‘Trefniadau cadarn’ ar gyfer ansawdd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ôl corff ansawdd annibynnol y DU
17.06.2022
Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 'drefniadau cadarn ar waith i sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd, a chyfoethogi profiad y myfyrwyr', yn ôl adolygiad gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (ASA). Yn yr adolygiad canmolwyd cyflawniadau’r Brifysgol mewn sawl maes megis gwneud penderfyniadau ar sail data a chyfoethogi addysgu a dysgu.
Cynhaliwyd yr adolygiad ar-lein rhwng 21 a 24 Mawrth 2022 gan dîm o dri adolygydd annibynnol, a benodwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd. At ei gilydd, daeth y panel adolygu i’r casgliad bod y Drindod Dewi Sant yn bodloni gofynion Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) Rhan 1 ar sicrhau ansawdd mewnol, a’i bod yn bodloni gofynion rheoleiddio sylfaenol perthnasol y Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru.
Ymhlith y nodweddion a ganmolwyd yn yr adolygiad mae’r canlynol:
- Mae ‘Hwb Myfyrwyr’ y Brifysgol yn bwynt cyswllt a phwynt gwybodaeth electronig cynhwysfawr a hygyrch i fyfyrwyr sy’n cefnogi eu profiad dysgu’n effeithiol.
- Mae’r ystod eang a’r defnydd effeithiol o hyfforddiant, addysgeg a chymorth digidol a ddatblygwyd yn ystod y pandemig yn parhau i gyfoethogi profiad y staff a’r myfyrwyr.
- Mae dangosfwrdd data’r Brifysgol yn darparu ystod eang o ddata cywir, defnyddiol a hygyrch i staff, gan alluogi’r Brifysgol i fonitro ei pherfformiad yn drwyadl ac yn effeithiol o ran safonau ei dyfarniadau ac ansawdd profiad dysgu’r myfyrwyr.
Meddai’r Athro Catrin Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor: "Mae'r Brifysgol yn falch iawn bod yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd wedi canfod bod ein trefniadau ar gyfer sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd, a chyfoethogi profiad y myfyrwyr yn rhai cadarn. Mae hyn o ganlyniad i waith tîm rhagorol ar draws y Brifysgol sy’n cynnwys ein timau academaidd a phroffesiynol yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr. Gwerthfawrogwn argymhellion adolygiad yr ASA i sicrhau gwelliannau parhaus yn ein prosesau a'n harferion”.
Ychwanegodd yr Athro Mirjam Plantinga, Pro-Is-Ganghellor ar gyfer Profiadau Myfyrwyr: “Rydym yn croesawu asesiad yr ASA o’n trefniadau academaidd ac rydym yn falch iawn o dderbyn canmoliaeth am yr Hwb Myfyrwyr a werthfawrogir yn fawr gan ein myfyrwyr. Mae profiad myfyrwyr yn ganolog i'n gwaith cynllunio a chyflwyno. Roedd hyn yn arbennig o amlwg yn ein hymagwedd at y pandemig a’r ffordd y gwnaethom drawsnewid ein darpariaeth i gyflwyno cyfleoedd newydd i gyfoethogi ein profiadau ar y campws”.
Mae adroddiad yr ASA hefyd yn gwneud sawl argymhelliad, gan ofyn i’r Brifysgol:
- ddatblygu system gadarn sy’n sicrhau bod pob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, sy’n ymgymryd ag addysgu neu sy’n cefnogi addysgu, yn cael hyfforddiant priodol
- datblygu dull strategol cydlynol i wella canlyniadau cyflogadwyedd proffesiynol mewn meysydd tra medrus ar draws pob rhaglen
- cynnwys myfyrwyr o sefydliadau partner cydweithredol wrth ddatblygu cynlluniau i gwblhau’r addysgu pan fydd cyrsiau’n cael eu dirwyn i ben.