Y Drindod Dewi Sant yn croesawu canlyniadau arolwg deall y profiad digidol 2020/21 gan JISC wrth i’r brifysgol dderbyn adborth cadarnhaol am ddysgu ar-lein


10.01.2022

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi croesawu canlyniadau arolwg deall y profiad digidol gan JISC eleni.  

The University of Wales Trinity Saint David has welcomed the results of this year’s JISC digital experience insights survey.

Siaradodd arolwg JISC i fyfyrwyr ar ddeall y profiad digidol 2020/21 ar gyfer addysg uwch, â 38,917 o fyfyrwyr ar draws y DG ac mae’n cynrychioli un o’r arolygon mwyaf helaeth o farn myfyrwyr yn y sector.

Yn y Drindod Dewi Sant, yn ôl yr arolwg roedd 77% o fyfyrwyr yn graddio’u profiad o ddysgu ar-lein yn gadarnhaol (66% oedd y cyfartaledd cenedlaethol yn y DG), gyda 36% yn ei ddisgrifio’n ‘dda’; disgrifiodd 32% pellach y profiad yn ‘rhagorol’, a 9% yn dweud ei fod ‘y gorau y gellid ei ddychmygu’.

Cyflawnwyd yr arolwg ar draws y DG mewn cyfnod clo cenedlaethol a datgelodd hefyd fod 73% yn teimlo’n gadarnhaol am y ‘gefnogaeth’ a gynigiwyd gan y Drindod Dewi Sant i ‘alluogi’ myfyrwyr i ‘ddysgu ar-lein’ (59% oedd y cyfartaledd cenedlaethol yn y DG).   

Meddai James Cale, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol yn y Drindod Dewi Sant:

“Rydym ni’n croesawu canlyniadau arolwg deall y profiad digidol eleni’n fawr iawn.   Er gwaethaf heriau’r deunaw mis diwethaf, rydym ni wedi ymrwymo i gynnal ffocws cadarn ar ddarparu’r profiad gorau posibl ar gyfer ein myfyrwyr.  

Mae’r canlyniadau’n dyst i waith caled ac ymrwymiad staff o bob rhan o’r Brifysgol.   Mae ein profiad digidol yn faes allweddol lle credwn y gallwn gynnig gwerth ychwanegol i’r rheini sy’n astudio gyda ni.    

Mae ymgysylltu â myfyrwyr yn flaenoriaeth yn y Drindod Dewi Sant ac mae’n hollbwysig er mwyn cyflawni profiad o safon uchel i’r myfyrwyr.   Fel y gwnawn gyda phob arolwg, byddwn yn edrych ar y canlyniadau i’n helpu i adnabod meysydd i’w gwella.  Mae arolygon cenedlaethol yn rhoi inni’r adborth hanfodol hwnnw i’n helpu i sicrhau ein bod yn bodloni anghenion ein myfyrwyr.”

Mae Ewan Richards yn astudio gradd MSc mewn Peirianneg Meddalwedd yn yr Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol ac mae’n teimlo ei fod wedi cael budd o ddarpariaeth a hyfforddiant digidol y Brifysgol.   Meddai:

“Rwy’n teimlo bod y profiad digidol wedi gweithio’n dda iawn i mi, ac mae’r Brifysgol wedi fy nghefnogi i sicrhau bod fy mhrofiad digidol yn un da.  Rwyf wedi cael cymorth wrth ddefnyddio cymwysiadau Office yn ogystal ag adnoddau digidol eraill sydd ar gael i mi fel myfyriwr yn y Drindod Dewi Sant.

Mae darlithwyr wedi fy helpu hefyd i ddatblygu fy sgiliau wrth ddefnyddio technoleg sy’n gysylltiedig â’m cwrs i fodloni’r galw cynyddol gan gyflogwyr am raddedigion sydd â sgiliau sy’n addas i’r gweithle modern. Mae tîm Gwasanaethau Myfyrwyr hefyd wedi rhoi hyfforddiant i mi yn y Dechnoleg Gynorthwyol sydd wedi bod ar gael i mi, gan gyfoethogi fy sgiliau digidol ymhellach.”

Mae Jisc wedi bod yn cynnal yr arolwg hwn i ddeall y profiad digidol yn flynyddol er 2016.  Ychwanegodd James Cale:  

“Gellid dadlau mai arolwg eleni yw’r mwyaf arwyddocaol hyd yn hyn am fod pandemig Coronafeirws wedi pwysleisio’r angen am drawsnewid digidol yn ein prifysgolion.  

Rydym ni’n falch dros ben i nodi bod ein myfyrwyr wedi cydnabod ymdrechion y Brifysgol a’r staff i ymateb i’r heriau a’r cymorth maen nhw wedi’i gael yn ystod amgylchiadau a oedd yn anodd, ac yn aml yn newid yn gyflym.”

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076