Y Drindod Dewi Sant a Chriced Cymru yn dod at ei gilydd!
24.01.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chriced Cymru yn falch o gyhoeddi partneriaeth gyffrous i wella cyfleusterau criced yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Jack Tremlett - Rheolwr y Ganolfan Chwaraeon Steve Hagget - Arweinydd Llwybr Rhanbarthol - Criced Cymru, Cenwyn Jones- Pennaeth Gwasanaeth Technegol , Matt Thompson- Pennaeth Llwybr Talent at Criced Cymru, Gwilym Dyfri Jones - Profost Campws Caerfyrddi, Keri Chahal- Rheolwr Ardael y De Orllewin - Criced Cymru
Bydd y cydweithio rhwng y ddau sefydliad yn cynnwys gosod cawell criced tri bae yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol ar gampws Caerfyrddin.
Bydd y rhwydi'n darparu canolbwynt mawr ei angen ar gyfer criced yn yr ardal, gan hwyluso cyfleoedd i fyfyrwyr y Brifysgol yn ogystal â phobl ifanc yn y gymuned gymryd rhan mewn criced drwy glwb, coleg y Bwrdd Llywodraethu Cenedlaethol a gweithgareddau hamdden eraill. Yn fwyaf nodedig, bydd rhaglen ranbarthol Criced Cymru yn defnyddio'r cyfleuster wrth i bobl ifanc ledled Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin geisio hogi eu sgiliau yn rhan o'r llwybr cenedlaethol.
Mae'r Brifysgol yn ymfalchïo yn ei hymrwymiad clir i arloesedd, mentergarwch a'i gallu i arfogi graddedigion a all wneud gwahaniaeth sylweddol mewn cymdeithas. Bydd y bartneriaeth ddiweddar rhwng y ddau sefydliad yn cyfrannu at ei rôl yn natblygiad cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol, gan y bydd myfyrwyr yn gallu gwella eu cyflogadwyedd a'u profiad drwy fanteisio ar gyfleoedd ar draws rhaglenni addysg hyfforddwyr Criced Cymru. Bydd cyfleoedd profiad gwaith ym maes hyfforddiant hefyd ar gael ar y safle o fewn gweithgarwch y Bwrdd Llywodraethu Cenedlaethol ac yn ehangach ar draws y rhanbarth.
Yn Bennaeth Llwybr Talent Criced Cymru, mynegodd Matt Thompson ei ddiolchgarwch i'r Brifysgol wrth ddweud:
"Rydyn ni’n gyffrous iawn am y bartneriaeth. Cyn gynted ag y clywsom ni am ddiddordeb Y Drindod Dewi Sant yn natblygu'r ddarpariaeth hon, daeth yn amlwg yn gyflym iawn y byddai hwn yn gyfuniad perffaith. Mae'r ddau sefydliad yn angerddol am fod yn arweinwyr wrth ddarparu gwasanaethau, sy'n golygu, yn y bôn, hwyluso cyfleoedd a phrofiadau gwych i bobl ifanc.
Nid yw'n gyfrinach bod prinder cyfleusterau criced o ansawdd uchel, addas i'r diben yn y rhanbarth ac rydyn ni’n ddiolchgar i'r Drindod Dewi Sant am weithio gyda ni i ddwyn ffrwyth. Edrychwn ymlaen at flynyddoedd lawer o gydweithio a phartneriaeth."
Meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost campws Caerfyrddin: "Rwy'n croesawu'r bartneriaeth â Chriced Cymru a'r cyfleoedd y bydd yn eu darparu i'n myfyrwyr a'r gymuned yma yng Ngorllewin Cymru. Bydd y cyfleusterau newydd ar ein campws yng Nghaerfyrddin yn hwb i'r gymuned griced, gan roi mynediad i gricedwyr ifanc i'r adnoddau gorau i ddatblygu eu doniau heb orfod teithio pellteroedd mawr. Mae'r Brifysgol yn gwerthfawrogi'r cyfle i weithio gyda sefydliadau megis Criced Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithredu yn y dyfodol."
Meddai Uwch Reolwr Cydymffurfiaeth Y Drindod Dewi Sant, Cenwyn Jones hefyd:
"Mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o'r prosiect sy'n dod â chyfleusterau hyfforddi criced dan do rhagorol i'n campws yng Nghaerfyrddin gan roi cyfle i'n myfyrwyr yn ogystal â'r gymuned leol hyfforddi a datblygu eu sgiliau criced drwy gydol y flwyddyn ni waeth beth fo'r tywydd. Ar hyn o bryd ychydig iawn o gyfleusterau hyfforddi dan do sydd ar gael yn lleol, felly mae'r cyfleuster newydd hwn yn gwella'r cyfleoedd chwaraeon sydd ar gael i'n myfyrwyr, y gymuned ehangach ac o bosibl hyd yn oed sêr criced ifanc y dyfodol."
Mae'r cyfleusterau hyfforddi newydd ar gael i'w defnyddio gan glybiau ac ysgolion lleol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jack Tremlett trwy ebostio sportscentre@utwsd.ac.uk neu ffoniwch ni ar 01267 676942.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076