Y Drindod Dewi Sant yn cynnal Cystadleuaeth E-gemau i Ysgolion
13.06.2022
Cynhaliodd Cymdeithas E-chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ei Chystadleuaeth E-gemau gyntaf i ysgolion yn Ardal Arloesi’r Brifysgol ar y Glannau yn Abertawe ar 25 Mai.
Mae E-chwaraeon neu (chwaraeon electronig) yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio chwarae gemau fideo cystadleuol pan fydd timau’n chwarae’n erbyn ei gilydd ar gonsolau. Mae modd gwylio neu chwarae’r gemau mewn digwyddiad ffisegol byw neu dros y rhyngrwyd drwy blatfformau ffrydio sy’n darlledu’r gemau mewn amser real.
Cystadlodd wyth tîm o 3 myfyriwr o Ysgol Cefn Saeson yng Nghastell-nedd yn erbyn ei gilydd ar Rocket League yn ystod y digwyddiad a gynhaliwyd yn yr Adran Cyfrifiadura Cymhwysol gan y darlithydd Richard Morgan gyda help gan Swyddog Ymgysylltu Dinesig y Drindod Dewi Sant, Gareth Thomas (INSPIRE) a Rhodri Noakes (Ehangu Mynediad).
Trefnwyd y digwyddiad yn yr un ffordd â chystadleuaeth e-chwaraeon safonol gyda thimau’n chwarae benben â’i gilydd ar nifer o sgriniau, a sgriniau mwy o faint ac ardaloedd gwylio i’r gwylwyr, yn union fel chwaraeon traddodiadol.
Ymunodd sylwebydd proffesiynol o Esports Wales â’r timau i roi sylwebaeth ar y gemau cynderfynol a gemau’r rownd derfynol. Dyfarnwyd y wobr gyntaf i dîm JEM a gurodd Team Tamping Toots mewn gêm agos gyda phawb yn gwylio’n gyffrous.
Meddai Layla Bowen, athrawes yn Ysgol Cefn Saeson: “Rydym ni i gyd mor ddiolchgar am y gwaith caled mae’r Drindod Dewi Sant wedi’i roi mewn i’r digwyddiad hwn. Mae wedi bod yn gymaint o hwyl ac yn llwyddiant ysgubol. Gobeithio bydd mwy o ysgolion yn ymuno â ni’r flwyddyn nesaf i gael cystadleuaeth fwy o faint.”
Roedd Gareth Thomas, Swyddog Ymgysylltu Dinesig, yn awyddus i bwysleisio bod y gystadleuaeth yn ymdrech ar y cyd.
Meddai: “Allen ni ddim fod wedi gwneud hyn heb ymdrechion y darlithydd Cyfrifiadura Richard Morgan a Chymdeithas E-gemau’r Brifysgol a weithiai tu hwnt i’r disgwyl i gychwyn hwn; neu’r cyllid a’r gefnogaeth a ddaeth gan dîm Ehangu Mynediad y Brifysgol. Mae hon yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl ar draws y Brifysgol yn dod at ei gilydd i gefnogi achos da.”
Meddai Neve Evans, myfyriwr yng Nghymdeithas E-chwaraeon y Drindod Dewi Sant a rheolwr marchnata gydag Esports Wales: “Roedd y twrnamaint E-chwaraeon yn ffantastig, a chafodd pawb lawer o hwyl. Dangosodd beth yw E-chwaraeon a daeth â chynifer o bobl at ei gilydd i gael hwyl ac i feithrin cysylltiadau am ddigwyddiadau’r dyfodol.”Ychwanegodd Sam Bowen, Rheolwr Ehangu Mynediad y Drindod Dewi Sant: “Roedd hi’n wych gweld yr holl ddisgyblion yn ymwneud mor dda â’r darlithwyr a’r myfyrwyr, ond yn arbennig o gyffrous i weld disgyblion benywaidd yn mynd i ffwrdd â diddordeb, gan fod E-chwaraeon yn darparu cyfleoedd sy’n dod dan ymbarél STEM.” (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg)
Mae’r gystadleuaeth yn parhau gydol mis Mehefin gyda 4 ysgol leol arall yn cymryd rhan.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk