Y Drindod Dewi Sant yn darparu rhaglen addysg fenter i 11 o ysgolion yn Ne-orllewin Cymru.
24.05.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cefnogi addysg fenter mewn 11 o ysgolion cynradd yn Ne-orllewin Cymru drwy ddarparu’r rhaglen sgiliau ‘Gwenyn Coed y Mêl’ (‘The Bumbles of Honeywood’) i bob ysgol.
Wedi’i chreu gan y cwmni 2B Enterprising Ltd sydd wedi’i leoli yn Abertawe, mae Gwenyn Coed y Mêl yn gyfres o adnoddau dwyieithog sydd wedi’u mapio i’r cwricwlwm cenedlaethol i helpu ysgolion cynradd i ymgorffori sgiliau menter yn eu dysgu pob dydd.
Yr ysgolion sy’n cymryd rhan yw:
Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru Gelliswick, Aberdaugleddau
Ysgol y Glannau, Llanisan-yn-Rhos
Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau – Meads
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Ffransis, Aberdaugleddau
Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston, Johnston
Ysgol Gymunedol Neyland, Neyland
Ysgol Gynradd Felin Fach, Llambed
Ysgol Gynradd Trimsaran
Ysgol Gynradd Gwyrosydd, Abertawe
Ysgol Gynradd Waun Wen, Abertawe
Ysgol Gynradd Blaenymaes, Abertawe
Mae aelodau tîm Ehangu Mynediad y Drindod Dewi Sant yn ymweld â’r ysgolion i gyflwyno disgyblion i’r rhaglen gyda chymorth tîm 2B Enterprising.
Mae'r tîm Ehangu Mynediad yn cefnogi'r rhaglen fel rhan o'i hymrwymiad i greu llwybr o gyfleoedd dysgu o Gyfnod Allweddol 2 yr holl ffordd drwodd i addysg yng Nghyfnod Allweddol 5 yn ogystal â chefnogi cyfleoedd dysgu i oedolion. Mae'r rhaglen yn bodloni gwerthoedd adrannol megis gwydnwch, datrys problemau, arweinyddiaeth, cyfathrebu a gwaith tîm.
Rhaglen Gwenyn Coed y Mêl yw rhaglen sgiliau menter ddwyieithog gyntaf Cymru i ysgolion. Fe'i datblygwyd gan arweinwyr busnes entrepreneuraidd ac addysgwyr profiadol gyda mewnbwn helaeth gan athrawon. Yn unol â chwricwlwm Cymru, mae gan y rhaglen neges amgylcheddol gref sy'n ymwneud â chyflwr y wenynen fêl a'i nod yw meithrin sgiliau menter mewn disgyblion o oedran cynnar, gan eu paratoi i lwyddo yn y gweithle ac mewn busnes.
Mae'r rhaglen a gweithdai'r Drindod Dewi Sant yn y dyfodol yn seiliedig ar gyfres o lyfrau wedi'u darlunio'n hyfryd a gweithgareddau estyn rhyngweithiol ochr yn ochr â gweithdai sy’n archwilio natur fentrus gwenyn mêl a chymeriadau eraill i helpu plant i ddatblygu sgiliau.
Mae'r Drindod Dewi Sant yn cyfrannu fel rhan o raglen 2B Enterprising, sydd wedi galluogi’r cwmni hwnnw i gefnogi 135 o ysgolion, gan fod o fudd i ymhell dros 8000 o bobl ifanc hyd yn hyn. Llwyddwyd i wneud hynny drwy ddarparu rhaglenni ac adnoddau dysgu a datblygu sy'n eu helpu i feddwl am eu haddysg, eu hyfforddiant a'u dewisiadau bywyd yn y dyfodol yn llawer cynt nag o'r blaen.
Meddai Jonathan Batty, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu yn y Drindod Dewi Sant: “Roedd y Brifysgol yn ddiolchgar am y cyfle i ymestyn ein portffolio o ddarpariaeth yn ystod y cyfnod clo ar adeg pan oedd cyfyngiadau ar waith o hyd. Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfle i gyflawni amcanion o ran cefnogi dychwelyd i ddysgu a mwynhau dysgu a llythrennedd ac mae'n arbennig o bwysig yn yr hinsawdd sydd ohoni ar ôl y tarfu a fu ar addysg yn ddiweddar.
“Gan adeiladu ar y sgiliau trosglwyddadwy hynny megis gwydnwch, datrys problemau, arweinyddiaeth, cyfathrebu a gwaith tîm o oedran cynnar, bydd y disgyblion sy'n gweithio ar y rhaglen hon yn trosglwyddo i weithdai a digwyddiadau eraill a gyflwynir fel rhan o ymrwymiad y sefydliad i'r rhaglen Ymgyrraedd yn Ehangach.
"Mae'r ysgolion a ddewiswyd yn gysylltiedig ag Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion sydd â chysylltiadau rhanbarthol cryf â'n campysau. Mae hon yn un fenter ymhlith llawer yr ydym yn falch o fod yn gweithio arni a byddwn yn parhau i gynnig gweithgareddau ategol gyda chefnogaeth adrannau'r Drindod Dewi Sant.”
Ychwanegodd Mared Anthony, Swyddog Ehangu Mynediad yn y Drindod Dewi Sant: "Mae'r prosiect ar y thema gwenyn yn ychwanegu hwyl a mwynhad at y dysgu ac mae'r disgyblion wir wedi mynd i’r afael â'r straeon a'r gweithgareddau hyd yn hyn.
"Mae wedi bod yn wych gallu cyflwyno'r gweithgareddau hyn wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth ar ôl cyfnod mor hir o gyfyngiadau a dysgu ar-lein. Mae'r disgyblion bob amser yn llawn cyffro i'n gweld yn yr ysgol ac mae wedi bod yn bleser cwrdd â nhw.
Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol 2B Enterprising, Jayne Brewer:
“Rydym yn falch iawn i weithio gyda’r Drindod Dewi Sant i gyflwyno’r rhaglen addysgol werthfawr hon i 11 ysgol yng Nghymru. Caiff effaith enfawr ar addysg y disgyblion hyn, gan eu helpu i feithrin sgiliau a fydd yn hanfodol iddynt yn eu bywydau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae'n fuddsoddiad pwysig yn y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr, entrepreneuriaid a gweithwyr ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad y Drindod Dewi Sant i greu llwybr o gyfleoedd dysgu, gan ddechrau'n ifanc. Edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gyda thîm Ehangu Mynediad y Drindod Dewi Sant i ddod â holl hwyl a mwynhad Gwenyn Coed y Mêl i'r ysgolion hyn.”
I gyd-fynd â thema'r prosiect, ar 20 Mai, Diwrnod Gwenyn y Byd, gwnaeth y tîm Ehangu Mynediad gynnal diwrnod o weithgareddau ar y thema gwenyn ar gampws ein Prifysgol yng Nghaerfyrddin ar gyfer 30 o ddisgyblion blwyddyn 2 o Ysgol Gynradd Blaenymaes. Bu’r disgyblion yn ymarfer pob math o sgiliau hanfodol megis datrys problemau, gwaith tîm, creadigrwydd, a mwy drwy weithgareddau codio gyda bee-bots, celf a chrefft, a llwybrau natur.
Dywedodd Matthew Carpenter, athro o Ysgol Gynradd Blaenymaes:
"Mae hwn wedi bod yn ddiwrnod defnyddiol i ni fel ysgol lle creodd y Brifysgol weithgareddau trawsgwricwlaidd i blant eu mwynhau, gan adeiladu dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy'n gweithio yn unol â'r cwricwlwm newydd yng Nghymru."
Edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiadau tebyg gyda rhagor o ysgolion sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn y dyfodol.
Nodyn i'r Golygydd
- Gwefan 2B Enterprising yw: www.2benterprising.co.uk
- Mae 2B Enterprising yn dysgu sgiliau menter mewn ysgolion cynradd trwy lyfrau stori a gweithgareddau Gwenyn Coed y Mêl. Sicrhaodd y cwmni £400k o gyllid gan fuddsoddwyr preifat a Banc Datblygu Cymru ym mis Medi 2021 ac ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda 135 o ysgolion ledled Cymru a Lloegr. Mae dros 50 o fusnesau wedi ymrwymo i'w Rhaglen Partneriaeth Ymgysylltu Corfforaethol i gefnogi ysgolion ac mae eisoes yn gwneud gwahaniaeth i godi dyheadau pobl ifanc.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476