Un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant yn dechrau swydd newydd yn Arena Abertawe


11.02.2022

Mae un o raddedigion Rheolaeth Twristiaeth a Hamdden Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cael ei phenodi gan yr Ambassador Theatre Group i fod yn Rheolwr Gwerthiannau a Datblygu i Arena Abertawe.

Rhiannon Boyce- Coles from Swansea will be working as part of a team to attract world class music and theatre entertainment to the 3,500-capacity arena, which is being operated by Ambassador Theatre Group (ATG) and is one part of the emerging £135 million Copr Bay phase one district being developed by Swansea Council and advised by development manager RivingtonHark.

Bydd Rhiannon Boyce-Coles o Abertawe, yn gweithio fel rhan o dîm i ddenu cerddoriaeth ac adloniant theatr o’r radd flaenaf i’r arena sy’n dal 3,500 o bobl, ac sy’n cael ei gweithredu gan yr Ambassador Theatre Group (ATG). Mae’n rhan o gynllun datblygu Cam Un Bae Copr  sydd werth £135 miliwn ac sy’n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe gyda chyngor gan y rheolwr datblygu RivingtonHark.

Meddai Rhiannon ei bod hi’n edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol, a chynnal digwyddiadau, seremonïau a gwleddoedd yn yr arena, yn ogystal â gofalu am westeion corfforaethol a noddwyr.  

Dywedodd: “Rwy’n falch dros ben i weithio yn Arena Abertawe. Mae ymuno â’r tîm gwych sydd yma yn yr Ambassador Theatre Group, prif sefydliad theatr y byd, mor wefreiddiol.

“Rwy’n falch dros ben fy mod yn byw yn Abertawe; gwelais yr adeilad hwn yn cael ei adeiladu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac felly, rwyf wedi cynhyrfu’n fawr i weithio bellach yn yr adeilad eiconig hwn ac i fod yn rhan o’i siwrnai”

Meddai Rhiannon fod y Brifysgol wedi tanio ei brwdfrydedd am yrfa yn y sector lletygarwch.  

“Rwy’n cofio mynychu diwrnod agored yn Y Drindod Dewi Sant, a gwrando ar y tîm yn sôn am gynnwys y cyrsiau. Roeddwn yn falch i glywed am y cyfleoedd i deithio yn y DU ac yn rhyngwladol ar gyfer lleoliadau gwaith. Roedd eu brwdfrydedd dros dwristiaeth a lletygarwch yn heintus! Wna’i fyth anghofio brwdfrydedd a chynnwrf Jacqui Jones (cyfarwyddwraig y rhaglen) pan wnaeth hi ddweud wrthym y gallem ni wneud ceisiadau i weithio yn y Walt Disney World Corporation yn Florida, yn y  ‘CN Tower’ yn Toronto, neu yng ngwesty Little Nell yn Aspen, Colorado. Roeddwn yn gwybod ar unwaith ar ôl ymadael â’r diwrnod agored hwnnw mai Y Drindod Dewi Sant oedd fy newis cyntaf. Yn bendant, fe wnes i'r penderfyniad cywir.” 

Yn ystod ei chyfnod yn Y Drindod Dewi Sant, soniodd Rhiannon fod y cwrs wedi rhoi’r hyder iddi hi fynd i chwilio am gyfleoedd o fewn ei gyrfa i ddatblygu, yn ogystal â datblygu ei chariad at deithio, ieithoedd a diwylliant. Daeth hi hefyd yn ymwybodol o’r cyfleoedd a’r cysylltiadau gwerthfawr â sefydliadau byd-eang sydd ar gael yn lleol, rhywbeth a wnaeth hi deimlo’n falch ac yn ffodus ei bod hi’n byw ac yn gweithio yn Ne Cymru, ac yn medru galw Abertawe yn gartref.

“Cefais gefnogaeth a mentora rhagorol yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ” ychwanegodd.  “Roedd hi’n wych cael darlithwyr a oedd wedi gweithio yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch, a dysgu’n uniongyrchol o’u gwybodaeth a’u harbenigedd. Teimlaf yn lwcus iawn fy mod wedi cael gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr y diwydiant sydd mor dalentog i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau gyda ni yn ddyddiol.”

Ers graddio, mae Rhiannon wedi cadw mewn cysylltiad â’r Drindod Dewi Sant, ac yn falch bod ei darlithwyr bob amser wedi bod ar gael i roi cyngor ar ei gyrfa, ac i fentora.

Mae Rhiannon hefyd wedi gweithio’n agos gyda myfyrwyr a staff academaidd o’r cwrs BA Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol yn ystod ei rôl fel rheolwr yng Ngwesty’r Marriott yn Abertawe. Rhoddodd hwn y cyfle iddi allu rhannu ei gwybodaeth a’i phrofiad gyda myfyrwyr.

“Gwnaeth Y Drindod Dewi Sant roi i mi’r theori a’r wybodaeth ymarferol oedd eu hangen arnaf ar gyfer gyrfa o fewn y diwydiant lletygarwch. Roeddwn yn ddigon ffodus i gael dau leoliad gwaith yn ystod fy astudiaethau: un ohonynt yng nghyrchfan World Disney yn Florida. Gwnaeth hyn danio’r brwdfrydedd ynof i ymddiddori yn y byd adloniant, twristiaeth a lletygarwch, yn ogystal â rhoi hyfforddiant i mi o’r radd flaenaf mewn darparu gwasanaethau cwsmeriaid.”

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen y Portffolio Twristiaeth a Digwyddiadau: "Mae gwylio gyrfa Rhiannon wrth iddi barhau i ddatblygu wedi bod yn wych! Rydym wedi bod yn rhedeg graddau Twristiaeth arbenigol am bron 30 o flynyddoedd ac mae hi’n foddhaol i wybod bod ein graddedigion yn dal i werthfawrogi’r hyfforddiant o’r radd flaenaf a’r cyfleoedd a gawsant oherwydd eu lleoliadau yn Disney World, Florida a’u hastudiaethau yn y brifysgol."

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk