Y Drindod Dewi Sant yn dathlu degawd o gydweithio â Phartneriaeth Porth Agored.
07.06.2022
Mae Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu 10 mlynedd o gydweithio â Phartneriaeth Porth Agored.
Mae partneriaeth Porth Agored yn rhaglen gydweithredol rhwng y Drindod Dewi Sant a grŵp o 12 o Awdurdodau Lleol o bob rhan o Gymru. Mae rhaglen y Dystysgrif Raddedig mewn Cadarnhau Ymarfer Gwaith Cymdeithasol wedi'i hanelu at Weithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso (NQSW) o fewn Awdurdodau Lleol a darparwyr gwaith cymdeithasol eraill. Mae'r cymhwyster yn cael ei reoleiddio a'i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC), ac fe'i dyfernir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Lluniwyd y rhaglen hon i gydnabod y profiad proffesiynol y mae Gweithwyr Cymdeithasol yn ei ddatblygu tra maent yn eu blwyddyn gyntaf o ymarfer. Mae’n darparu cyfleoedd helaeth i unigolyn adfyfyrio ar ei arfer personol seiliedig ar waith a chydweddu hynny â Deilliannau Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus (CPEL) Gofal Cymdeithasol Cymru.
Datblygwyd y fframwaith Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus i roi mynediad i weithwyr cymdeithasol at ddysgu o ansawdd uchel drwy gydol eu gyrfa. Mae'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau datblygedig i weithwyr cymdeithasol sydd eu hangen arnynt i ymgymryd â gwaith mwy cymhleth a rolau newydd. Y bwriad yw gwella hyder proffesiynol drwy gynyddu gwybodaeth, a chyflwyno offer ac ymyriadau newydd ar gyfer ymarfer.
Mae'r rhaglen yn gwrs seiliedig ar waith, sy'n defnyddio'r dysgu a'r wybodaeth a ddatblygir gan weithwyr cymdeithasol yn eu gwaith o ddydd i ddydd i ddangos tystiolaeth o ddeilliannau y mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n teimlo sydd eu hangen ar weithwyr newydd gymhwyso. Fe'i cyflwynir gan Weithwyr Cymdeithasol cymwysedig sy'n arwain ar weithgareddau hyfforddi a datblygu yn ardaloedd eu Hawdurdod Unedol priodol. Mae ganddynt brofiad helaeth ym maes gwaith cymdeithasol er mwyn cefnogi dysgwyr yn effeithiol i ddatblygu eu harferion seiliedig ar waith. Tra maent yn astudio, mae dysgwyr hefyd yn cael mentor yn y gweithle sy'n darparu cymorth parhaus drwy gydol eu hastudiaethau. Mae Cydgysylltwyr Hyfforddiant Awdurdodau Unedol hefyd yn ffynhonnell gymorth i ddysgwyr yn ystod y cyfnod hwn.
Mae sesiynau gweithdy wedi'u cynllunio mewn ffordd sy'n rhoi cyfleoedd helaeth i ddysgwyr ddysgu gydag eraill drwy drafodaeth grŵp a galluogi cyfleoedd i adfyfyrio'n bersonol. Mae'r gweithdai hyn yn galluogi dysgwyr i gyfarfod â chydweithwyr sy'n gweithredu mewn ystod o feysydd arbenigol mewn gwaith cymdeithasol a thrwy rannu profiadau unigol mae hyn yn cyfoethogi’r profiad dysgu i bawb.
Mae Ruth Griffiths yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Sir Gwynedd ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau ei thystysgrif raddedig gyda'r Drindod Dewi Sant. Meddai,
"Mae cwblhau'r rhaglen Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus wedi fy helpu i adfyfyrio ar ba mor bell rwyf wedi datblygu fy nysgu ar ôl cymhwyso ac wedi rhoi hyder i mi yn fy ymarfer yn y dyfodol.”
Meddai Carol Armstrong, Cadeirydd Porth Agored,
“Bûm yn ymwneud â'r rhaglen o'r dechrau a'i gweld yn tyfu ac yn datblygu i'r hyn ydyw nawr. Rwy'n falch o ddweud ei fod yn gwrs sydd, gyda chymorth a chefnogaeth y brifysgol, wedi addasu dros y blynyddoedd ac wedi ymateb i adborth a gafwyd gan ddysgwyr a'u gweithwyr. Mae hefyd wedi ymateb i newidiadau mewn arfer yn sgil dylanwadau allanol, gyda phandemig Covid-19 yn enghraifft amlwg, i'w wneud yn gwrs ystyrlon a buddiol i ymgymryd ag ef. Mae'n rhoi cyfle mewn amgylchedd prysur iawn i stopio, edrych a myfyrio ar sut mae ymarferwyr, unigolion wedi datblygu eu sgiliau a'u harbenigedd.
Mae'r cwrs yn cael ei adolygu a'i addasu'n gyson i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn berthnasol i'r unigolion sy'n ymgymryd â'r dyfarniad. Mae'n anhygoel edrych ar faint sydd bellach wedi cofrestru ar y cwrs a faint sydd wedi ei gwblhau.”
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Sarah Loxdale, o ACAPYC:
“Cynlluniwyd y rhaglen bwrpasol hon gan y Drindod Dewi Sant a phartneriaeth Porth Agored i ymateb i fframwaith Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus (CPEL) Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'n enghraifft wych o ddarpariaeth gydweithredol sydd wedi'i theilwra i ddiwallu anghenion ein partneriaid. Eleni rydym yn dathlu 10 mlynedd ers i'r rhaglen gael ei dilysu a hyd yma, rydym wrth ein bodd bod dros 1,000 o ddysgwyr wedi ymgymryd â'r rhaglen.
Mae ymroddiad a brwdfrydedd y dysgwyr tuag at eu hastudiaethau, tra hefyd yn gweithio, i'w ganmol.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476