Y Drindod Dewi Sant i gyd-gynnal Cynhadledd STC Ffederasiwn Ewropeaidd Gwybodeg Meddygol 2022
20.07.2022
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) yn cyd-gynnal Cynhadledd Pwnc Arbennig 2022 (STC) Ffederasiwn Ewropeaidd Gwybodeg Meddygol (EFMI) ar 7 ac 8 Medi.
EFMI yw’r prif sefydliad mewn gwybodeg meddygol yn Ewrop ac mae’n cynrychioli 32 o wledydd. Yn sefydliad di-elw, mae’n ymwneud â theori ac arfer Gwyddor Gwybodaeth a Thechnoleg o fewn Iechyd a Gwyddor Iechyd mewn cyd-destun Ewropeaidd.
Bydd Cynhadledd Pwnc Arbennig EFMI 2022 yn cael ei gynnal gan y BCS, sy’n gymdeithas aelod cenedlaethol o EFMI, mewn cydweithrediad â’r Drindod Dewi Sant ac Athrofa Cymru ar gyfer Gwybodaeth Ddigidol (WIDI).
Mae iechyd a gofal digidol yn dod yn norm ledled y byd, ond mae yna angen mawn i ymestyn y gweithlu proffesiynol medrus i ddarparu gwasanaethau gofal a alluogir gan dechnoleg. Mae thema’r gynhadledd yn amlygu pwysigrwydd hanfodol addysg gwybodeg ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal.
Meddai’r Athro Wendy Dearing, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd Y Drindod Dewi Sant: “Mae’n bleser gennym allu cefnogi cynhadledd mor bwysig.
“Ein nod, trwy gydweithio â phartneriaid, yw cynhyrchu cenhedlaeth o drawsnewidwyr digidol, entrepreneuriaid, ac arweinwyr ar gyfer y sector gofal iechyd yng Nghymru. Ni fu erioed yn fwy pwysig i’r sector gofal iechyd harneisio technoleg arloesol i helpu datrys problemau byd go iawn.”
Mae’r Gynhadledd yn cael ei chynnal ym maes pêl-droed Dinas Caerdydd ac fe fydd yn cynnwys anerchiad wedi’i gyflwyno gan y prif siaradwr, Dr Louise Schapper, Prif Swyddog Gweithredol yr Australasian Digital Health Institute, o’r enw: “Adeiladu capasiti gweithlu iechyd digidol yn genedlaethol a byd-eang”.
Mae Dr Louise Schaper yn eiriolwr brwdfrydig dros drawsnewid gofal iechyd, wedi’i alluogi gan dechnoleg ac mae hi wedi ymroddi ei gyrfa i adeiladu cymuned a chyfleoedd er mwyn datblygu’r sector.
Gyda thros 20 mlynedd o brofiad ym maes iechyd digidol, mae gan Louise wybodaeth ddofn am y maes a rhwydweithiau helaeth ar draws Awstralia ac yn rhyngwladol.
Ymhlith Pynciau’r gynhadledd mae:
Addysg mewn gwybodeg iechyd a gofal
Cydnabyddiaeth ac ardystio proffesiynol
Datblygiad proffesiynol parhaus
Datblygu cwricwlwm a deilliannau dysgu
Argymhellion rhyngwladol a chymhwysiad lleol
Sgiliau a medrau gwybodeg
Gwybodeg iechyd a gofal rhyngddisgyblaethol
Angen byd-eang mewn proffesiynoldeb gwybodeg
Dysgu o bell a chyfunol
Bydd y gynhadledd yn cynnwys papur llawn, gohebiaeth fer, a phosteri, ac mae’n dal i dderbyn cynigion ar gyfer paneli a gweithdai.
Ceir rhagor o fanylion yma: https://www.stc2022.org/
Nodyn i'r Golygydd
Dr Louise Schaper
Yn uwch aelod o gymuned iechyd digidol Awstralia, mae Dr Louise Schaper wedi treulio 10+ mlynedd yn arwain prif gorff iechyd digidol Awstralia, sef yr Australasian Institute of Digital Health, ac mae’n bartner sylfaenu Helathcare Ventures, Cronfa Cyfalaf menter iechyd digidol Awstralia.
Daw Louise â chlinigwyr, ymchwilwyr, arloeswyr, a sefydliadau o’r radd flaenaf at ei gilydd o’r sbectrwm biofeddygol, iechyd a thechnoleg sy’n ymrwymo i wella deilliannau iechyd a alluogir trwy ddefnyddiau arloesol o dechnoleg a gwybodaeth. Mae’n hwylusydd, yn arloeswr ac yn asiant dros newid sy’n archwilio a dylanwadu ar gydgyfeiriad pobl, systemau a thechnolegau yn nhrawsnewidiad a dyfodol iechyd a meddygaeth.
Yr Athro Wendy Dearing
Gyda chefndir nyrsio, mae’r Athro Wendy Dearing yn meddu ar MSc mewn Newid ac Arloesi, Cadair Athro Anrhydeddus gan Y Drindod Dewi Sant a chadair athro mewn Arfer Cymhwysol i gydnabod ei harbenigedd a gwybodaeth am eirioli proffesiynoldeb mewn technoleg a gwybodaeth.
Cyn ei rôl yn Y Drindod Dewi Sant, roedd yr Athro Dearing yn Bennaeth Gweithlu a Datblygu Cyfundrefnol yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, yn goruchwylio’r strategaeth gweithlu; cynllunio gweithlu; recriwtio a chadw; cydnabyddiaeth proffesiynol a chofrestru; addysg a hyfforddiant; llwybrau gyrfa a DPP.
Yn Gyd-gyfarwyddwr WISI, mae hi wedi creu a gweithredu Prentisiaethau Gwybodeg Iechyd.
Yr Athro Dearing hefyd yw Cadeirydd Cymdeithas Cyfrifiadur Prydain (BCS) Iechyd Cymru ac Is-Gadeirydd Proffesiynoldeb ac mae ganddi angerdd am ddatblygu’r “genhedlaeth nesaf” yn ogystal â datblygu proffesiynoldeb ar draws Gwybodeg Iechyd.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk