Ysgolion Rhwydwaith Seren yn ymweld â Champysau'r Drindod Dewi Sant ar gyfer Diwrnodau Blasu Tsieineaidd


11.04.2022

Cafodd 120 o fyfyrwyr Blwyddyn 8 a Blwyddyn 9 o ysgolion ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro gyfle i ymweld â champysau'r Drindod Dewi Sant ar 1 a 4 Ebrill a phrofi diwrnod llawn dop o weithgareddau diwylliannol Tsieineaidd a drefnwyd gan Athrofa Confucius mewn cydweithrediad â Sefydliad SEREN. 

120 Year 8 and Year 9 students from schools across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire had the chance to visit UWTSD campuses on 1 and 4 April and experience a jam-packed day of Chinese culture activities organised by the Confucius Institute in collaboration with SEREN foundation.

Myfyrwyr a staff o ysgol Penweddig gyda Chyd-gyfarwyddwr Tsieineaidd Athrofa Confucius, Lisa Liu

Croesawodd campws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant  ysgolion uwchradd Coedcae a Glan y Môr o Lanelli a Phorth Tywyn,  Ysgol Uwchradd Hwlffordd a Chaer Elen o Sir Benfro ac Ysgol Bro Myrddin o Gaerfyrddin, tra bydd Ysgolion Bro Pedr a Phenweddig yn ymweld â champws Llanbedr Pont Steffan.

Oherwydd y ddwy flynedd ddiwethaf o gyfyngiadau Covid, ychydig o gyfleoedd a gafodd y myfyrwyr hyn i brofi gweithgareddau allgyrsiol ac i'r rhan fwyaf, hwn oedd eu cyfle cyntaf i ddysgu ychydig o Tsieinëeg ac archwilio pynciau astudiaethau Tsieineaidd. Cynigiodd y diwrnod amrywiaeth o bynciau academaidd megis esblygiad nodau Tsieineaidd ac archwilio chwedlau Tsieina a Chymru yn ogystal â gweithdai ymarferol mewn caligraffi, seremoni de Tsieineaidd ac ymarfer lles Baduanjin. Erbyn diwedd y dydd roedd y myfyrwyr wedi meistroli sgiliau iaith yn ogystal â chyfarchion a rhifau.

Meddai Bethan Jones-Hughes, cydlynydd yr Hwb Rhanbarthol, 'Mae gwylio'r myfyrwyr yn ymgysylltu ac yn eu hymestyn eu hunain y tu hwnt i brofiadau'r ystafell ddosbarth wrth wraidd sefydliad Seren. Bydd y sgiliau y maent wedi dechrau eu datblygu heddiw yn cael eu cryfhau wrth iddynt eu herio eu hunain i gwblhau'r prosiect ymchwil helaeth hwn. Edrychwn ymlaen at ddathlu eu cyflawniadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn a pharhau i feithrin y berthynas gadarnhaol hon â'r Drindod Dewi Sant. Diolch o galon i dîm addysgu Confucius.'

120 Year 8 and Year 9 students from schools across Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire had the chance to visit UWTSD campuses on 1 and 4 April and experience a jam-packed day of Chinese culture activities organised by the Confucius Institute in collaboration with SEREN foundation.

Myfyrwyr yn ymarfer Baduanjin

Roedd y diwrnodau blasu Tsieineaidd yn nodi lansiad y cwrs hunan-astudio chwe wythnos Diwylliant ac Iaith Tsieineaidd ar gyfer ysgolion, rhaglen a ddatblygwyd gan Athrofa Confucius y Drindod Dewi Sant ar gyfer CCP Seren yn 2021. Mae'r cwrs yn archwilio hanes, chwedloniaeth a threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Tsieina ac ar yr un pryd yn defnyddio enghreifftiau cymharol o'u treftadaeth ddiwylliannol Gymreig. Wrth astudio awr yr wythnos, bydd myfyrwyr yn dod o hyd i’r offer iaith sylfaenol i’w cyflwyno eu hunain a'u teuluoedd yn Tsieinëeg.  Ar ddiwedd y cwrs bydd myfyrwyr sy'n cwblhau eu haseiniadau yn derbyn tystysgrifau mewn seremoni arbennig ar gampysau Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â k.krajewska@pcydds.ac.uk 

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076