Academi Chwaraeon y Drindod Dewi Sant yn croesawu Academi Rygbi’r Sgarlets i gampws Caerfyrddin cyn y tymor newydd
22.09.2023
Dros yr haf, mae Academi Chwaraeon PCYDDS wedi croesawu Academi Rygbi’r Sgarlets a’r sgwadiau Gradd Oedran Rhanbarthol ar gampws Caerfyrddin y brifysgol wrth iddynt baratoi ar gyfer y tymor newydd.
Mae’r rhanbarth sydd wedi’i leoli yn Llanelli wedi bod yn defnyddio cyfleusterau’r Brifysgol yn ystod eu hyfforddiant cyn y tymor newydd i sefydlu ymhellach y cysylltiad rhwng y tîm rhanbarthol a’r Brifysgol. Fel rhan o'r cysylltiad gyda'r Sgarlets, roedd carfan ieuenctid Tarian Dewar Sir Gaerfyrddin ar y campws yn ystod yr haf i gymryd rhan mewn sesiynau arbennig er mwyn gwella cryfder a chyflyru a sgiliau. Bu pum tîm rhanbarth Tarian Dewar y Sgarlets (Mynydd Mawr a Dinefwr, Llanelli, Ceredigion, Caerfyrddin, Sir Benfro) hefyd mewn gwersyll haf yng Nghaerfyrddin, a ddaeth i ben gyda phrynhawn o gemau lle'r oedd chwaraewyr prif dîm yno i wylio wrth iddynt ddychwelyd o’u gwersyll hyfforddiant eu hunain yng Ngheredigion.
Yn dilyn haf prysur o rygbi yn y Drindod Dewi Sant, dywedodd Scott Sneddon, Prif Hyfforddwr Academi’r Sgarlets:
“Roedd yn wych gweithio ochr yn ochr â staff PCYDDS ar gyfer rhaglen yr haf. Roedd y cyfleusterau’n rhagorol ac roedd y gallu i fownsio rhwng ein sgiliau a’n gwaith campfa yn y sied a gweld llawer o bobl ifanc dawnus ar y llwybr yn defnyddio’r cyfleusterau hyn yn wych. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddilyn taith y bechgyn talentog hyn gyda'r brifysgol yn chwarae rhan fawr yn hynny.”
Yn ogystal â’r Sgarlets, defnyddiodd ysgolion a chlybiau lleol gyfleusterau’r Brifysgol gan gynnwys timau rygbi merched a bechgyn Coleg Llanymddyfri. Buont yn ymweld â’r campws ar gyfer gwersyll hyfforddi preswyl pedwar diwrnod estynedig a oedd yn cynnwys dadansoddiad manwl, hyfforddiant rygbi, amserlen cryfder a chyflyru heriol ac ymarferion adeiladu tîm ar draeth Llansteffan. Bu Academi Rygbi Ysgol Dyffryn Aman hefyd yn ymweld â Champws Caerfyrddin fel rhan o’u paratoadau cyn y tymor wrth iddynt edrych ymlaen at eu tymor cyntaf yng Nghynghrair Colegau ac Ysgolion Cymru. Dan arweiniad Pennaeth Academi Rygbi Ysgol Dyffryn Aman, Tom Hancock, a Phennaeth Rygbi PCYDDS, Gareth Potter, treuliodd y bobl ifanc ddiwrnod yn defnyddio cyfleusterau’r Brifysgol gyda ffocws cryf ar sgiliau a pharatoi tîm.
Ychwanegodd Pennaeth Rygbi'r brifysgol, Gareth Potter:
“Rydym wrth ein bodd gyda’r berthynas rydym yn ei sefydlu gyda’r clybiau ac ysgolion o fewn y Rhanbarth. Mae’n rhoi cyfle ar yr un pryd i’r chwaraewyr ifanc weld beth sydd gan y Brifysgol i’w gynnig o ran ei chyrsiau, ei chyfleusterau a’i rhaglen rygbi wrth fwynhau a chymryd rhan yn rhaglenni rygbi eu timau eu hunain.
"Braf oedd cael croesawu a gweld y gwahanol dimau sy’n gysylltiedig â’r Sgarlets yn defnyddio ein cyfleusterau dros yr Haf. Roedd Dwayne Peel, Prif Hyfforddwr y Sgarlets, wrth ei fodd gyda’r gwersyll haf a gynhaliwyd gan y Brifysgol a welodd hyfforddwyr y rhanbarth, URC a staff y Brifysgol yn cydweithio â’r grŵp hynod gyffrous hwn o chwaraewyr lleol. Edrychwn ymlaen yn awr at ddatblygu’r berthynas wych hon ymhellach.”
I ddarganfod mwy am y cyfleoedd yn Academi Chwaraeon PCYDDS, ewch i’n gwefan:
https://www.uwtsd.ac.uk/cy/chwaraeon/academi-chwaraeon/
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076