Y Drindod Dewi Sant yn dathlu graddedigion Birmingham
21.06.2022
Mae seremoni Raddio Campws Birmingham Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi'i chynnal yn Ystafelloedd Eastside y ddinas.
Roedd y seremoni yn gyfle i ddathlu eu llwyddiant, a'u hymrwymiad ac i alluogi cymuned y Brifysgol i gydnabod cyraeddiadau eu myfyrwyr.
Wrth annerch y graddedigion, dywedodd Dr John Deane, Deon Campws Birmingham Athrofa Dysgu Canol Dinas Y Drindod Dewi Sant:
"Mae'r seremoni Raddio yn nodi'r uchafbwynt yng ngyrfa academaidd ein myfyrwyr. Mae'n ganlyniad gwaith caled ac ymrwymiad, ond dylem hefyd gofio'r gefnogaeth a roddir gan deulu a ffrindiau.
"Mae pawb yn graddio gyda'r sgiliau a'r priodoleddau y mae eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth yn eich gyrfa ddewisol. Rwy’n hyderu, wrth i chi edrych yn ôl ar eich amser yn fyfyriwr yn y Brifysgol, y byddwch yn meddwl y ffrindiau niferus yr ydych wedi eu gwneud a'r atgofion hapus o'n hamser yma, ac y bydd eich profiadau yn Y Drindod Dewi Sant o fudd i chi gydol eich oes.
"Rwy'n dymuno pob llwyddiant i chi i gyd ar gyfer eich dyfodol ac yn eich atgoffa y byddwn, yn gyn-fyfyrwyr y Brifysgol hon, yn ymdrechu i'ch cefnogi ac yn gobeithio y byddwch yn parhau i gadw mewn cysylltiad â ni."
Meddai Noreen Akhtar, un o raddedigion BA Iechyd a Gofal Cymdeithasol : "Dair blynedd yn ôl, ni allwn ni fod wedi dychmygu y byddwn i’n gweithio tuag at yrfa wrth fy modd. Mae bod yn Y Drindod Dewi Sant wedi rhoi'r hyder a'r ewyllys i mi freuddwydio'n uchel, gan wybod y galla i gyrraedd y nod a gwneud gwahaniaeth. Rydw i mor hapus o raddio heddiw!"
Lleolir Y Drindod Dewi Sant Birmingham yn Sparkhill a Chanol Dinas Birmingham, y naill a’r llall yn gymdogaethau bywiog wedi'u sefydlu i ddarparu cyfleoedd i bobl o bob cefndir astudio rhaglen addysg uwch yn eu cymuned.
Eleni mae'r Drindod Dewi Sant yn dathlu 200 mlynedd o addysg uwch yng Nghymru. Mae'r deucanmlwyddiant yn coffáu sefydlu Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ar 12 Awst 1822 drwy osod y garreg sylfaen sy'n nodi dechrau addysg uwch yng Nghymru.
O'r hadau a heuwyd yn Llanbedr Pont Steffan dros ddwy ganrif yn ôl i ddatblygiad ei champysau, mae'r Drindod Dewi Sant wedi tyfu'n Brifysgol aml-gampws, sector deuol sy'n darparu rhaglenni galwedigaethol berthnasol mewn partneriaeth â chyflogwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am Gampws Birmingham neu i drafod y rhaglen a'n cynigion astudio yn y dyfodol, e-bostiwch: birminghamadmissions@pcydds.ac.uk
neu ffoniwch: 0121 229 3000
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk