Un o raddedigion Dylunio Graffig y Drindod Dewi Sant ar y llwybr i lwyddiant
12.07.2022
Fe wnaeth Harry Wilson, un o raddedigion Dylunio Graffig y Drindod Dewi Sant, gofrestru yn y Brifysgol yn 23 oed, ar ôl treulio 4 blynedd yn gweithio yn y sector Iechyd Meddwl.
Dywedodd ei fod wedi eisiau mynd i'r brifysgol erioed ond nad oedd yn credu ei fod yn ddigon da – "felly, ces i swydd a chynilo ar gyfer fy MacBook Pro cyntaf ac adeiladu portffolio o waith yn barod i wneud cais am y cwrs.”
Heddiw, mae’n graddio mewn seremoni yn Arena newydd Abertawe, ac ef yw’r cyntaf o’i deulu agos i wneud hynny. Mae’n rhoi clod i’r Brifysgol am ei arwain tuag at lwybr gyrfa llwyddiannus.
Meddai: “Rydw i wastad wedi bod wrth fy modd gyda chelf. Byddwn yn cymryd oriau i orffen fy narluniau a byddai hynny'n gwneud i mi deimlo’n rhwystredig, felly dyna wnaeth fy nenu at ddylunio graffig, diwydiant cyflym lle gallwn integreiddio darlunio pe bawn i eisiau.
“Fy nodau wrth ymgymryd â'r cwrs hwn oedd bod y cyntaf yn fy nheulu i gael gradd ac i wneud fy Mam a'm diweddar ewythr Bill yn falch.
“Uchafbwyntiau'r cwrs oedd gweithio gyda'r darlithwyr gan ddysgu rhywbeth newydd bob tro y byddem yn siarad. Roeddwn i wrth fy modd â'r ail flwyddyn yn arbennig heb bwysau'r drydedd flwyddyn, roeddwn i'n gallu archwilio fy holl syniadau a pheidio â dal yn ôl.
“Byddwn yn argymell y cwrs hwn. Waeth beth fo'ch gallu neu'ch arddull, bydd y darlithwyr yn eich tywys i fod y fersiwn orau ohonoch chi'ch hun heb roi unrhyw bwysau arnoch chi i newid neu ddilyn y drefn.
“Fy nghynlluniau yw parhau i adeiladu portffolio amlbwrpas sy'n denu'r cyflogwyr cywir a dal ati i roi fy enw allan yno nes bod y bydysawd yn ateb fy ngweddïau.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk