sut mae Cymru’n cyflymu arloesedd drwy gydweithio rhwng y GIG a’r byd academaidd, ac yn grymuso cleifion drwy ymchwil sy’n seiliedig ar y defnyddiwr ac arloesi technolegau.  

Partneriaid ATiC yn y rhaglen Cyflymu, sy’n cael ei hariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru, yw Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA) Prifysgol Caerdydd, Canolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy’n arwain y rhaglen. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i Sefydliad TriTech, y mae ATic a HTC yn bartneriaid academaidd allweddol ynddo, hefyd yn ymuno â Cyflymu ar gyfer y Symposiwm hwn.

Bydd y digwyddiad yn amlygu sut mae Cyflymu wedi creu cyfleoedd cydweithredol a phartneriaethau newydd ar draws sectorau a sefydliadau.  Bydd hefyd yn edrych i’r dyfodol, wrth i’r cam hwn o’r rhaglen Cyflymu ddirwyn i ben ddiwedd Rhagfyr 2022.

Ymhlith y prif siaradwyr fydd yn agor y digwyddiad bydd yr Athro Philip Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Bydd Sesiwn Un yn cynnwys cyflwyniadau ar y cyd gan arweinwyr pedwar sefydliad partner Cyflymu a’u mentrau astudiaethau achos.

Bydd Sesiynau Dau a Thri yn cynnwys cyflwyniadau gan yr Athro Chris Hopkins, Pennaeth Arloesedd a Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyfarwyddwr Clinigol (Gwyddoniaeth), ATIC, PCYDDS; yr Athro Alka S Ahuja, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc, ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, TEC Cymru; Dr Lorna Tasker, Pennaeth Peirianneg Adsefydlu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; ac o fyd diwydiant, Marcus Ineson, Prif Swyddog Marchnata NGPOD Global, a Jackie Crooks, Prif Swyddog Masnachol Kinsetsu Ltd.

Bydd Sesiwn Pedwar yn drafodaeth agored ynglŷn â’r camau nesaf yn y cyd-destun Prydeinig a Rhyngwladol o ran heriau gofal iechyd yn y dyfodol a gweithio gyda phartneriaid masnachol.

Caiff y drafodaeth ei chadeirio gan Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru; gyda Dafydd Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddorau Bywyd ac Arloesedd, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru; a’r Athro Keir Lewis, Arweinydd Clinigol, Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyfarwyddwr Meddygol, Arloesedd Anadlol Cymru.

Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant, a fydd yn agor y Symposiwm: “Mae’r Brifysgol yn falch iawn o gynnal y gynhadledd nodedig hon sy’n ceisio arddangos yr arloesedd a’r  ymchwil diweddaraf a gyflawnwyd drwy’r rhaglen Cyflymu.

“Mae’n enghraifft o sut y gall cydweithio rhwng y brifysgol a sectorau gofal iechyd ddarparu gwir fanteision a deilliannau gwell i gleifion yn ogystal â symbylu twf economaidd. Mae’r dull cydweithredol a chymhwysol hwn yn ganolog i strategaeth ymchwil ac arloesi’r brifysgol.

Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost y Drindod Dewi Sant ar gampysau Abertawe a Chaerdydd a Chyfarwyddwr ATiC: “Gellir gweld gwir effaith ATiC a’i phartneriaid yn y rhaglen Cyflymu yn y nifer o fentrau a gefnogir i dyfu a datblygu eu busnesau. Mae’n amlygu’r rôl hanfodol mae prifysgolion yn ei chwarae wrth symbylu arloesedd yng Nghymru ac wrth sicrhau ein ffyniant i’r dyfodol.

Meddai Sean Jenkins, Athro Cysylltiol y Drindod Dewi Sant a Chyfarwyddwr Ymchwil ATiC: “Mae’r ail symposiwm hwn gan ATiC yn adeiladu ar lwyddiant ein digwyddiad cyntaf yn 2019, ac mae’n myfyrio ar effaith a gwaddol y rhaglen Cyflymu ac yn dathlu’r partneriaethau newydd a datblygol a’r cynlluniau cydweithredu rydym yn eu meithrin i symbylu ymchwil, datblygu ac arloesi mewn iechyd a llesiant.

“Edrychwn ymlaen at groesawu cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd, menter a’r byd academaidd, ar gyfer yr hyn sy’n argoeli i fod yn ddigwyddiad cyffrous a fydd yn ysgogi’r meddwl – gan fyfyrio ar yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni a’r hyn sydd eto i ddod.”

Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru sy’n arwain rhaglen Cyflymu: “Mae’r Rhaglen Cyflymu wedi bod yn rhan bwysig o genhadaeth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i wneud Cymru yn lle rhagorol ar gyfer arloesedd gofal iechyd. Bydd y partneriaethau a ddatblygir rhwng y byd academaidd, diwydiant, ac iechyd a gofal cymdeithasol drwy’r rhaglen hon yn parhau i ddarparu manteision am flynyddoedd lawer i ddod.

“Yn ddiweddar cyhoeddodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Adroddiad Effaith sy’n dathlu llwyddiant y rhaglen Cyflymu. Mae’r adroddiad yn amlygu sut mae Cyflymu wedi cefnogi busnesau newydd a busnesau bach a chanolig (BBaChau) i gyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu technoleg, cynnyrch a gwasanaethau newydd mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.” Darllenwch yr adroddiad yma...

Meddai’r Athro Chris Hopkins, Pennaeth Arloesedd a Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyfarwyddwr Clinigol (Gwyddoniaeth) ATIC, y Drindod Dewi Sant: “Mae llawer o ddatblygiadau dros y blynyddoedd diwethaf yn dangos yr hyn y gall gwir gydweithrediad ei gynnig ar draws y rhanbarth a ledled Cymru. Enghraifft o hyn yw’r bartneriaeth agos rydym wedi’i datblygu gyda’r Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ynghyd â’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) ym Mhrifysgol Abertawe.

Byddwn yn cyflwyno nifer o astudiaethau achos lle mae’r GIG, partneriaid masnachol a’r byd academaidd wedi cydweithio i ddatblygu technolegau a dyfeisiau newydd a gwreiddiol. Mae’r partneriaethau hyn yn dangos sut y gall byrddau iechyd, y byd academaidd a diwydiant weithio mewn partneriaeth i ddatblygu a phrofi dyfeisiau arloesol i sicrhau gwell deilliannau i gleifion. Mae’r partneriaethau hyn o bartneriaid cydradd yn canolbwyntio’n llwyr ar gyfrannu at a gwella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Symposiwm a thocynnau, ewch i https://www.eventbrite.com/e/symposiwm-atic-symposium-2022-tickets-401151975357.

Wedi’i ariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a’r byrddau iechyd, nod Cyflymu yn y pen draw yw creu gwerth economaidd parhaol i Gymru.

Nodyn i'r Golygydd

Siaradwyr Symposiwm ATiC 2022:

Croeso

  • Yr Athro Ian Walsh, Profost Abertawe a Chaerdydd, a Chyfarwyddwr ATiC, PCYDDS.
  • Yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor, PCYDDS.
  • Yr Athro Philip Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Sesiwn 1: Rhaglen Cyflymu – Ei effaith a’i ddyfodol.

  • Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru - Gareth Healey, Arweinydd Rhaglen ar gyfer Meddygaeth Fanwl a Phennaeth Cyflymu; Christopher Jones, Rheolwr Datblygu Partneriaeth, ac Azize Naji, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Goggleminds.
  • Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA) - Yr Athro Ian Weeks OBE , Deon Arloesi Clinigol, Prifysgol Caerdydd, a Peter Bishop, Sylfaenydd Agile Kinetic Ltd.
  • Canolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) - Yr Athro Keith Lloyd, Deon Gweithredol a Dirprwy Is-ganghellor y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, Prifysgol Abertawe, a Jordan Copner, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Copner Biotech.
  • Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (AtiC) - Dr Sean Jenkins, Athro Cyswllt a Chyfarwyddwr Ymchwil ATiC, PCYDDS, a Gethin Roberts, Prif Swyddog Gweithredol, ITERATE Design and Innovation Ltd.

Sesiwn 2: Cyflymu Arloesedd drwy gydweithio.

  • Yr Athro Chris Hopkins, Pennaeth Arloesedd a Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyfarwyddwr Clinigol (Gwyddoniaeth), ATIC, PCYDDS
  • Marcus Ineson, Prif Swyddog Marchnata, NGPOD Global.
  • Jackie Crooks, Prif Swyddog Masnachol, Kinsetsu Ltd.
  • Dr Matthew Lawrence, Ymchwilydd Cyswllt, Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Sesiwn 3: Cyflymu Arloesedd trwy ddefnyddio technoleg i rymuso cleifion.

  • Yr Athro Keir Lewis, Arweinydd Clinigol, Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyfarwyddwr Meddygol, Arloesedd Anadlol Cymru.
  • Billy Woods, Gwyddonydd Clinigol, Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Dr Jane M Mullins, Ymchwilydd, Sefydliad Awen, Prifysgol Abertawe.
  • Yr Athro Alka S Ahuja, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc, ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, TEC Cymru.
  • Dr Lorna Tasker, Pennaeth Peirianneg Adsefydlu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Sesiwn 4: Gosod y cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer heriau gofal iechyd yn y dyfodol. (Trafodaeth agored ar y camau nesaf.)

  • (Cadeirydd) Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
  • Dafydd Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddorau Bywyd ac Arloesedd, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru.
  • Yr Athro Keir Lewis, Arweinydd Clinigol, Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cyfarwyddwr Meddygol, Arloesedd Anadlol Cymru. 

Cyfarfod llawn a sylwadau cloi

Yr Athro Ian Walsh, Profost Abertawe a Chaerdydd, a Chyfarwyddwr ATiC.

Mae ATiC yn ganolfan ymchwil integredig sy'n rhoi dulliau meddwl ac arloesi strategol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar waith, drwy ei chyfleuster ymchwil arloesol i brofiad defnyddwyr (UX) a gwerthuso defnyddioldeb, sydd wedi’i lleoli yn Ardal Arloesi Abertawe yn SA1. Darllenwch ragor yma

Mae ATiC wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Gynau Gwyrdd y DU ac Iwerddon  eleni a gynhelir ym mis Tachwedd 2022, yn y categori ‘O Fudd i Gymdeithas’, am ei hymchwil cydweithredol arloesol gyda’r fenter eHealth Digital Media Ltd yn Abertawe.  Mae’r cwmni cyfathrebu digidol, eHealth Digital Media, yn cynhyrchu a darparu cynnwys newid ymddygiad megis ffilmiau gwybodaeth â chynnwys o ansawdd trwy ei blatfform sefydledig PocketMedic.

Roedd y prosiect Gweld dementia trwy eu llygaid nhw (Byw gyda Dementia) yn cynnwys ymchwil gan dîm AtiC dros gyfnod o ychydig dros flwyddyn yn sail i gyfres o 10 o ffilmiau newydd gan eHealth Digital Media.  Mae’r ffilmiau, am fywydau beunyddiol a heriau pobl sy’n byw gyda dementia, yn ffocysu ar ddarparu cymorth, hyfforddiant ac addysg ar gyfer cleifion dementia, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd.  Darllenwch ragor yma…

Gwybodaeth Bellach

Am ragor o wybodaeth:

Bethan Evans

Swyddog Prosiect ATiC, Marchnata a Chyfathrebu

Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)

Technium 1, Heol y Brenin, Abertawe SA1 8PH.

E-bost: bethan.evans@uwtsd.ac.uk