Y Drindod Dewi Sant yn noddi IRONKIDS Wales yn rhan o’i phartneriaeth ag un o frandiau triathlon mwyaf nodedig y byd


21.01.2022

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn noddi digwyddiad IRONKIDS Wales eleni ar 10 Medi yn rhan o’i phartneriaeth gydweithredol ag IRONMAN Wales.

The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) is sponsoring this year’s IRONKIDS Wales event on September 10 as part of a its collaborative partnership with IRONMAN Wales.

Bydd y bartneriaeth, sy’n cynnwys noddi rhaglen gwirfoddolwyr IRONMAN Wales, yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr a staff gydweithio ag IRONMAN ar feysydd yn gysylltiedig â phortffolio’r Brifysgol yn cynnwys chwaraeon, iechyd a lles, gwasanaethau cyhoeddus, twristiaeth, lletygarwch, rheoli digwyddiadau yn ogystal â ffilm a’r cyfryngau.   Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymchwil cymhwysol yn cynnwys posibilrwydd ymgymryd ag astudiaethau effaith ac adroddiadau i roi gwybodaeth i IRONMAN Wales ar gyfer cynllunio busnes a’i strategaeth yn y dyfodol.   

Mae Ras Hwyl IRONKIDS yn cynnig cyfle i athletwyr ifanc deimlo cyffro cystadlu ar yr un pryd â mwynhau’r awyr agored a hyrwyddo byw’n iach.  Mae’r Brifysgol yn rhan ganolog o’i chymuned leol gan gydweithio â phartneriaid i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r ardal a’i dinasyddion mewn amryw o ffyrdd.

Meddai’r Athro Wendy Dearing, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd yn y Drindod Dewi Sant: “Mae’n bleser mawr gan y Brifysgol datblygu’i chydweithio ag IRONMAN Wales, un o frandiau triathlon mwyaf nodedig y byd, drwy noddi IRONKIDS Wales.   Mae’r Brifysgol yn recriwtio nifer mawr o fyfyrwyr o Sir Benfro a bydd y bartneriaeth hon yn ein galluogi i weithio gydag IRONMAN Wales i ddarparu ystod o gyfleoedd addysgol mewn cymunedau ar draws y sir.

“Wrth ragweld 10fed pen-blwydd IRONMAN Wales yn 2022, sef y flwyddyn rydym yn dathlu ein daucanmlwyddiant, rydym wedi integreiddio ystod o weithgareddau ar draws ein portffolio i ddarparu cyfleoedd dysgu cymhwysol ar gyfer ein myfyrwyr.  Bydd y cydweithio ag IRONMAN Wales, sy’n cynnwys noddi’r rhaglen gwirfoddolwyr, yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr a staff gydweithio ag IRONMAN ar feysydd yn gysylltiedig â phortffolio’r Brifysgol yn cynnwys chwaraeon, iechyd a lles, gwasanaethau cyhoeddus, twristiaeth, lletygarwch, rheoli digwyddiadau yn ogystal â ffilm a’r cyfryngau. 

“Bydd hefyd yn rhoi cyfleoedd am ymchwil cymhwysol yn cynnwys posibilrwydd ymgymryd ag astudiaethau effaith ac adroddiadau i roi gwybodaeth i IRONMAN Wales ar gyfer cynllunio busnes a’i strategaeth yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Rebecca Sutherland, Cyfarwyddwr Ras IRONMAN Cymru: “Rydym yn gyffrous iawn am y bartneriaeth barhaus gyda’r Drindod Dewi Sant a’r cyfleoedd a ddaw trwy weithio’n agosach gyda’r myfyrwyr a’r gymuned.”

Mae IRONMAN Wales yn digwydd ar 11 Medi ac mae yr un mor enwog am ei anhawster ag am ei leoliad ysblennydd gydag athletwyr yn cystadlu mewn triathlon dygnwch sy’n cynnwys nofio am 2.4 milltir, ras feicio 112 milltir o gwmpas de Sir Benfro a rhedeg am 26.2 milltir o gwmpas Dinbych-y-pysgod.

Meddai Jacqui Jones, Cyfarwyddwr Rhaglen am y rhaglenni Digwyddiadau Rhyngwladol, Twristiaeth, a Rheoli Cyrchfannau Hamdden yn y Drindod Dewi Sant: “Rydym ni wedi bod yn cydweithio gydag IRONMAN Wales ers iddo gychwyn yn 2011 er mwyn darparu toreth o brofiadau ar gyfer ein myfyrwyr twristiaeth a digwyddiadau. Yn ogystal â darlithwyr gwadd ac ymweliadau taith maes, mae hyn eisoes wedi arwain at gyfleodd rhagorol o ran interniaethau a gwirfoddoli sydd wedi helpu ein myfyrwyr i ddatblygu gyrfaoedd cyffrous yn y diwydiant twristiaeth.  Mae’n wych gallu datblygu’r bartneriaeth nawr i gynnwys IRONKIDS gan ddarparu cyfleoedd ychwanegol ar draws Grŵp PCYDDS i fyfyrwyr a staff fynd â’r ymgysylltiad academaidd â’r digwyddiad ysbrydolgar hwn ymhellach.

Bydd y bartneriaeth hefyd yn cael budd o gyfleusterau Hyfforddiant Perfformiad Uchel arbenigol y Brifysgol ar gampws Caerfyrddin. Mae staff a myfyrwyr sydd wedi cystadlu yn y digwyddiad hefyd wedi cael budd o gynlluniau hyfforddi ac ymarfer, ac asesu gan staff academaidd y Brifysgol gan gynnwys y ffisiolegydd Dr Peter Herbert.

Meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Caerfyrddin y Brifysgol:  “Mae’r bartneriaeth ag IRONMAN Wales yn cyd-fynd yn dda â’r arbenigedd a’r disgyblaethau a gynigir ar y campws yng nghyswllt Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol, y Diwydiannau Creadigol yn ogystal â Chynaliadwyedd o fewn cyd-destunau gwledig.  Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r berthynas dros y blynyddoedd i ddod er mwyn darparu cyfleoedd ar gyfer ein myfyrwyr a’n staff ein hun ond hefyd ar gyfer y gymuned ehangach.”

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk