Urdd Gobaith Cymru yn agor swyddfa yn Yr Egin.


25.05.2022

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi agor swyddfa’n ddiweddar yng Nghanolfan S4C Yr Egin.

Tu Fewn yr Egin - Y Galon

Wrth wraidd y sector creadigol yn ne-orllewin Cymru, y mae Canolfan S4C Yr Egin ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin yn ysbrydoli creadigrwydd a dychymyg, gan feithrin talent ar gyfer y dyfodol.

Bydd yr Urdd yn ymuno ag amryw o denantiaid wrth ymgartrefu yn Yr Egin,sy’n bencadlys i S4C,  ac yn gartref i nifer o gwmniau ym maes cynhyrchu, dylunio a chyfieithu.

Mae swyddfa newydd yr Urdd yn gartref i dîm Urdd Myrddin a hefyd yn cael ei ddefnyddio gan nifer o staff ac adrannau’r mudiad o draws y rhanbarth gan gynnwys adran yr Eisteddfod a Chwaraeon ac yn fan cyfarfod defnyddiol  i swyddogion celfyddydol Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro. Ers iddynt agor swyddfa yn Yr Egin, mae’r Urdd wedi llwyddo i wneud y defnydd mwya’ o’r cyfleusterau sydd gan y ganolfan i’w gynnig sy’n cynnwys cysylltedd cyflym, ffrydio proffesiynol a chyfleon i gydweithio.

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru,

“Rydym yn falch o fod wedi agor swyddfa newydd yng nghanolfan Yr Egin, Caerfyrddin. Dyma gyfle i’n staff i gyd-weithio’n agosach gyda’r holl gwmnïau a sefydliadau sydd ar safle’r Egin gan obeithio cynnal gweithgareddau amrywiol ar y cyd a manteisio ar y defnydd o adnoddau modern ac arloesol yr adeilad. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r bartneriaeth a chryfhau ein darpariaeth a chyfleoedd i blant a phobl ifanc i’r dyfodol.”

Yn wir, mae hyn eisoes ar waith, cynhaliwyd gweithdy Effeithiau Sain i Ffilm  hynod lwyddiannus ac  arddangosfa gelf a mae yna edrych ymlaen di-ddiwedd i gynnal twrnament FIFA ar ddiwedd y gwyliau haf.

Wrth i Sir Gaerfyrddin edrych ymlaen at groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn nesa’, a pharatoadau ar gyfer y cystadlu a pherfformiadau ar waith ar hyd a lled y sir, mi fydd y swyddfa yn Yr Egin siwr o brysuro eto .

Meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin: “Mae’n newyddion arbennig medru croesawu‘r Urdd i'r  Egin, maen’t yn atodiad gwych i’r gymuned greadigol sy’n gweithio yma eisoes. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r mudiad yn eu cenhadaeth i  gynnig cyfleon yn y Gymraeg i blant a phobl ifanc sy’n cydfynd yn llwyr gyda gweledigaeth Yr Egin i godi statws y Gymraeg a’i diwylliant yng Nghaerfyrddin a’r ardal gyfagos mewn modd cyhoeddus, cyfoes a chyffrous.”

 

The creative sector in South West Wales is thriving, thanks to a combination of world class facilities, talent and training.   At its heart, Canolfan S4C Yr Egin, based on the University of Wales Trinity Saint David campus in Carmarthen, inspires creativity and imagination, fostering talent for the future.

 

 

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk