Y Drindod Dewi Sant yn rhan o dîm ymchwil cydweithredol sy’n ymchwilio i ymgorffori hawliau plant o fewn arfer yn yr ystafell ddosbarth


07.12.2022

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o dîm ymchwil cydweithredol, dan arweiniad Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste, sydd wedi llwyddo i sicrhau ychydig yn llai na £700 mil o gyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), drwy Raglen Ymchwil Addysg yr ESRC i archwilio mater heriol trosi bwriad polisi yn arfer addysgol gyda ffocws ar hawliau cyfranogi plant ifanc a’r modd y gweithredir y rhain mewn cyd-destunau yn yr ystafell ddosbarth.

UWTSD is part of collaborative research team investigating embedding children’s rights into classroom practice.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o dîm ymchwil cydweithredol, dan arweiniad Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste, sydd wedi llwyddo i sicrhau ychydig yn llai na £700 mil o gyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), drwy Raglen Ymchwil Addysg yr ESRC i archwilio mater heriol trosi bwriad polisi yn arfer addysgol gyda ffocws ar hawliau cyfranogi plant ifanc a’r modd y gweithredir y rhain mewn cyd-destunau yn yr ystafell ddosbarth.

Mae tîm ymchwil y prosiect sy’n gweithio ar y prosiect tair blynedd yn cynnwys:  

  • Dr Sarah Chicken, Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste (Prif Ymchwilydd)
  • Dr Jane Waters-Davies a Dr Alison Murphy, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Dr Jacky Tyrie a’r Athro Jane Williams, Prifysgol Abertawe 
  • Dr Jennifer Clement, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Debi Keyte-Hartland, Ymgynghorydd Addysgeg ac Artist-addysgwr

Meddai’r Athro Cysylltiol Dr Jane Waters-Davies a Dr Alison Murphy:  “Rydym ni wrth ein boddau ein bod wedi llwyddo i gael cyllid gan yr ESRC am y prosiect cydweithredol cyffrous a phwysig hwn.

“Mae archwilio sut gall addysgeg ymgorffori hawliau cyfranogi plant ifanc fel rhan o’r drefn arferol yn fater o frys, yn lleol o fewn y Cwricwlwm i Gymru newydd ond hefyd yn rhyngwladol.  

“Drwy weithio gydag athrawon mewn ysgolion yng Nghymru dros dair blynedd, bydd y prosiect hwn yn ein helpu i ddeall sut i wireddu cyfranogiad plant yn ystod eu haddysg gynnar.”   

Mae’r cyd-destun polisi yng Nghymru yn golygu bod hawliau plant wedi’u lleoli’n ganolog o fewn y ddeddfwriaeth a’r ddarpariaeth. Yng nghyd-destun ysgolion, mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i seilio ar ymrwymiad i bedwar diben sy’n diogelu hawliau plant.  Mae’r broblem ymchwil yn codi yn sgil tystiolaeth sy’n dangos, er gwaethaf y rhethreg hon yn y polisi, fod hawliau cyfranogi plant ifanc yn aml yn ddealledig mewn modd un dimensiwn.   

Mae arferion addysgegol i gefnogi gweithredu hawliau cyfranogi plant ifanc yn anghyson, ac ar adegau’n adlewyrchu ymagweddau ‘cyfyngedig’ at weithredu hawliau gan blant lle gall ond plant penodol wneud dewisiadau penodol, ar amseroedd penodol, o fewn mannau penodol, ac am resymau penodol.  Gan ganolbwyntio ar blant ifanc 5-7 oed yng nghyd-destun yr ysgol, mae’r prosiect hwn yn ystyried sut gall arferion addysgegol ymgorffori hawliau cyfranogol i’r holl blant, a rhoi sylw, fel rhan o’r drefn arferol, i lais a galluedd plant.  Mae’r prosiect yn mabwysiadu dyluniad ymchwil cyfranogol ac arloesol, gan archwilio’r broblem ymchwil yn y lle cyntaf gyda phlant ifanc a’u hathrawon drwy ddulliau creadigol, ac wedyn gyda darpar athrawon a’u haddysgwyr mewn partneriaethau achrededig yn seiliedig mewn prifysgolion ac ysgolion sy’n darparu addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru.  

Meddai’r Prif Ymchwilydd Dr Sarah Chicken: “Fel tîm rydym yn llawn cyffro’n arbennig oherwydd y cyfle i weithio’n gydweithredol gyda phlant ac addysgwyr ar draws Cymru ac i ddatblygu rhwydweithiau cynaliadwy tu hwnt i gyfnod yr astudiaeth.  Teimlwn y gallai ein prosiect gael effaith bosibl ar y man lle mae theori, arfer a pholisi yn dod ynghyd.”

Logos UWE, Cardiff Met, Swansea and UWTSD

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk