Y Drindod Dewi Sant yn penodi Cydlynydd Rygbi a Chydlynydd Pêl-rwyd i ymuno â’r Academi Chwaraeon
30.11.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi penodi aelodau staff newydd i ymuno â’r Academi Chwaraeon.
Nod Academi Chwaraeon y Drindod Dewi Sant yw cefnogi myfyrwyr sy’n ymwneud â chwaraeon perfformiad uchel i gynnal a datblygu eu perfformiad. Caiff myfyrwyr fynediad at arbenigedd tîm chwaraeon, iechyd a ffitrwydd y Brifysgol a fydd yn darparu rhaglen o weithgareddau i’w helpu i gyrraedd eu nodau o ran chwaraeon. Bydd y rhain yn cynnwys hyfforddiant technegol a sgiliau, cryfder a chyflyru, maeth a deiet, therapi chwaraeon yn ogystal â rheoli ffordd o fyw.
Bydd Gareth Potter yn ymuno â’r Academi Chwaraeon fel Cydlynydd Rygbi, tra bydd Hannah Poole yn ymuno fel Cydlynydd Pêl-rwyd.
Mae gan Gareth 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector rygbi yng Nghymru. Roedd llawer o’i brofiad cychwynnol ym maes Dadansoddi Perfformiad lle cychwynnodd y cwmni ymgynghori Dadansoddi Perfformiad cyntaf yng Nghymru a dyfodd yn fusnes ffyniannus am fwy nag ugain mlynedd.
Ac yntau wedi chwarae yn y gorffennol i’w dîm lleol Clwb Rygbi Rhydaman am 15 mlynedd, bu’n chwarae hefyd i dîm cyntaf Prifysgol Metropolitan Caerdydd am 3 blynedd a bu’n aelod o sgwad Dan 20 Cymru a sgwad dan 23 Cymru. Daeth yn Brif Hyfforddwr yn Rhydaman a gofynnwyd iddo hyfforddi gydag Academi’r Sgarlets. Treuliodd ddeuddeng mlynedd lwyddiannus yno fel Dadansoddwr y Rhanbarth ac yn ddiweddar fel yr hyfforddwr cicio. Yma parhâi i ddod i gysylltiad â rhai o’r bobl orau ym myd rygbi yn cynnwys Phil Davies, sydd bellach yn Gyfarwyddwr i Rygbi’r Byd, gan ddysgu sut i gyflwyno systemau a phrosesau i amgylchedd rygbi ar y cae ac oddi arno. Yn fwy diweddar roedd ei gysylltiadau â’r drefn ranbarthol fel hyfforddwr i sgwad Dan 18 y Sgarlets.
Mae wedi datblygu ac ehangu ei brofiad hyfforddi ei hun yn ei gyfnod gyda Chlwb Rygbi Llanymddyfri, tîm lled-broffesiynol sy’n chwarae yn Uwchgynghrair Rygbi Cymru, gan arbenigo i ddechrau mewn amddiffyn a sgiliau cyn symud i’r gêm ymosod dros y blynyddoedd diwethaf.
Dros yr 8 mlynedd ddiwethaf mae Gareth wedi cael ei gyflogi mewn dwy ysgol uwchradd yn y rhanbarth fel swyddog URC, lle bu meithrin a datblygu doniau rygbi lleol yn brif ystyriaeth. Dros y cyfnod hwn, mae’r ddwy ysgol a’u hardal yn Nharian Dewar, sef Mynydd Mawr a Dinefwr, wedi cynhyrchu nifer cynyddol o chwaraewyr i system graddfeydd oedran y Sgarlets, i’r Academi ac, yn dilyn hynny, i sgwadiau rhanbarthol hŷn.
Tra bu yn ysgolion Dyffryn Aman a Maes y Gwendraeth, gweithiodd yn galed i ddatblygu rygbi merched, ac mae’r ddwy ysgol wedi cynhyrchu llu o chwaraewyr rhanbarthol a chenedlaethol i’r gemau 15 bob ochr a 7 bob ochr, gyda dwy ohonynt yn cymryd rhan yng Nghwpan y Byd yn ddiweddar yn Seland Newydd.
Meddai Gareth:
“Mae hon yn her hynod o gyffrous. Mae awydd cryf yn parhau ynof i hyfforddi ar y lefel uchaf bosibl a bod yn ymarferol, ond rwyf hefyd yn ffynnu yn y paratoadau oddi ar y cae megis llunio rhaglenni i ddatblygu sgiliau ar gyfer yr holl chwaraewyr a threulio amser gyda’r doniau iau, yn siarad am eu perfformiadau, eu llesiant a’u dyheadau.
“Rwy’n teimlo y bydd fy mhrofiad diweddar ym maes addysg a chwaraeon yn fy helpu i roi cefnogaeth i’r myfyrwyr yn y Brifysgol wrth iddyn nhw symud o rygbi’r ysgol/coleg ymlaen i rygbi hŷn. At hynny, mae fy mhrofiad yn gweithio gyda rhai o hyfforddwyr gorau’r byd wedi bod o fudd mawr i mi o ran rhoi adborth i helpu gyda thwf y chwaraewr.”
Ac yntau wedi byw yng ngorllewin Cymru gydol ei oes a siarad Cymraeg yn rhugl, mae’n deall y rôl y mae rygbi’n ei chwarae yn y gymuned o ran darparu gollyngfa a dyhead i’r genhedlaeth iau ac mae wrth ei fodd i ymgymryd â’r rôl newydd.
Mae Hannah yn ymuno â’r Academi Chwaraeon gyda chefndir o weithio ym maes datblygu chwaraeon a chwaraeon perfformio am nifer o flynyddoedd.
Enillodd ei gradd mewn Astudiaethau Addysg, Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. A hithau’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, aeth Hannah ymlaen i ennill llawer o gymwysterau hyfforddi yn cynnwys UKCC Lefel 2 mewn Hyfforddi Pêl-rwyd a Dyfarniad mewn Cyflwyno Dysgu (ADL) sydd wedi caniatáu iddi fod yn diwtor ar gyrsiau hyfforddi. Mae wedi darparu cyrsiau ar gyfer Pêl-rwyd Cymru a oedd yn cynnwys Dyfarniad Hyfforddi Netball Leaders a’r Cyflwyniad i Fod yn Ddyfarnwr, a hefyd bu’n fentor i diwtoriaid newydd y cyrsiau er mwyn datblygu’r gweithlu.
Yn ystod haf 2022 hyfforddodd hefyd i diwtora cwrs Blocs Cychwyn Athletau Cymru a gaiff ei gyflwyno i glybiau ac awdurdodau lleol ar draws Cymru. Mae’i swydd fwyaf diweddar wedi bod gydag Athletau Cymru, ac yn y rôl hon bu’n helpu ac yn cefnogi’r swyddogion datblygu gyda gwersylloedd haf, helpodd y tîm gyda gweithgareddau’r haf yn ystod Gemau’r Gymanwlad yn ddiweddar a rhoddodd gymorth i’r tîm cystadlaethau.
Mae Hannah hefyd yn Swyddog Blynyddoedd Cynnar Cymunedau Iach i Freedom Leisure yn Abertawe a’i rôl yno yw datblygu rhaglen o weithgareddau i oedolion o feichiogrwydd i blant cyn ysgol.
Gan edrych ymlaen at gychwyn ar ei rôl, meddai Hannah: “Mae’r rôl hon a’r cyfle i hyrwyddo Pêl-rwyd yn y Drindod Dewi Sant yn rhoi cyffro mawr iawn i mi. Mae’r gamp o ddiddordeb angerddol i mi ac mae rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr yn rhywbeth rwy’n edrych ymlaen ato’n fawr iawn.”
Ychwanega Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon y Drindod Dewi Sant: “Rydym ni’n falch iawn i sicrhau a chroesawu pobl o ansawdd, profiad ac angerdd Gareth a Hannah dros eu campau priodol i Academi Chwaraeon y Drindod Dewi Sant. Maen nhw’n ymuno â staff nodedig, a bydd yr athletwyr rygbi a phêl-rwyd ymhlith ein myfyrwyr yn gweld buddion dod i gysylltiad â nhw yn ddyddiol.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476