Tîm o’r Drindod Dewi Sant a ddatblygodd system cymorth anadlol i helpu i frwydro yn erbyn Covid 19 yn ennill Gwobr Dewi Sant 2022
08.04.2022
Mae tîm o beirianwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a ddatblygodd system cymorth anadlol jet argraffedig 3D i helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn Covid 19 wedi ennill Gwobr Dewi Sant o dan y categori Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Mae’r gwobrau’n cydnabod llwyddiannau rhyfeddol pobl o bob rhan o Gymru.
Wrth gyflwyno'r gwobrau, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei bod wedi bod yn noson ysbrydoledig a theimladwy. Ychwanegodd fod y rhai oedd wedi’u henwebu i gyd yn wirioneddol ysbrydoledig ac yn glod i Gymru.
Dywedodd Graham Howe, Pennaeth Gweithredol Made Cymru: “Fe wnaethon ni’r hyn roedd llawer o beirianwyr yn ei wneud ledled y wlad ac ar draws y byd ar y pryd, gan ddefnyddio ein sgiliau peirianneg fel datryswyr problemau creadigol i geisio helpu i ddatrys ein heriau mwyaf.
“Rydym yn falch iawn bod y newyddion am ein gwaith wedi cyrraedd llefydd fel Nepal, a’i fod yn gallu cael ei ddefnyddio i helpu pobl yn yr amgylchiadau mwyaf heriol.”
Ym mis Mai 2020, penderfynodd Luca Pagano, Graham Howe, Professor Peter Charlton, John Hughes a Richard Morgan defnyddio eu harbenigedd i ddatblygu system cymorth anadlol jet argraffedig 3D hynod effeithlon wedi'i seilio ar Venturi fel rhan o ymdrech gydlynol i helpu'r GIG yn yr achosion cychwynnol o Covid-19.
Y prif amcan oedd datblygu dyfais y gellid ei gweithgynhyrchu'n rhad, yn gyflym ond, ar yr un pryd, yn hawdd ei defnyddio wrth gynnal lefelau perfformiad uchel. Cafodd y ddyfais ei optimeiddio i allu cyflawni swyddogaethau CPAP megis cynnal pwysau PEEP mewn sefyllfaoedd lle byddai ysbytai dan bwysau eithriadol a lle'r oedd y cyflenwad ocsigen yn gyfyngedig.
Dywedodd Luca Pagano o’r Drindod Dewi Sant, Uwch Beiriannydd Prosiectau Ymchwil yn Made Cymru: “Gwelwyd fod dyfeisiau CPAP safonol yn hynod aneffeithlon, ac yn lle hynny gallai ein dyfais ni weithredu gan ddefnyddio traean o’r ocsigen. Mae hefyd yn anghyffredin iawn i ddyfeisiau Venturi allu cynnal pwysau cadarnhaol yn hyderus o fewn llwybrau anadlu'r claf wrth gyflenwi cymysgeddau nwy cywir. Cyflawnwyd hyn trwy nifer o gamau ailadroddol rhwng modelu a phrofi.”
Gofynnodd Peiriannydd Biofeddygol Arweiniol yn Nepal a oedd wedi darllen y newyddion am y Venturi, a allai’r tîm rannu eu ffeiliau 3D i’w hargraffu yn ei ysbyty yn Pokhara lle'r oedd sefyllfa COVID-19 yn gwaethygu bob munud.
Ymatebodd y tîm yn gyflym gan roi cytundeb trwydded mewn lle ac yna darapru’r holl ddogfennaeth/ffeiliau technegol a chefnogi'r peirianwyr yn Nepal gydag unrhyw ymholiadau. Cynhyrchwyd y ddyfais yn llwyddiannus gydag argraffwyr bwrdd gwaith 3d a'i defnyddio i achub bywydau.
Ychwanegodd Graham Howe, Pennaeth Gweithredol Made Cymru: “Daeth Dr Steven Fielding â’r broblem gychwynnol i fy sylw 10 mlynedd yn ôl cyn i mi ymuno â’r Brifysgol, a bu ef a minnau’n gweithio ar y syniad, ynghyd â David Williams o Ysgol Gweithgynhyrchu a Logisteg y Drindod Dewi Sant a oedd yn astudio’n rhan amser ar gyfer MSc Gweithgynhyrchu Darbodus ac Ystwyth.
“Fe wnaethon ni ail edrych ar y mater yn ystod cyfnod cynnar Covid wrth i ni sylweddoli bod ganddo'r potensial i helpu, yn enwedig yng nghyd-destun cyflenwadau ocsigen prin. Ond roedd materion sylweddol i'w datrys o hyd o ran ei ffiseg fel bod modd ei weithgynhyrchu ledled y byd mewn llefydd fel Nepal.
“Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dewi Sant yn glod cyffrous i ni ac yn foment falch i’r tîm ac mae’n dangos yn glir sut y gall gwaith Ymchwil a Datblygu yn y Drindod Dewi Sant fynd i’r afael â heriau byd-eang hollbwysig.”
Dywedodd Barry Liles, OBE, Dirprwy Is-Ganghellor Sgiliau a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Brifysgol yn falch o weld y tîm hwn yn cael ei gydnabod am eu cydweithrediad; ymdrechion arloesol a wnaed ar anterth y pandemig. Wrth ymdrechu i gynnal eu llwyth gwaith o ddydd i ddydd, gyda’r holl gyfyngiadau a osododd Covid arnynt, buont yn gweithio y tu hwnt i’r disgwyl i ddod o hyd i ateb yn gyflym sydd wedi esgor ar fudd sylweddol. Daeth eu hangerdd a’u brwdfrydedd i’r amlwg wrth iddynt weithio tuag at sicrhau canlyniad cadarnhaol.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk