Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes


24.01.2022

Bydd arddangosfa newydd yn agor ar gampws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddydd Mawrth, Ionawr 25, yn cynnwys straeon am sut y gwnaeth Cenhedlaeth Windrush wneud eu cartrefi yng Nghymru.

UWTSD Photojournalism & Documentary Photography graduate Antonia Osuji, who is currently working as an intern with Race Council Cymru, has worked primarily through the medium of photography to help record and document their stories for the exhibition.

Bydd ‘Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes’ i’w gweld yn y Llyfrgell tan fis Ebrill, i ddathlu daucanmlwyddiant y Brifysgol, ac fel rhan o daith yr arddangosfa ledled Cymru tan fis Mawrth 2022.

Yn 1948, cyrhaeddodd yr Empire Windrush Ddociau Tilbury yn Essex gan gludo dros 1,000 o deithwyr o Ynysoedd y Caribî. Buont yn ddewr wrth iddyn nhw adael eu ffrindiau a’u teuluoedd yn ôl adref mewn ymateb i alwad Prydain am weithwyr ar ôl y rhyfel. Dros y 40 mlynedd nesaf, dilynodd miloedd yn ôl eu traed, gyda llawer yn gwneud Cymru yn gartref newydd iddynt.

Mae’r arddangosfa, sy’n cael ei chyflwyno gan Race Council Cymru a’i hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn cynnwys straeon mwy na 40 o Genhedlaeth Windrush Cymru, wedi’u hadrodd yn eu geiriau eu hunain.

Mae’n gyfle i ymwelwyr ddysgu am eu teithiau i Gymru, a’r heriau a wynebwyd ganddynt wrth adeiladu bywyd newydd mewn gwlad ymhell o’u mamwlad – dod o hyd i waith ac agweddau pobl tuag atynt.

Mae’r straeon yn dangos sut mae Cenhedlaeth Windrush Cymru, a’u disgynyddion, wedi gwneud eu marc ar draws Cymru: trwy’u swyddi, y gyrfaoedd a adeiladwyd ganddynt, y plant a godwyd ganddynt, a’r cyfraniadau a wnaethant i’n cymunedau a’n diwylliant.

Dywedodd yr Athro Uzo Iwobi, OBE, sylfaenydd Cyngor Hil Cymru a sefydlydd prosiect Windrush Cymru - Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes:

“Rwy’n falch o fod wedi cefnogi’r Henoed ers blynyddoedd lawer, gan wrando ar eu hapêl i gael clywed eu straeon a pharhau â’u hetifeddiaeth er mwyn eu plant a’u hwyrion. Rwy’n falch iawn bod y prosiect a’r arddangosfa wedi dwyn ffrwyth - mae’n hynod bwysig gweld y straeon hyn yn cael eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.”

Dywedodd Vernesta Cyril, OBE: “O’r diwedd mae cymdeithas wedi cydnabod Cenhedlaeth Windrush, felly gellir adrodd ein straeon am genedlaethau i ddod”.

Ychwanegodd Mrs Roma Taylor, Sylfaenydd a Chadeirydd Henoed Windrush Cymru, “Rwyf mor falch o'r arddangosfa hon, mae'n foment werthfawr i bob un ohonom. Ein straeon ni ydyn nhw ac os na fyddwn ni'n eu hadrodd ni fydd neb yn gwybod amdanynt. Mae Windrush yn bwnc poenus ac emosiynol iawn ond mae'n rhaid i bob pobl yn clywed ein straeon. Mae'n bwysig i ni, ein plant a'n hwyrion ac i ysgolion. Mae'n rhaid i bawb wybod ein bod ni wedi bod trwy dipyn. Mae Duw wedi dod â ni drwodd. Tiger Bay oedd y lle gorau i fyw, fe ddes i draw yn ‘59. Roedd pawb i bawb, roedd pawb yn gofalu am bawb a doedd dim problem gyda chi.”

Mae Antonia Osuji, un o raddedigion Ffotonewyddiaduraeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol PCYDDS, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel intern gyda Race Council Cymru, wedi gweithio’n bennaf trwy gyfrwng ffotograffiaeth i helpu i gofnodi a dogfennu eu straeon ar gyfer yr arddangosfa.

Dywedodd Alison Harding, Pennaeth Gweithredol Gwasanaethau Llyfrgell yn Brifysgol: “Rwyf mor falch ein bod yn gallu gwneud yr arddangosfa ryfeddol hon yn hygyrch i gymuned Llanbedr Pont Steffan a’r cyffiniau. Mae adrodd straeon cenhedlaeth Windrush yng Nghymru yn garreg filltir bwysig i’n cenedl. Mae’n allweddol ein bod yn gwrando ac yn dysgu o’u straeon yn eu lleisiau eu hunain, dyma eu hanes ond hefyd hanes Cymru.”

Mae arddangosfa ‘Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes’ yn rhan o gyfres o arddangosfeydd ffisegol ac ar-lein a drefnwyd gan staff Llyfrgell y Brifysgol i goffau daucanmlwyddiant sefydlu Coleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan ar 12 Awst 1822. Drwy gydol y flwyddyn, mae cyfres o arddangosfeydd a seminarau wedi eu trefnu i arddangos y Casgliadau Arbennig a gedwir yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk