Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn annerch yn y Cenhedloedd Unedig


22.12.2022

Bu Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn cymryd rhan mewn Panel Arbenigol yn ystod 15fed Fforwm y Cenhedloedd Unedig ar Faterion Lleiafrifol.

Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn annerch yn y Cenhedloedd Unedig

Ddechrau’r mis, bu’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn rhan o banel o arbenigwyr rhyngwladol ar ieithoedd lleiafrifedig yn ystod 15fed Fforwm y Cenhedloedd Unedig ar Faterion Lleiafrifol gynhaliwyd yng Ngenefa.

Trefnwyd y Panel ar ‘Hawliau Ieithyddol Siaradwyr Ieithoedd Lleiafrifedig: Heriau, Arfer Orau ac Argymhellion’ gan Lywodraeth Catalonia, gydag Ysgrifennydd Polisi Iaith y Llywodraeth, F. Xavier Vila yn cadeirio. Hefyd ar y Panel roedd yr Athro Jasone Cenoz o Brifysgol Gwlad y Basg, yr Athro François Grin o Brifysgol Genefa a’r Dr Avel.lí Flors Mas o Brifysgol Barcelona.

 

Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn annerch yn y Cenhedloedd Unedig

Meddai’r Athro Jones, sydd hefyd yn Llywydd ELEN (European Language Equality Network)  :

Mae’r Fforwm yn ddigwyddiad hynod bwysig gan ei bod yn gyfle i ddwyn llywodraethau ar draws y byd i gyfrif am eu polisïau a’u gweithredoedd mewn perthynas â’r lleiafrifoedd o fewn eu ffiniau. Mae gwaith ymchwilwyr ac ymgyrchwyr fel ei gilydd yn rhan allweddol o’r ddeialog ryngwladol hon i geisio gwella amodau ac amgylchiadau, cynyddu tegwch a chydraddoldeb ac atal erledigaeth.

Yn ystod deuddydd y Fforwm, cafwyd adroddiadau a thrafodaethau ar sawl agwedd yn ymwneud ag amddiffyn hunaniaethau ieithyddol, diwylliannol, crefyddol, ethnig a chenedlaethol ar draws y byd.

Roedd y Fforwm eleni hefyd yn nodi 30 mlynedd ers pasio Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Lleiafrifol.

Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn annerch yn y Cenhedloedd Unedig