Y Drindod Dewi Sant yn cyflwyno Cwrs BA Dawns Fasnachol newydd.
04.02.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cyflwyno rhaglen BA Dawns Fasnachol newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Bydd y radd newydd hon yn paratoi dawnswyr ar gyfer y diwydiant, o fewn amgylchedd dysgu ymarferol sydd wedi’i seilio ar stiwdio, gan gynnig y cyfle iddynt i ddysgu ac i ddatblygu sgiliau technegol ac artistig hanfodol drwy ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol.
Wedi’u harwain gan staff sydd â chyfoeth o brofiad proffesiynol, bydd myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â’u cymheiriaid yn mireinio eu techneg a’u sgiliau perfformio ar gampws rhyngddisgyblaethol drwy ymgymryd â nifer o brosiectau dawnsio. Mae’n darparu llwyfan i artistiaid dawns uchelgeisiol i ddechrau ar eu gyrfaoedd yn y sector dawnsio a chelfyddydau perfformio.
Meddai’r darlithydd Tori Johns: “Rwyf wrth fy modd ar lansiad y radd newydd sbon hon ar gyfer dawnswyr uchelgeisiol. Mae’r cyfle a roddir i fyfyrwyr gael hyfforddiant Dawnsio Masnachol ym mhrifddinas Cymru yn ddatblygiad cyffrous iawn. Rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn y galw o fewn y diwydiant Dawnsio Masnachol, ac mae’r ffaith mai’r radd hon yw’r cyntaf oll o’i math yng Nghymru wedi fy nghynhyrfu.”
Bydd myfyrwyr yn gallu darganfod eu hunaniaeth fel artistiaid drwy astudio amrywiaeth eang o ffurfiau dawns, gan adeiladu ar dechnegau dawnsio a sgiliau perfformio amrywiol, megis: ‘Hip Hop’, ‘House’, ‘Funk’, ‘Waacking’, ‘Voguing’, Bale, Tap, Jas a dawnsio cyfoes.
Caiff myfyrwyr eu harwain i fod yn artistiaid dawns unigryw sydd â dealltwriaeth ragorol o’r diwydiant dawns cyfredol, a chyda’r sgiliau i gynnal eu gyrfa greadigol eu hunain.
Drwy gydol y tair blynedd, cynigir i fyfyrwyr gyfleoedd i ddatblygu sgiliau a chael dealltwriaeth o’r diwydiant, a bydd angen iddynt feithrin y rhain os ydynt am weithio’n broffesiynol a manteisio ar y galw cynyddol am berfformwyr medrus, amryddawn a dibynadwy.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddeall a datblygu amrywiaeth eang o dechnegau dawnsio sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant dawnsio masnachol. Gwnaiff myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau gan ddysgu ar yr un pryd am ffitrwydd, maetheg ac atal anafiadau, sy’n oll bwysig os ydynt am wrthsefyll galwadau’r diwydiant. Gwnaiff y flwyddyn gyntaf ddiweddu gyda phrosiect perfformio a gaiff ei arwain gan goreograffydd gwadd.
Gwnaiff yr ail flwyddyn adeiladu ar, ymestyn a herio’r sgiliau y mae’r myfyrwyr wedi eu dysgu yn ystod y flwyddyn flaenorol. Byddant yn dysgu sgiliau ychwanegol mewn gweithdai drwy astudio meysydd arbenigol, megis acro a syrcas. Drwy ganolbwyntio ar dechnegau ar gyfer clyweliadau, caiff myfyrwyr fewnwelediad amhrisiadwy i brosesau clyweld a gweithio o fewn prosiect cydweithredol.
Yn ystod eu blwyddyn olaf, caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu eu darn dawnsio eu hunain dan arweiniad tiwtoriaid. Gwnânt weithio tuag at arddangosfa / rîl arddangos, ac ar yr un pryd dysgu sut i gyflwyno eu hunain fel artistiaid dawns. Bydd y cwrs yn diweddu gyda phrosiect perfformio ar raddfa fawr.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA).
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476