Twf personol a phroffesiynol myfyriwr ysbrydoledig yn Y Drindod Dewi Sant
21.06.2022
Dechreuodd Georgiana Serbanescu o Romania fywyd newydd yn Y DU yn 2019 i adeiladu dyfodol gwell iddi hi ei hun a'i phedair merch, ar ôl brwydro yn erbyn problemau iechyd ac ymladd dros oroesiad ei phlentyn.
Nawr ar y BA Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle ar Gampws Birmingham Y Drindod Dewi Sant, graddiodd Georgiana sy’n 42 oed yn flaenorol o goleg Fferylliaeth a threulio blynyddoedd lawer yn gweithio yn y maes hwnnw wrth fagu ei theulu yn Rwmania.
"Yn 2009 agores i fy fferyllfa fy hun, a’i rheoli tan 2013 pan gafodd fy nhrydedd ferch ei geni," esbonia Georgiana. "Roedd ganddi gyflwr iechyd gwael, felly gwerthes i fy fferyllfa drwyddedig ac ymroi i'm teulu yn unig. Roedd rhaid i ni symud i Chicago ar gyfer llawdriniaethau fy merch, lle cafodd hi nifer o drawsblaniadau croen, ymyriadau ailadeiladu ac ehangu meinwe."
"Wedi hyn i gyd, dyma ni’n gadael Chicago a dod i'r DU achos roeddwn i eisoes yn gyfarwydd â'r iaith ac mae llawer o gyfleoedd ar gyfer twf personol a gyrfaol yma. I'r plant, roeddwn hi’n teimlo mai hon oedd y ffordd orau o bennu eu llwybr mewn bywyd, a rhaid i mi gyfaddef, roedd gen i barch, edmygedd a diddordeb bob amser yn niwylliant a gwerthoedd Prydain y mae'r DU yn eu hyrwyddo. Hefyd, gallwch chi astudio a gweithio ar yr un pryd yma, sy'n anhygoel i mi! "
Penderfynodd Georgiana symud ei gyrfa i gyfeiriad Rheoli felly dewisodd gwrs yn Y Drindod Dewi Sant Birmingham. Yn y pen draw, ei nod yw gweithio i AD neu addysgu ar lefel Addysg Uwch, yn ogystal â’i breuddwyd bersonol: "Yn gyn-hyfforddwr dawnsio, byddwn i hefyd wrth fy modd yn agor fy stiwdio ddawns fy hun gyda chlwb coffi hamddenol hefyd "
Mae'r cwrs yn ei helpu i symud tuag at wireddu’r holl nodau a breuddwydion hyn. Mae dysgu am yr holl ddamcaniaethau gwahanol wedi caniatáu iddi lunio ei syniadau ei hun am arweinyddiaeth a rheolaeth, ac ar y modylau mae hi wedi darganfod ei chymhelliant, ei phenderfyniad a'i graean ei hun, yn ogystal â meddwl yn feirniadol, gwell ysgrifennu academaidd a siarad o flaen pobl.
Meddai'r Uwch Ddarlithydd Yohan Mendis: "Mae Georgiana yn esiampl o fyfyrwraig sy'n boblogaidd nid yn unig ymhlith ei chyfoedion, ond hefyd ymhlith yr aelodau staff sy'n gysylltiedig â hi. Mae’n dod â’i hangerdd a'i brwdfrydedd gyda hi i unrhyw dasg sydd o’i blaen" – ansawdd sy'n amlwg yn ei phenderfyniad personol ym mywyd y teulu yn ogystal â'r byd academaidd.
"Fy hoff fodylau hyd yma yw Rheoli Prosiectau a Mentro, a Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau," meddai Georgiana wrthym. "Rwyf wedi bod yn dysgu am syniadau, strategaethau a damcaniaethau newydd ym maes Arweinyddiaeth a Rheoli Busnes, yn sicr bydda i’n gallu eu defnyddio yn fy nyfodol."
Ond, gan ddangos ei bod hi’n well achub ar bob cyfle, yn syth, mae Georgiana wedi dod o hyd i ffordd o ddefnyddio ei sgiliau newydd ar unwaith: "Mae gen i'r fraint a'r anrhydedd o weithio i'r Brifysgol anhygoel hon hefyd, sy'n gam pwysig iawn yn natblygiad fy ngyrfa."
"Byddwn i’n argymell Y Drindod Dewi Sant a'r cwrs hwn yn gryf i eraill am y persbectif gwych a'r cyfleoedd i dyfu'n bersonol ac yn broffesiynol," meddai Georgiana. "Mae'r staff a'r tîm yn weithwyr proffesiynol arbennig, anhygoel sydd yno o hyd i fyfyrwyr, a chydweithwyr. Rwyf wedi cael y cyfle i gymdeithasu ac adeiladu cyfeillgarwch a chysylltiadau proffesiynol.
"Mae gwerthoedd y Brifysgol yr un fath â'm gwerthoedd i. Rwy'n caru pobl, ac rwyf wrth fy modd yn helpu pobl – i mi, dylai bywyd fod fel teulu, cyfarfod a helpu eraill. Mae bod yn ysbrydoliaeth ac ysgogi eraill yn bwysig iawn, oherwydd dydw i ddim yn credu mewn geiriau a syniadau yn unig; Rwy'n credu mewn gweithredu, mewn gwneud pethau, mewn bod yn ddilys ac yn real, ac rwy'n credu bod Y Drindod Dewi Sant 100% yn cyd-fynd â'm gwerthoedd ar hyn.
"Mae pobl yma fel teulu, sef yr hyn roeddwn i'n ei ddymuno. Maent yn eich helpu i gyflawni prosiectau sy'n agor drysau i gyfleoedd eraill, ac i dyfu i mewn i'ch gyrfa. Hefyd i’ch helpu eich hun – yn enwedig eich hun. Mae gen i anabledd, fy nghyflwr iechyd, ac mae'r Brifysgol wedi fy helpu i feithrin fy hunan-barch fy hun gan fod yn barod ei chymorth i mi bob cam o'r ffordd. Mae hynny’n golygu llawer. "
Mae sylw olaf Georgiana yn taro deuddeg: "Gall gwybodaeth newid, a bydd yn newid eich bywyd mewn ffordd well o lawer, am byth. Fodd bynnag, rhaid i chi weithio'n galed, bod yn ddyfal a gwneud aberth i agor y drysau i'ch breuddwydion."
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078