Un o raddedigion y Drindod Dewi Sant yn llwyddo i gael ei swydd ddelfrydol gyda Virgin Media ar ôl defnyddio ei Gyfrif Dysgu LinkedIn.


02.02.2022

Mae un o raddedigion BA Cyfryngau Newydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi llwyddo i gael ei swydd ddelfrydol yn gweithio i Virgin Media, ar ôl defnyddio ei gyfrif dysgu LinkedIn i’w helpu i wneud cais am y swydd a thynnu sylw at ei hun.  

A BA New Media graduate from The University of Wales Trinity Saint David has secured his dream job working for Virgin Media, after using his LinkedIn Learning account to help him apply for the job and to get noticed.

Graddiodd Tom Jenkins o Dde Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2017. Mae Tom bellach yn olygydd fideo ac animeiddydd gyda Virgin Media, yn gweithio ochr yn ochr â Holly Branson ar amrywiol brosiectau.

Yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol, penderfynodd Tom gynyddu ei gysylltiadau o fewn y diwydiant ac yna llwyddodd ddod o hyd i brofiad gwaith perthnasol. Gweithiodd i stiwdio deledu am 3 mis, gan gael nifer o swyddi unigol yn y cyfryngau gyda sawl cwmni cynhyrchu a rhai ffrindiau, cyn dechrau gweithio i gwmni teledu arall am dair blynedd.

Fel rhan o’i astudiaethau, dylanwadwyd ar Tom hefyd i rwydweithio a chydweithio gyda brandiau ac asiantaethau ar ôl iddo raddio. Un enghraifft o hyn oedd bod yn bresennol ar LinkedIn a defnyddio’r platfform dysgu.

Meddai Tom, ar ôl iddo raddio: “Roedd nifer o swyddi golygu fideos ar gael a chymaint o bobl yn gwneud ceisiadau amdanynt, ac felly roedd hi’n anodd cael eich gweld ymhlith y dorf. Gwelais fod LinkedIn wedi dechrau cynnig profion lle y byddech chi’n gallu tynnu sylw at eich sgiliau pe baech yn pasio. Gwnes sefyll prawf Golygydd Fideo a chefais sgôr ymhlith y 10% uchaf, un a gafodd ei arddangos ar fy mhroffil LinkedIn i bawb ei weld.”

Yn fuan wedyn, gwnaeth Tom gais am ei swydd bresennol, a chafodd gyfle i dynnu hyd yn oed mwy o sylw at ei sgiliau, cyn cael cynnig y swydd. Gwnaeth sefyll allan o’r dorf drwy atgyfnerthu ei broffil LinkedIn, a gwnaeth hyn dynnu sylw Virgin.  

Meddai Dr Brett Aggersberg, Darlithydd Ffilm a’r Cyfryngau:

“Rydym yn falch iawn o gyflawniadau Tom ers iddo raddio ar ein cwrs. Mae ef wedi mynd o nerth i nerth, ac mae ganddo ymagwedd broffesiynol at ei ddatblygiad sgiliau o fewn y diwydiannau creadigol. Rydym yn annog pob myfyriwr ffilm a’r cyfryngau sy’n astudio am ein graddau BA Gwneud Ffilmiau Antur, BA Gwneud Ffilmiau  ac am ein BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, a leolir yng Nghaerfyrddin, i ddefnyddio  LinkedIn o’u diwrnod cyntaf yn y brifysgol. Mae’n ffordd wych o dynnu sylw at eich sgiliau a’ch profiad. Erbyn hyn, mae’n rhan hanfodol o ddod o hyd i waith oherwydd bod llawer o gwmnïau o fewn y diwydiannau creadigol yn adolygu eich proffil LinkedIn cyn eich gwahodd i gyfweliad. Mae hwn hefyd yn ddull mwy rhyngweithiol o dynnu sylw at eich CV gyda chyfraddiadau sgiliau, profiad blaenorol, a chysylltedd â gwaith blaenorol i gyd yn bosibl. Dymunwn bob lwc i Tom ar gyfer y dyfodol ac edrychwn ymlaen at ei weld ryw ddydd yn dychwelyd i’r Brifysgol i roi darlith fel siaradwr gwadd.”

A BA New Media graduate from The University of Wales Trinity Saint David has secured his dream job working for Virgin Media, after using his LinkedIn Learning account to help him apply for the job and to get noticed.

Teimla Tom fod Platfform Dysgu LinkedIn wedi ei helpu i lwyddo cael ei swydd ddelfrydol, a’i gyngor ef i fyfyrwyr presennol yw ei ddefnyddio i’w lawn botensial.

“Fy nghyngor i’r myfyrwyr presennol fyddai cynyddwch eich cysylltiadau, adeiladwch eich portffolios, ac ymchwiliwch i’ch hoff frandiau er mwyn gweld beth maen nhw’n ei wneud i dynnu sylw pobl. Defnyddiwch LinkedIn i hyrwyddo ac i uwchsgilio eich hun er mwyn ennill tystysgrifau ar LinkedIn Learning.”

Meddai Tamara Lewis, Ymgynghorydd Sgiliau Digidol yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd: “Mae’r hyn y mae Tom wedi’i gyflawni  ers iddo orffen ei radd yn enghraifft ffantastig o sut gall graddedigion newydd ragori drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus, ymrwymiad ac uwchsgilio. Dyna pam, rydym ni fel Prifysgol wedi penderfynu lansio LinkedIn Learning ar gyfer pob un o’n myfyrwyr, gan gynnig iddynt gyfleoedd rhagorol a setiau o sgiliau ar gyfer dechrau yn y gweithle modern. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i annog pob un o’n myfyrwyr i sicrhau eu bod nhw’n cael eu gweld ar LinkedIn, a defnyddio’n drwyadl y platfform dysgu i’r eithaf er mwyn rhagori yn y byd digidol modern hwn.”

Caiff myfyrwyr presennol Y Drindod Dewi Sant eu hannog yn gryf gan adran Sgiliau Digidol y Brifysgol i ddilyn olion traed Tom ac ymgofrestru am Gyfrif Dysgu LinkedIn. O Ionawr 31ain 2022, bydd pob myfyriwr o’r Brifysgol yn gallu cael mynediad at hwn am ddim.

 

A BA New Media graduate from The University of Wales Trinity Saint David has secured his dream job working for Virgin Media, after using his LinkedIn Learning account to help him apply for the job and to get noticed.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk