Y seremoni raddio gyntaf yng Nghaerdydd ar gyfer PCYDDS
25.11.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cynnal ei seremoni raddio gyntaf yng Nghaerdydd. Yn ystod y Seremoni, a gynhaliwyd yng Nghadeirlan Dewi Sant Fetropolitan Caerdydd yng nghanol y ddinas, cyflwynwyd graddau i fyfyrwyr o ystod o raglenni gan yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor.
Yn ei araith i raddedigion, dywedodd yr Athro Hughes: “Rwy’n falch iawn o’ch croesawu i gyd i’r seremoni gyntaf a gynhelir yng Nghaerdydd. Mae hwn yn amser arbennig o ddathlu i gydnabod cyflawniadau ein myfyrwyr ac i ddiolch i bawb sydd wedi eich cefnogi trwy gydol eu hastudiaethau. Mae eich llwyddiant wrth ennill eich gwobr yn ganlyniad i’ch gwaith caled a'ch ymrwymiad. Gallwch fod yn falch o'ch cyflawniadau a chofiwch fod y Brifysgol yma i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus”.
Ymhlith y rhai a raddiodd heddiw roedd Perfformio, Astudiaethau Lleisiol Uwch yn ogystal ag Addysg Blynyddoedd Cynnar, Peirianneg, Arweinyddiaeth a Rheoli ac Ymarfer Plismona Proffesiynol.
Graddiodd carfan gyntaf rhaglen flaenllaw Radd Brentisiaeth y Brifysgol hefyd. Dywedodd Bridget Mosely, Pennaeth Uned Prentisiaethau PCYDDS: “Rwy’n falch iawn o ddathlu graddio ein prentisiaid heddiw. Mae wedi bod yn wych eu gwylio’n datblygu yn eu gyrfaoedd ac i rannu eu llwyddiant gyda’u cyflogwyr”.
Mae llawer o’r graddedigion wedi bod yn astudio’n rhan-amser ac yn y gymuned gan gynnwys y rhaglenni Arweinyddiaeth a Rheoli: Sgiliau ar gyfer y Gweithle ac Addysg Blynyddoedd Cynnar gan ganiatáu i fyfyrwyr gael mynediad at ddysgu mewn lle sy’n gyfleus iddynt.
Dywedodd Natalie Macdonald, Cyfarwyddwr Rhaglen Addysg y Blynyddoedd Cynnar: “Mae bob amser yn foment mor falch i ni weld ein myfyrwyr yn graddio a chael y cyfle i ddathlu eu llwyddiant gyda nhw. Mae ymrwymiad a chyflawniad y myfyrwyr yn wirioneddol ysbrydoledig ac rydym yn credu yng ngrym mynd ag addysg allan i fyfyrwyr yn y gymuned. I’n tîm yn PCYDDS, nid datganiad yn unig yw ‘trawsnewid addysg, trawsnewid bywydau’ – rydym yn ei weld trwy ein myfyrwyr a’n graddedigion anhygoel bob dydd.”
Dywedodd Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd Academi Golau Glas PCYDDS: “Mae’n wych gallu dathlu’r cyflawniadau ein myfyrwyr yn y seremoni raddio. Mae’n gyfle i ddathlu eu gwaith caled, eu penderfyniad a’u hymrwymiad i rôl cwnstabliaid yr heddlu a’u llongyfarch ar fod yn flaenllaw ar y llwybr newydd hwn i blismona proffesiynol.”