Y Drindod Dewi Sant yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2022
27.07.2022
Mae’n bleser gan y Drindod Dewi Sant i ddychwelyd i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Er mai cystadlu yw calon yr ŵyl, a’i bod yn denu dros 6,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn, mae'r Maes ei hun wedi tyfu a datblygu'n ŵyl fywiog gyda channoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau i'r teulu cyfan.
Unwaith eto, bydd gan y Brifysgol stondin arddangos ar y maes sy'n gyfle gwych i arddangos rhywfaint o’n gwaith a’n darpariaeth. Trwy gydol yr wythnos, bydd y brifysgol yn cynnal amrywiaeth o sgyrsiau, darlithoedd a gweithgareddau rhyngweithiol ar gyfer pob oedran a diddordeb ar y stondin.
Os ydych yn bwriadu ymweld â'r Eisteddfod, mae croeso mawr i chi alw mewn. Cliciwch isod i gael gweld yr amserlen sydd gyda ni ar gyfer yr wythnos:
Amserlen Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2022
Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o fod yn noddi ‘Lloergan’, cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod a gynhelir ar nos Wener, Gorffennaf 29.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076