Un o raddedigion Dylunio Graffig Y Drindod yn ennill cyfle mawr gyda Sky


21.07.2022

Mae Erin Jefferys, a raddiodd yr wythnos hon o’r BA Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Abertawe  Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod), wedi ennill interniaeth â thâl gyda Sky Creative wedi iddynt weld ei gwaith yn yr arddangosfa New Designers yn Llundain.

Roedd Erin yn arddangos portffolio o waith gradd ochr yn ochr â’i chyd-fyfyrwyr o Goleg Celf Abertawe a channoedd o brifysgolion eraill y DU pan welwyd ei thalent gan y cwmni adloniant enwog, â’i dewisodd ar gyfer cyfle interniaeth â thâl gyda’r tîm dylunio.

Dewisodd Sky Creative Erin yn enillydd o blith yr holl arddangoswyr Dylunio Graffig, Darlunio, Animeiddio, Symudiad a Chelfyddydau Digidol yn New Designers, gan ddyfarnu’r wobr i’r “person sy’n dangos awydd i greu mewn gwell. Sydd ag awch i ddatblygu cynnyrch, crefft a gweithredu i’r lefel nesaf. Rhywun â sgiliau dylunio eithriadol, sy’n gallu meddwl am syniad unigryw a dod ag e’n fyw. Syniad byddai’n dda gennym pe baem ni wedi meddwl amdano.”

Dywed Erin: “Cefais fy magu mewn gwahanol wledydd dros y byd gan bobl a ddangosodd i mi nad oedd ots lle’r rydych yn byw, pa iaith rydych yn siarad na pha liw yw eich croen, mae pawb yn gyfartal.” Mae’n disgrifio ei gwaith buddugol fel “adfyfyrdod personol ar ymgorfforiad diwylliant yn Ne Affrica, ochr yn ochr â’m diniweidrwydd dedwydd o dyfu fyny fel De Affricanes wen yn Affrica.”

Meddai Donna Williams, Rheolwr y Rhaglen Dylunio Graffig yn Y Drindod:  “Am ganlyniad gwych i Erin Jefferys gyda gwobr enfawr gan Sky Creative am ei Phrosiect Annibynnol. Mae’n bleser o’r mwyaf cael rhannu deilliannau prosiectau myfyrwyr gyda’r diwydiant yn New Designers ac i’r myfyrwyr dderbyn adborth mor bositif.

“Mae pob myfyriwr yn cael cyswllt gyda diwydiannau creadigol, ac rydym yn falch i hwyluso hyn drwy gymryd myfyrwyr i New Designers yn Llundain bob blwyddyn. Sky Creative yw asiantaeth greadigol fewnol fwyaf Ewrop ac fe fydd y cyfle hwn yn ddechreuad gwych i yrfa Erin.

Dywed Gavin Kirby, Uwch Ddarlithydd mewn Dylunio Graffig: “Mae Coleg Celf Abertawe Y Drindod wedi cael ei chanmol yn gyson am ba mor broffesiynol, barod am y diwydiant ac ar y blaen o ran sgiliau mae ein graddedigion. Mae hyn yn dilysu’r hyn a ddysgwn ar y BA Dylunio Graffig – ac nid yw Erin yn eithriad. Dymunwn y gorau iddi ar gyfer ei hinterniaeth a’r dyfodol tu hwnt i hynny, rwy’n siŵr y bydd yn ddisglair.”

Wedi'i sefydlu yn 1853, mae Coleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr cyrsiau sy'n gysylltiedig â'r Celfyddydau yng Nghymru a'r DU, gan ddod yn 3ydd yn y DU o ran Dylunio a Chrefft, 5ed yn y DU o ran Celf, a 9fed  yn y DU o ran Ffasiwn a Thecstilau.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

E-bost: ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn: 07384467078