Y Drindod Dewi Sant yn cynnal Cynhadledd Erasmus + ar Gynaliadwyedd Byd-eang yng Nghaerfyrddin.


15.06.2022

Cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Gynhadledd Erasmus +, 'Think Global!' yng Nghaerfyrddin ar 10 Mehefin.

Halliwell Theatre

Trefnwyd y digwyddiad, y daeth rhyw 100 o bobl iddo, gan Athrofa Addysg y Brifysgol yn Theatr yr Halliwell yng Nghaerfyrddin fel ffordd o ysbrydoli ac ymgysylltu ag addysgwyr am gynaliadwyedd byd-eang a chymhwysedd byd-eang.  Mae addysg a hyfforddiant yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i ddeall a gweithredu ar gynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae'r gynhadledd yn rhan o brosiect Erasmus +, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r prosiect yn golygu gweithio gydag ysgolion ac arolygiaeth yn Barcelona a Gwlad Belg.

Fel rhan o'r prosiect, mae gwefan wedi'i chreu er mwyn darparu adnoddau a gwybodaeth i athrawon mewn ysgolion ac i addysgwyr athrawon, fel y gallant ddod yn fwy cymwys ar gyfer materion cynaliadwyedd byd-eang.

Trefnodd yr uwch ddarlithydd Gail Parker y gynhadledd ac mae wedi bod yn rhan o brosiect Erasmus + am y tair blynedd ddiwethaf.

"Mae'r gynhadledd hon yn ymwneud â chyfleu'r neges i gynulleidfa ehangach, ac i rhoi gwybod i ysgolion am yr adnoddau sydd ar gael iddynt eu defnyddio.  Un o'm cyfrifoldebau fel rhan o'r prosiect yw lledaenu gwybodaeth am brosiect Go Global a chodi ymwybyddiaeth o'r wefan. Yma gallwch ddod o hyd i'r holl ddeunyddiau a dogfennau hyfforddi sydd wedi'u creu ar gyfer ysgolion a phrifysgolion."

Erasmus + Conference

Y prif siaradwr yn y gynhadledd oedd cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Derek Brockway. Siaradodd am ei waith a hefyd am effeithiau'r newid amgylcheddol a'r newid yn yr hinsawdd ar y wlad.

Meddai: "Mae'n fraint bod yma fel prif siaradwr yng Nghynhadledd Erasmus +. Hwn yw’r tro cyntaf i mi fod yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac mae'n anrhydedd mawr cael fy ngwahodd i'r campws, yn enwedig yn ystod blwyddyn y daucanmlwyddiant.

"Mae bob amser yn braf cwrdd â phobl, a thrafod rhywbeth rwy'n angerddol amdano. Mae ein hathrawon yn bwysig iawn o ran dylanwadu ar genhedlaeth y dyfodol, ac mae bob amser yn wych gweld eu heffaith pan fydd plant yn dod yn ôl o'r ysgol ac yn dweud wrth eu mam-gu a'u tad-cu am ffyrdd o fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd."

Erasmus + Conference

Ymhlith y siaradwyr eraill yn y gynhadledd roedd athrawon Alison Kelso o Ysgol Gymunedol Doc Penfro, a Tom Goss o Ysgol Gynradd St Thomas yn Abertawe, sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect, a chyflwynodd y ddau eu gwaith.

Erasmus + Conference

Trafododd Alison sut y mae ei hysgol wedi elwa o brosiect Erasmus + drwy efeillio ag ysgolion o Wlad Belg a Barcelona, a threfnu ymweliadau cyfnewid yn yr ysgolion hynny fel y gall plant ddeall cymhwysedd byd-eang.

Dywedodd Alison: "Mae wedi bod yn fraint bod yn rhan o brosiect sydd wedi galluogi myfyrwyr i fod yn ddinasyddion byd-eang gwybodus o safbwynt moesegol."

Erasmus + Conference

Yn ystod ei sgwrs, tynnodd Tom sylw at sut yr oedd ei ysgol wedi llwyddo i adlewyrchu pwysigrwydd y newid yn yr hinsawdd, y tywydd a chynaliadwyedd, drwy greu gweithgareddau trawsgwricwlaidd sy'n addas ar gyfer eu hystafell ddosbarth.

Ychwanegodd: "Rydyn ni’n rhannol gyfrifol am weithredoedd cenedlaethau'r dyfodol."

Erasmus + Conference

Siaradodd Lara Hopkinson, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen (Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd) Y Drindod Dewi Sant hefyd am adeiladau cynaliadwyedd.

Meddai: "Mae cynaliadwyedd yn hanfodol bwysig yng Nghymru, ac roedd hi’n anrhydedd cael fy ngofyn i siarad am sut mae hyn yn effeithio ar bawb bob dydd.  Mae cynnwys llythrennedd cynaliadwyedd ar lefel gynradd mor bwysig er mwyn cynorthwyo i wneud y newidiadau sydd eu hangen i helpu ein planed i ffynnu. Mae Cymru'n fach ond eto'n wych, a'n plant ni fydd yn newid y dyfodol."

Cymerodd Lisa Fearn, Perchennog Cegin a Gardd y Pumpkin Patch - ysgol goginio a garddio a chaffi 'Y Sied' ran, a thrafododd sut i fwyta ac achub y blaned, a dangosodd i'r rhai a fynychodd y gynhadledd ffyrdd o ailddefnyddio deunydd ailgylchadwy yn eu bywyd bob dydd.

Dywedodd: "Roedd yn bleser cael fy ngwahodd i siarad ac ennyn brwdfrydedd y bobl ifanc, a fydd un diwrnod yn gyfrifol am ofalu am blaned fregus. Mae'r pethau bach a wnawn heddiw yn cael effaith mor enfawr ar ddyfodol eu byd (a'n byd ni). Rhaid inni ddysgu rhoi'r blaned yn gyntaf, gofalu am ein gweithredoedd a bod yn atebol amdanynt, er mwyn i'w plant gael dyfodol iach ar blaned iach."

Erasmus + Conference

Bu Hazel Thomas, cydlynydd Canolfan Tir Glas hefyd yn annerch y gynulleidfa am weledigaeth y prosiect hwn.

"Roeddwn i mor ddiolchgar i Gail am roi'r cyfle i mi arddangos menter Canolfan Tir Glas yng nghyd-destun digwyddiad Think Global a chanolbwyntio ar waith Yr Athro Ymarfer o'r Drindod Dewi Sant, Richard Dunne. Richard yw awdur Harmony, canllaw i athrawon, sy'n ffordd newydd o edrych ar ein byd a dysgu amdano, yn seiliedig ar 7 egwyddor allweddol."

Erasmus + Conference

Nodyn i'r Golygydd

Mae rhagor o wybodaeth am brosiect Erasmus + ar gael ar eu gwefan

 

Halliwell Theatre Carmarthen

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk