Ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas yn dychwelyd i Lanbedr Pont Steffan.
23.06.2022
Dychwelodd Ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas i Gampws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ddiweddar am y tro cyntaf ers dechrau pandemig Covid-19.
Mae’r ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas, a sefydlwyd gan yr Athro Emeritws Menna Elfyn ym mlwyddyn canmlwyddiant Dylan Thomas, yn un o brif ddigwyddiadau cyhoeddus y brifysgol i'r Byd Gorllewinol. Y bardd o Gymru Dominic Williams sy’n cyfarwyddo’r rhaglen, yntau wedi cael cysylltiad cyson â'r brifysgol ers chwarter canrif, ers dechrau ei radd israddedig mewn Astudiaethau Cymreig israddedig yng Nghaerfyrddin yn 1997; ac awdur lle Americanaidd Pamela Petro sy'n Gyn-fyfyriwr yn Llambed ar y cwrs MA: The Word and Visual Imagination (1984). Cymaint yw bri'r rhaglen unigryw hon nes ychydig iawn o farchnata sydd angen ar gyfer yr ysgol haf ers ei sefydlu yn 2014, ac mae rhestr wrth gefn yn cael ei chreu bob blwyddyn.
Mae'r Ysgol Haf yn gwrs preswyl dwys 12 diwrnod sy'n canolbwyntio ar dirwedd ryfeddol Cymru fel catalydd ar gyfer ysgrifennu creadigol ar gampws Llambed.
Mae'r cwrs wedi'i strwythuro i adlewyrchu ei bwyslais thematig ar "Ymdeimlad o Le". Mae wedi'i achredu'n llawn gan Brifysgol Cymru ac mae'n agored i israddedigion, myfyrwyr graddedig, a’r cyhoedd.
Roedd y cwrs yn cynnwys gweithdai ysgrifennu a addysgwyd gan yr awdur rhyddiaith Pamela Petro a'r bardd Samantha Rhydderch, ynghyd â'r tiwtoriaid gwadd Kathy Miles, Paul Henry, a Susan Richardson.
Aeth myfyrwyr hefyd ar dripiau i leoliadau amrywiol gan gynnwys Gerddi Aberglasney, Castell Carreg Cennen, Llyn y Fan Fach, Castell Arberth, Pwll Glo Big Pit ac i dref arfordirol Cei Newydd, a ysbrydolodd ddrama Dylan Thomas Under Milk Wood. Yn ogystal â'r lleoedd hyn, ymwelodd myfyrwyr hefyd â Distyllfa Chwisgi Penderyn, Carreg Arthur ar Benrhyn Gŵyr, Bae Rhosili a Chanolfan Aur Cymru Rhiannon yn Nhregaron.
Tra roeddent ar gampws Llanbedr Pont Steffan, cafodd myfyrwyr gyfle i fynd ar daith o amgylch Llyfrgell Roderic Bowen, sy'n cynnwys un o'r casgliadau pwysicaf o lyfrau prin a llawysgrifau canoloesol ym Mhrydain. Gyda'r nos, mynychodd myfyrwyr ddarlleniadau nosweithiol gan rhai o awduron a beirdd gorau Cymru gan gynnwys Menna Elfyn, Gillian Clarke, Siôn Owen, Rachel Trezise a Horatio Clare.
Meddai Dominic Williams, un o gyfarwyddwyr y cwrs:
"Fel cynifer o raglenni rhyngwladol, gohiriwyd yr ysgol haf yn ystod y pandemig ac mae teithio rhyngwladol o'r Unol Daleithiau yn datblygu'n ofalus iawn. Roedd llwyddiant yr ysgol haf eleni nid yn unig yn cynnig profiad gwych arall i un ar bymtheg o fyfyrwyr Ysgrifennu Creadigol ond roedd hefyd yn broses normaleiddio a werthfawrogwyd yn fawr gan gynifer o'r staff a oedd yn croesawu ein gwesteion Americanaidd.
"Y tu hwnt i'r budd y mae'r rhaglen hon yn ei gynnig i broffil rhyngwladol y brifysgol, eleni, mae hefyd wedi nodi Cymru yn glir yn 2022 yn gyrchfan ddiogel a sylweddol ar gyfer twristiaeth ddiwylliannol o UDA."
Meddai’r fyfyrwraig Amy Rhyneer, "Ni allai Dominic Williams a Pamela Petro, cyfarwyddwyr y rhaglen, fod yn fwy addas ar gyfer y gwaith hwn. Roedd eu cariad, eu praffter, eu llawenydd, eu brwdfrydedd, eu hymroddiad, eu gwybodaeth, eu sgiliau ategol a'u rhyfeddod cyffredinol yn mynd â’r daith i’r entrychion, entrychion uchel iawn... Roedd pawb yn y brifysgol, o griw'r gegin i'r staff cadw tŷ i'r Profost, yn hynod o garedig, gwybodus, a defnyddiol. Ydych chi erioed wedi sylwi pa mor brin yw’r cyfuniad hwn?"
Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol (Gogledd America a Symudedd Allanol) Academi Fyd-eang Cymru,
" Hoffwn i ddweud pa mor falch ydym o groesawu ysgolion haf yn ôl ar ein campysau eleni, i ddangos iddynt ryfeddodau Cymru ac yn enwedig yn ystod ein deucanmlwyddiant. I gael rhagor o wybodaeth neu i ddod ag ysgol haf, cysylltwch â: Ysgolion Haf yn Y Drindod Dewi Sant | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant."
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476