Y Drindod Dewi Sant ar Restr Fer Gwobrau Byd-eang y Sefydliad Lletygarwch 2022
20.06.2022
Mae cyrsiau Twristiaeth, Digwyddiadau a Hamdden yn Y Drindod Dewi Sant ynghyd â Rheolwr y Rhaglen Jacqui Jones wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer nifer o Wobrau Byd-eang enwog y Sefydliad Lletygarwch (IoH), ymhlith y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol o bob rhan o'r DU a'r sector.
Mae'r Drindod Dewi Sant wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer 'Rhaglen Addysgol Orau 2022', ac mae Jacqui Jones, Rheolwr y Rhaglen, yn rownd derfynol 'Cyfraniad Eithriadol i'r Diwydiant' yn y gwobrau eleni, sy'n arddangos y gorau sydd gan y diwydiant i'w gynnig.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn cinio seremoni yng ngwesty’r Hilton Bankside Llundain ar 4 Gorffennaf.
Meddai Robert Richardson FIH, Prif Swyddog Gweithredol IoH: "Rydym wrth ein bodd â nifer a safon yr enwebiadau sydd wedi dod i law ar gyfer y Gwobrau Blynyddol eleni. Unwaith eto, mae wedi tynnu sylw at rywfaint o'r gwaith anhygoel ar draws ein diwydiant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac rwy'n falch iawn y byddwn yn gallu dathlu eu cyflawniadau yng Nghinio Blynyddol IoH ym mis Gorffennaf."
Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen ac Uwch Ddarlithydd ar gyfer twristiaeth, digwyddiadau, a chyrsiau Rheoli Cyrchfannau Hamdden Rhyngwladol yn Y Drindod Dewi Sant: "Mae cael eich enwebu a'ch rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y 'Wobr Rhaglen Addysgol Orau' yn gydnabyddiaeth o'r holl waith anhygoel y mae ein myfyrwyr a'n tîm addysgu yn ei wneud i oresgyn effeithiau Covid.
"Er nad oeddem yn gallu cynnal teithiau maes a lleoliadau, defnyddiwyd Dosbarthiadau Meistr byd-eang ar-lein gydag arweinwyr y diwydiant a graddedigion hynod lwyddiannus i ysbrydoli ein myfyrwyr, ynghyd â theithiau rhithwir y tu ôl i'r llenni. Defnyddiwyd pob cyfle i ddatblygu sgiliau proffesiynol a diwydiant ein myfyrwyr i gefnogi'r diwydiant Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau yn barod i'r byd ailagor, a dod o hyd i ffyrdd newydd arloesol o wella eu setiau sgiliau ymhellach."
Roedd Jacqui hefyd ar y rhestr fer yn unigol ar gyfer gwobr ac ychwanegodd: "Mae'n anrhydedd i mi gael fy enwebu ar gyfer Gwobr Cyfraniad Eithriadol i'r Diwydiant, yn enwedig ymhlith rhestr derfynol mor anhygoel! Mae gen i angerdd dros y diwydiant Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau, ac mae'n bleser gen i gefnogi'r genhedlaeth nesaf. Does dim byd mwy buddiol na gwylio eu gyrfaoedd yn cychwyn."
Meddai James Hayward MIH, Rheolwr Cyffredinol Gwesty Coldra Court, Celtic Manor Collection, sy'n gweithio'n agos gyda Jacqui ar Bwyllgor IOH Cymru: "Mae wedi bod yn anrhydedd eistedd wrth ochr Jacqui Jones ar gynifer o achlysuron dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hi wedi fy ysbrydoli ac wedi fy ngyrru i ysbrydoli'r myfyrwyr."
Ychwanega Ifty H, Cadeirydd y Sefydliad Lletygarwch, fod cydnabod "brwdfrydedd a chefnogaeth anhunanol Jacqui i helpu'r genhedlaeth newydd mewn diwydiannau Lletygarwch a Thwristiaeth" yn "hollol haeddiannol".
Y Drindod Dewi Sant yw un o’r prif ddarparwyr cyrsiau yn y maes hwn, sy'n cynnwys teithiau astudio rhyngwladol, ymweliadau diwydiant ac interniaethau â thâl integredig gyda sefydliadau a digwyddiadau blaenllaw, yn lleol ac yn rhyngwladol. Drwy'r cyfleoedd hyn, gall myfyrwyr adeiladu rhwydweithiau gyrfa rhagorol gydag arweinwyr y farchnad ledled y byd.
Meddai’r Athro Wendy Dearing, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd y Brifysgol: "Rydyn ni’n hynod falch o'n holl staff a myfyrwyr sydd wedi cyflawni pethau ardderchog yn ystod cyfnod mor heriol. Roedd yr heriau a ddaeth yn sgil Covid-19 yn rhai heb eu hail. Mae'n eithaf rhyfeddol yr hyn sydd wedi'i gyflawni gan staff sydd wedi mynd y tu hwnt i ddarparu addysg o ansawdd uchel drwy gyfuniad o addysg ar-lein ac wyneb yn wyneb. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi gwneud cyfraniadau mor eithriadol. Mae Jacqui a'i thîm yn haeddu'r gydnabyddiaeth gyffrous a gwerth chweil hon."
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost : ella.staden@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384467078