Triathlon Abertawe 2022 Y Drindod Dewi Sant
31.05.2022
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn ras Triathlon Abertawe Y Drindod Dewi Sant yng nghanol y ddinas, ger Ardal Arloesi SA1 y Brifysgol.
Cafodd pob un o’r pedair ton yn Noc Tywysog Cymru ei dechrau gan yr Athro Ian Walsh, Profost campysau Abertawe a Chaerdydd y Brifysgol.
Triathlon Abertawe Y Drindod Dewi Sant yw un o brif rasys triathlon sbrint y wlad a chaiff ei ddarlledu trwy bartneriaid cyfryngau Activity Wales Events, sef Channel 4 ac Eurosport.
Fel y holl ddigwyddiadau sy’n cael eu cefnogi gan y Brifysgol, mae Triathlon Abertawe Y Drindod Dewi Sant yn gyfle gwych i fyfyrwyr ar draws holl gampysau’r Drindod Dewi Sant gael profiad gwaith bywyd go iawn.
Mae cael tîm o staff a myfyrwyr yn cystadlu yn y triathlon wedi darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ar ystod o gyrsiau sy’n gysylltiedig â chwaraeon gael profiad o weithio gyda chleientiaid. Mae myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi profi a hyfforddi cleientiaid, ac mae myfyrwyr Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi darparu cymorth tylino ac anafiadau.
Dyma un o nifer o ddigwyddiadau chwaraeon proffil uchel sy’n cael eu cefnogi gan y Brifysgol eleni. Mae’r Drindod Dewi Sant yn noddi’r digwyddiad IRONKIDS Wales ar 10 Medi yn rhan o’i phartneriaeth gydweithredol gyda IRONMAN Wales.
Mae’r Brifysgol hefyd yn cefnogi’r digwyddiad Cyfres Para Triathlon y Byd yn Abertawe ar ddydd Sadwrn, 6 Awst, a triathlon Abertawe IRONMAN 70.3, sy’n cael ei gynnal ar ddydd Sul, 7 Awst.
Meddai’r Athro Ian Walsh: “Mae’n bleser gan y Brifysgol barhau i gefnogi Triathlon Abertawe. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o ddigwyddiad chwaraeon pwysig yng nghalon y ddinas lle mae gennym gampysau. Mae’r digwyddiad hwn yn galluogi’r Brifysgol i gydweithio gyda phartner allweddol i ddarparu buddion amlwg i brofiad myfyrwyr ond hefyd yn ein galluogi i gefnogi digwyddiad sy’n ceisio hybu gweithgarwch economaidd yn Abertawe trwy ddenu cystadleuwyr ac ymwelwyr i’r ddinas.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk