Y Drindod Dewi Sant yn penodi Dominic McVey, entrepreneur o Brydain, yn Athro Ymarfer


31.05.2022

Mae Dominic McVey, sy’n arweinydd busnes, yn entrepreneur ac yn ddyngarwr a ddechreuodd ei fusnes ei hun yn 13 oed, wedi’i benodi yn Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod).

Dominic McVey, a British business leader, entrepreneur and humanitarian who started his own business at the age of 13, has been appointed as a Professor of Practice at the University of Wales Trinity Saint David (UWTSD).

Dyfernir y teitl Athro Ymarfer i gydnabod hynodrwydd academaidd a/neu broffesiynol unigolyn mewn maes sydd wedi’i alinio â chenhadaeth a chyfeiriad strategol y Brifysgol. Bydd arbenigedd yr Athro McVey yn hollbwysig wrth gynorthwyo’r Brifysgol i ddatblygu mentrau â’r nod o gael effaith economaidd ar Gymru, yn arbennig yn y sectorau digidol a gweithgynhyrchu. Mae ymrwymiad yr Athro McVey i ddatblygu cynaliadwy a thrawsnewid bywydau trwy addysg a mynediad i dechnoleg yn alinio’n agos gyda chenhadaeth strategol y Brifysgol.

Yn 15 oed, yr Athro McVey oedd miliwnydd hunan-wneud ieuengaf Prydain trwy ei fusnes yn mewnforio micro-sgwteri o’r Unol Daleithiau i’r Deyrnas Unedig â’i welodd yn gwerthu nifer o filiynau o ficro-sgwteri dros y byd. Yn 18 oed cafodd ei gydnabod yn ‘Arloeswr dros Brydain mewn Entrepreneuriaeth’ gan Ei Mawrhydi Y Frenhines.

Mae ganddo bortffolio o fuddiannau busnes rhyngwladol o weithgynhyrchu, technoleg, cosmetigau, a busnes ymgynghori rheoli.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor: “Mae’n bleser gennym  groesawu’r Athro McVey, sy’n  ymuno â nifer o unigolion eithriadol sy’n gweithio gyda’r brifysgol i gynnig eu harbenigedd unigryw a phroffesiynol er budd ein myfyrwyr. Trwy fod yn rhan o’n darpariaeth, gallwn gyfoethogi’r mynediad at ystod o sgiliau diffiniedig i gefnogi darpariaeth academaidd ac adeiladu ar ein henw da sy’n gwella’n gyflym am ddarparu sgiliau graddedigion yng nghyd-destun cyflogadwyedd, cynaliadwyedd ac addysg a hyfforddiant cysylltiedig â gwaith.”

Meddai’r Athro McVey: “Mae’n fraint wirioneddol gen i gael fy mhenodi yn Athro Ymarfer a chael cydnabyddiaeth gan un o Brifysgolion mwyaf blaengar, cynhwysol ac arloesol Prydain.  Rwyf wedi byw o hyd yn ôl y mantra ein bod yn esgyn trwy godi eraill a byddaf yn defnyddio’r cyfle hwn i rannu’r gwersi di-rif rwyf wedi’u dysgu yn entrepreneur gyda’r Brifysgol a’i chymuned ehangach. Rwy’n gobeithio bod yn wyneb cyfarwydd ar y campws a byddaf yn cymryd amser i wrando, ymgysylltu a dysgu am y syniadau sydd gan fyfyrwyr a’r heriau maent yn eu hwynebu. Trwy arloesi cydweithredol, rhannu profiadau a deall beth yw gwir ystyr gwneud pethau da er mwyn pobl a’r blaned bydd y Brifysgol yn gallu darparu’r arweinwyr cymuned, busnes a diwydiant sydd eu hangen ar gymdeithas.”

Yn 2013 prynodd yr Athro McVey y gweithgynhyrchwr dillad Sri Lancaidd, Hela Clothing, a thrwy ailstrwythuro’r busnes yn gynaliadwy a moesegol, cynyddodd nifer y staff o 3,000 i dros 20,000 a thyfodd y refeniw yn enfawr. Heddiw, mae Hela yn cynhyrchu’n agos i $200 miliwn mewn refeniw gan gyflogi 15,000 o bobl yn uniongyrchol yn Ethiopia, Cenia, Sri Lanca a than yn ddiweddar, Mecsico.  Bellach, mae Hela Clothing wedi’i restru ar Gyfnewidfa Stoc Colombo.

Yn 2019 symudodd yr Athro McVey i rôl Anweithredol yn Hela ac ymddiswyddodd o’r bwrdd yn 2020. Mae’n parhau’n gyfranddaliwr gweithredol.

Mae wedi bod yn ymgynghorydd entrepreneuriaeth i’r Adran Busnes, Menter ac Arloesi yng Ngweriniaeth Iwerddon ac mae’n ymgynghorydd parhaus ar gyfer grŵp amrywiol o sefydliadau ac asiantaethau llywodraethol, ar dwf busnes moesegol a chynaliadwy.

Yn ogystal â bod yn eiriolwr ar gyfer arferion gweithgynhyrchu moesegol, ef yw Cadeirydd Computer Aid International; sefydliad â’r nod o adeiladu byd lle caiff pawb fynediad cyfartal i dechnoleg trwy ddatrysiadau TG cynaliadwy, gan ddarparu mynediad i offer ac addysg o ansawdd uchel yn y byd sy’n datblygu ac adref yn y DU. Ers ei ddechreuad, mae Computer Aid wedi rhoi mynediad i dechnoleg i dros 14.5 miliwn o bobl ledled y byd.

Yn 2009, cafodd yr Athro McVey ei enwi’n ail berson busnes dan 30 oed mwyaf dylanwadol Prydain yn rhestr “Top 30 power players under 30” The Sunday Times.

Mae’r Athro McVey yn siaradwr uchel ei barch ym maes moeseg busnes ac entrepreneuriaeth ac mae’n ymgynghori gyda melinau trafod y llywodraeth ac arweinwyr y byd. Mae’n siaradwr nodedig ar entrepreneuriaeth, intrapreneuriaeth, moeseg, a masnach ryngwladol, wedi bod yn un o brif siaradwyr busnes annibynnol ar brif lwyfan Cynhadledd y Blaid Geidwadol 2018, yn Uwchgynhadledd Cyfoeth Modern Bloomberg yn 2019 a Davos yn 2020.

Mae ei ymdrechion elusengar yn cynnwys gwasanaethu fel ymddiriedolwr annibynnol ar gyfer y Sefydliad Tirlun Siartredig Brenhinol am ddau dymor ac ar hyn o bryd mae’n llysgennad ar gyfer yr HALO Trust (elusen dad fwyngloddio fwyaf y byd), yn Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr Anweithredol y Sefydliad Datblygu Tramor (melin feddwl fyd-eang, annibynnol sy’n ceisio ysbrydoli pobl a llywodraethau i weithredu ar anghyfiawnder ac anghydraddoldeb) ac yn aelod o’r cyngor ymgynghorol ar gyfer y Clymblaid ar gyfer Cyfoeth Byd-eang. Gyda’i gilydd, mae’r sefydliadau dielw hyn wedi cyfoethogi bywydau degau o filiynau o bobl yn bositif.

Wedi tywys Hela Clothing i ennill gwobr PVH ar gyfer Hawliau Dynol yn 2017, gorwedda diddordebau’r Athro McVey nid yn unig yn yr hyn sydd orau i sefydliad ond hefyd yn yr hyn sy’n iawn i’r bobl mae’n eu cyflogi a’r cymunedau mae’n ymgysylltu â nhw.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk