Ymchwil ar y cyd yn amlygu pwysigrwydd hyfforddiant ac addysg i gefnogi gweithwyr proffesiynol a theuluoedd o ran llythrennedd corfforol plant
05.07.2022
Mae ymchwil gan fyfyrwraig PhD, Dr Amanda John, sy’n graddio heddiw o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gampws Caerfyrddin, wedi amlygu pwysigrwydd datblygu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol cadarn ar gyfer athrawon y blynyddoedd cynnar, a phob oedolyn sy’n gweithio gyda phlant ifanc, fel y gallant gefnogi datblygiad corfforol y plant drwy weithgareddau ac amgylcheddau priodol.
Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar dros 30 mlynedd o ymchwil a gynhaliwyd yn fyd-eang gan yr Athro Jackie Goodway o Brifysgol Talaith Ohio yn yr Unol Daleithiau ac mae’n pwysleisio’r angen am fwy o waith yn cefnogi datblygiad corfforol yn ystod plentyndod cynnar i hybu llwybrau iechyd cadarnhaol ar gyfer ein plant yng Nghymru.
Roedd yr Athro Goodway yn rhan o dîm goruchwylio Dr John ynghyd â Dr Nalda Wainwright a Dr Andy Williams. Roedd astudiaeth Dr John yn astudio effaith rhaglen SKIP Cymru ar sgiliau echddygol plant, hunanganfyddiadau o symud a gweithgarwch corfforol ac roedd yn brosiect a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru.
Mae ymchwil Dr John wedi’i dderbyn ar gyfer cyflwyniad yng Nghynhadledd CIAPSE yn Lwcsembwrg yn ddiweddarach eleni ac mae’n ategu’r corff helaeth o ymchwil y mae Academi Iechyd a Llythrennedd Corfforol Cymru wedi’i ddatblygu ym maes datblygiad corfforol yn ystod plentyndod cynnar.
Mae gwaith SKIP Cymru wedi’i gydnabod am ei effaith fel argymhelliad yn adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Llywodraeth Cymru ar Weithgarwch Corfforol ymhlith Plant a Phobl Ifanc. Mae wedi’i gynnwys fel astudiaeth achos ar gyfer deunyddiau ategol Taith tuag at Gymru Iachach yn gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac fel astudiaeth achos effaith ar gyfer cyflwyniad y Drindod Dewi Sant i’r REF 2021.
Mae Dr John a’r tîm yn Academi Iechyd a Llythrennedd Corfforol Cymru yn parhau i roi’r ymchwil hwn ar waith gan ddatblygu rhaglenni hyfforddi i athrawon, ymarferwyr blynyddoedd cynnar, hyfforddwyr chwaraeon, gwirfoddolwyr a rhieni yn barhaus.
Dywedodd Dr Wainwright, arweinydd rhaglen yr MA a Chyfarwyddwr Academi Iechyd a Llythrennedd Corfforol Cymru yn y Drindod Dewi Sant: “Rwy mor falch o weld Amanda yn graddio gyda'i PhD, mae wedi gweithio'n eithriadol o galed drwy ei thaith ar ein rhaglen MA yn gyntaf ac yna wrth iddi fynd â’i hymchwil i lefel newydd ar gyfer ei doethuriaeth. Mae’r maes ymchwil hwn mor bwysig ac mae angen i ni nawr yn fwy nag erioed gefnogi gweithwyr proffesiynol a theuluoedd gyda llythrennedd corfforol plant.
“Rwy wrth fy modd fod yr Athro Goodway wedi gallu bod yn bresennol yma ar gyfer y graddio wrth i ni barhau i ddatblygu ein cydweithio ym maes ymchwil a chreu cyfleoedd i fyfyrwyr yn y Drindod Dewi Sant gefnogi iechyd a llythrennedd corfforol yng Nghymru.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk