Tîm Blynyddoedd Cynnar Y Drindod Dewi Sant yn dathlu graddio yng Nghaerdydd
25.11.2022
Mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar o ddisgyblaeth Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wrth eu boddau i fod yng Nghaerdydd yn dathlu seremoni raddio’r graddedigion Dysgu Hyblyg Llwybr Carlam a astudiodd y graddau BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar.
Mae bod yng Nghaerdydd yn arbennig o bwerus gan fod llawer o’r myfyrwyr sy’n graddio’n rhan o grŵp cymunedol Blynyddoedd Cynnar y Drindod Dewi Sant yng Nghaerdydd lle y cyflwynir y radd yn y gymuned gan roi mynediad at ddysgu i fyfyrwyr yn rhywle sy’n gyfleus iddyn nhw. Mae’r math hwn o ddarpariaeth gymunedol yn cyd-fynd ag agenda ehangu mynediad y Drindod Dewi Sant ac yn rhoi cyfle i ymarferwyr blynyddoedd cynnar ar draws de Cymru ddatblygu eu dysgu ar yr un pryd â gallu parhau i weithio yn y sector. Mae’r myfyrwyr wedi astudio graddau’n lleol a bellach maent yn symud i yrfaoedd newydd a chyffrous am fod y ddarpariaeth mor agos at eu cartrefi.
Mae Natalie Macdonald, Cyfarwyddwr Rhaglen, yn tynnu sylw at y canlynol:
“Rydym ni bob amser mor falch i weld ein myfyrwyr yn graddio ac i ni gael y cyfle i ddathlu eu llwyddiant gyda nhw. Mae ymrwymiad a chyflawniad y myfyrwyr yn wir yn ysbrydoli ac rydym yn credu ym mhŵer mynd ag addysg at fyfyrwyr yn y gymuned. I’n tîm yn y Drindod Dewi Sant, nid datganiad moel mo ‘trawsnewid addysg, trawsnewid bywydau’ – gwelwn hynny bob dydd drwy ein myfyrwyr a’n graddedigion anhygoel.”
Clywn gan dair myfyrwraig a gafodd fudd o radd gymunedol y Blynyddoedd Cynnar yng Nghaerdydd:
Liz Bergelin. Meddai:
“Byddaf yn ddiolchgar i dîm y Blynyddoedd Cynnar yn y Drindod Dewi Sant am byth. Yn gyntaf am greu’r cwrs hwn a’i roi ar gael i bobl fel fi sy’n gweithio’n amser llawn yn y sector Blynyddoedd Cynnar ac yn ei chael hi’n anodd symud ymhellach oherwydd ymrwymiadau o ran gwaith, amser ac arian. Ac yn ail am eu bod wedi gwneud iddo fod mor hygyrch i fyfyrwyr nad oeddynt yn byw yng Nghaerfyrddin neu Abertawe. Darparodd y tîm gyfuniad ffantastig o ddysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb mewn amgylchedd croesawgar a chyfeillgar.
“Drwy fynd i ddarlithoedd am un noson yr wythnos am 2 flynedd yn unig roedd hi’n hawdd ei ffitio o fewn f’amserlen brysur. Ers graddio o’r Drindod Dewi Sant gyda fy ngradd mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, rwyf bellach ar fy ffordd i fod yn athrawes ysgol gynradd drwy astudio am TAR. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl i mi heb strwythur cefnogol a hygyrch y cwrs a’r tîm Blynyddoedd Cynnar gwych. Diolch yn fawr iawn.”
Ychwanega Rhian Pittard, myfyriwr arall a gafodd fudd o’r radd gymunedol:
“Roedd astudio am fy ngradd yn un o benderfyniadau gorau fy mywyd, ac ni allwn fod wedi cwblhau’r cwrs pe nad oedd yn cael ei gynnal gyda’r hwyr, oherwydd ymrwymiadau gwaith a theulu. Ers cwblhau’r cwrs ym mis Gorffennaf, rwyf wedi mynd yn ôl i’r brifysgol i astudio am TAR Cynradd, ac ni fyddwn wedi cael y cyfle i wneud hyn heb gwblhau’r radd hon.”
Dywed y fyfyrwraig Mahbuba Chowdhury:
"Rwy'n falch fy mod i wedi gorffen fy ngradd o'r diwedd, sy'n gwneud imi deimlo'n falch ohonof fy hun. Roeddwn i'n gwybod na fyddai'n hawdd, ond roedd sicrhau, cymorth a chefnogaeth gyson gan ein darlithwyr yn ei gwneud hi'n hawdd i mi. Roedd gan y darlithydd agwedd gynorthwyol, a wnaeth i mi deimlo'n fwy cyfforddus ac yn ei gwneud hi'n hawdd esbonio fy anawsterau ynglŷn â'm hastudiaethau. Bob tro roeddwn i'n ei chael hi'n anodd ac angen y gefnogaeth ychwanegol honno, roedd fy aseswyr bob amser ar gael ac yn hapus i'm cefnogi a chynnig ystod o opsiynau cymorth nad oeddwn yn ymwybodol ohonynt ac yn fy helpu i ddal i fyny â'm hastudiaethau. O'n i wastad yn teimlo fod pobl yn gwrando arnaf. Gan fy mod yn byw yng Nghaerdydd, roedd cael campws yng Nghaerdydd yn gyfleus i mi fynychu'r darlithoedd."
Mae mynd â’r dysgu at y myfyriwr wedi bod yn rhan o weledigaeth y ddisgyblaeth Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg o’r cychwyn cyntaf gyda chyrsiau’n cael eu cyflwyno yn Sir Benfro, Aberystwyth, Abertawe a Chaerfyrddin yn y blynyddoedd diweddar.
Bellach mae’r Blynyddoedd Cynnar yn croesi’r ffin tu hwnt i Gymru ac o 2023 bydd myfyrwyr sy’n astudio ar gampws Birmingham y Drindod Dewi Sant yn gallu astudio’r radd BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar.
Mae’r tîm wrth eu boddau i weld cynifer o fyfyrwyr yn graddio heddiw a bydd yn parhau i hyrwyddo mynediad at addysg uwch o fewn a thu hwnt i’r campws.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476