Ymestyn rhaglen Cyflymu Cymru ar gyfer Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Y Drindod Dewi Sant


07.04.2022

Mae rhaglen Cyflymu Cymru (Cyflymydd Technoleg Arloesi Iechyd Cymru), y mae Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) y Drindod Dewi Sant yn bartner iddi, wedi'i hymestyn hyd at fis Rhagfyr 2022.

The Accelerate Wales programme (the Welsh Health Innovation Technology Accelerator), of which UWTSD’s Assistive Technologies Innovation Centre (ATiC) is a partner, has been extended to December 2022.

Wedi'i lansio yn 2018, mae'r cydweithio arloesol rhwng Y Drindod Dewi Sant, Cyflymydd Arloesedd Clinigol Prifysgol Caerdydd, Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe, a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Dywedodd yr Athro Cysylltiol Dr Sean Jenkins, Prif Gymrawd Arloesi ATiC: "Ers lansiad swyddogol yr Is-Ganghellor o'r cyfleuster ymchwil unigryw hwn yn SA1 ym mis Chwefror 2019, mae ATiC wedi gallu recriwtio rhai o'r ymchwilwyr a'r arloeswyr gorau yn eu meysydd.  Mae'r tîm amrywiol, hynod greadigol ac ymroddedig hwn wedi datblygu a chyflawni mwy na 30 o brosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol mewn gofal iechyd a gwyddorau bywyd gyda phartneriaid ledled Cymru yn y sectorau AU, y sector preifat a'r trydydd sector, a'r GIG.

"Mae'r llwyddiant hwn, fel rhan o'r bartneriaeth Cyflymu, yn dyst i waith caled ac ymroddiad tîm ATiC, yn enwedig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd wedi bod yn gyfnod heriol i bob un ohonom!

"Ond er gwaethaf yr heriau, mae ATiC wedi sefydlu llawer o bartneriaethau cydweithredol allanol llwyddiannus gyda phartneriaid yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yng Nghymru sydd i fod i barhau a thyfu.  Y rhan fwyaf arwyddocaol o'r cydberthnasau hyn yw rôl ATiC fel partner academaidd allweddol gyda Sefydliad TriTech Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

"Rydym hefyd wedi gallu cydweithio ar brosiectau ymchwil cyffrous gyda chydweithwyr yng Nghanolfan Arloesi Cerebra (CIC), y Ganolfan YmgynghoriAeth Gwerthuso ac Ymchwil Seicolegol (PERCH), ac Academi Iechyd a Llythrennedd Corfforol Cymru (WAHPL), gan dynnu sylw at y potensial ar gyfer cydweithio ar draws Y Drindod Dewi Sant.

"Gan edrych i'r dyfodol y tu hwnt i gyllid ERDF, mae tîm ATiC yn gyffrous i gael eu cynnwys yn y cynlluniau ar gyfer Matrics Arloesedd newydd Y Drindod Dewi Sant a'r posibilrwydd o weithio gyda'r Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi, Ymchwil a Menter (INSPIRE) yn y blynyddoedd i ddod i alluogi ein Prifysgol i barhau i gael effaith sylweddol, gan sbarduno newid a thrawsnewid tuag at Gymru iachach."

Gwybodaeth Bellach

Os gall ATiC eich helpu i werthuso a datblygu eich cynnyrch, gwasanaeth, system neu le arloesi iechyd – cysylltwch â ni!

E-bost: atic@uwtsd.ac.uk

Ffôn: 01792 481232

Gwefan: https://uwtsd.ac.uk/atic/

I gael rhagor o wybodaeth am waith ATiC drwy raglen Cyflymu Cymru, ewch i https://lshubwales.com/assistive-technologies-innovation-centre-atic.