Un o raddedigion Ffotograffiaeth PCYDDS yn gwneud interniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol
17.08.2022
Gwnaeth Emily Sullivan, a astudiodd BA Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, interniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, Ceredigion rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst.
Roedd y cyfle interniaeth yn golygu bod Emily yn cydweithio'n agos â thîm ffotograffiaeth swyddogol yr Eisteddfod, dan arweiniad Aled Llywelyn, i ddogfennu'r digwyddiad. Hwn oedd y lle perffaith i Emily ddefnyddio’r sgiliau ac wedi eu dysgu o'i gradd a'u rhoi ar waith ar ôl graddio'r haf hwn.
Meddai Emily wrthym: "Mi wnes i weithio gydag Aled Llywelyn a gweddill y tîm o ffotograffwyr yn yr Eisteddfod, a chanolbwyntio ar friffiau gosodedig i ddatblygu fy sgiliau mewn amgylchedd gwaith. Ces i gyfle hefyd i weld sut mae ffotograffwyr proffesiynol yn gweithio ac yn rheoli eu ffeiliau, ac yn derbyn adborth ac arweiniad ar yr hyn y gwnes i ei gynhyrchu.
"Dwi newydd raddio o fy ngradd BA Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau a byddaf yn dechrau MA mewn Hysbysebu ym mis Hydref, felly roedd yr interniaeth yn gyfle gwych i gael profiad yn y maes cyn symud i yrfa debyg, gobeithio."
Meddai Gwenllian Beynon, Uwch Ddarlithydd yn Y Drindod Dewi Sant: "Mae'n wych bod Emily wedi cael y cyfle i wneud interniaeth yn ffotograffydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Rhoddodd Aled y cyfle hwn i Emily a myfyrwyr eraill a oedd yn dymuno cymryd rhan, ac rwy'n siŵr y bydd Emily wedi elwa llawer o'r wythnos hynod o brysur a dreuliodd yn ei thrwytho ei hun ym mhob un o'r cyfleoedd y gall digwyddiad cenedlaethol ei gynnig."
Meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod: "Roeddem i’n falch iawn o groesawu Emily i'r tîm ffotograffig yn Eisteddfod Ceredigion. Asiodd hi’n dda â gwaith y tîm a chyfrannodd rai delweddau rhagorol a ddefnyddiwyd yn allbwn cyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod a mannau eraill.
"Mae pawb yn yr Eisteddfod yn dymuno'n dda i Emily yn y dyfodol."
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod wythnos gyntaf mis Awst bob blwyddyn, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad o ddiwylliant ac iaith Cymru. Mae'r ŵyl yn teithio o le i le, am yn ail rhwng gogledd a de Cymru, gan ddenu tua 150,000 o ymwelwyr a thros 250 o stondinau masnach a stondinau. Mae'r Eisteddfod yn llwyfan naturiol i gerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, perfformiadau gwreiddiol a llawer mwy.