Artistiaid gwadd yn dod â “Lliw Gwyllt” i Goleg Celf Abertawe
03.02.2023
Bydd Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod Dewi Sant) yn croesawu dau wneuthurwr crefftau talentog ar gyfer preswyliad yn rhan o brosiect Hwb Crefftau mewn partneriaeth â’r Brifysgol.
Dros gyfnod o ddwy wythnos, o’r 13eg Chwefror, bydd y gwneuthurwyr gwadd yn gweithio yn y stiwdios Dylunio Patrwm Arwyneb a Thecstilau i archwilio’r thema “Lliw Gwyllt” ac adeiladu ar eu gwybodaeth bresennol o lifo naturiol ac argraffu.
Bydd Karen Modeo, sy’n gweithio yn Matera, Yr Eidal, a Chloe Scadding, sy’n gweithio yn Sir Benfro, Cymru, yn dod ag arbenigedd yn y defnydd o ddefnyddiau cynaliadwy i ychwanegu lliw i decstilau. Yn ystod y preswyliad bydd ganddynt amser pwrpasol yn y stiwdio i arbrofi gyda defnyddiau a phrosesau newydd.
Bydd Karen a Chloe yn creu cyfres o samplau o ddefnydd i’w cynnwys yn ’Llyfrgell Defnyddiau'r Hwb Crefftau, yn ogystal â chyflwyno gweithdai i staff a myfyrwyr a fydd yn gyfle gwych i weithio gydag artistiaid proffil uchel sy’n gweithio’n rhyngwladol. Bydd myfyrwyr yn elwa o’u harbenigedd technegol yn ogystal â gwybodaeth ddiwydiannol am bynciau fel sut i sefydlu a chynnal arfer creadigol ffyniannus.
Meddai Catherine Hammerton, Darlithydd Dylunio Patrwm Arwyneb yn Y Drindod Dewi Sant: “Yn genhedlaeth o economyddion cylchol sy’n ymrwymo i wneud gwell dewisiadau o ran dylunio nad ydynt yn costio ffortiwn, mae ein myfyrwyr yn ddylunwyr angerddol sy’n awyddus i ddysgu am brosesau print a lliwio anghemegol sy’n deillio o wastraff bwyd lleol.
“Mae hwn yn gyfle dysgu gwych i ymestyn eu repertoire technegol a chael gwell dealltwriaeth o’r hyn y gallai preswyliad ei olygu i’w huchelgeisiau eu hunain ar gyfer eu gyrfaoedd, ac rydym yn ddiolchgar i’r prosiect Hwb Crefftau am hwyluso hyn.”
Am yr Hwb Crefftau:
Mae’r Drindod Dewi Sant wedi llunio partneriaeth gyda’r Hwb Crefftau, sy’n brosiect Ewropeaidd a ariennir ar y cyd â Rhaglen Ewrop Creadigol. Mae’n ffocysu ar Grefft yng nghyd-destun treftadaeth ddiwylliannol a’i pherthnasedd parhaus ym maes arfer cyfoes.
Ymhlith gweithgareddau’r prosiect mae ymchwilio a dogfennu sgiliau a phrosesau crefft, y gwahanol ffyrdd o’u cymhwyso mewn arfer creadigol ar draws Ewrop a chwestiynau ynghylch penodoldeb diwylliannol a chymhelliant unigol ymarferwyr.
Hyd yma, mae’r prosiect Hwb Crefftau wedi cefnogi creu ac arbrofi trwy 42 o breswyliadau rhyngwladol, 305 o weithdai, creu llyfrgell defnyddiau, 1 gŵyl, 7 arddangosfa a 2 gynhadledd.
Wedi’i sefydlu yn 1853, mae Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr cyrsiau cysylltiedig â Chelf, ac fe’i barnwyd yn 1af yng Nghymru mewn pedwar o bynciau Celf, 4ydd yn y DU am Ffilm a Ffotograffiaeth, 8fe yn y DU am Ddylunio Cynnyrch, a 10fed yn y DU am Ddylunio Graffeg.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078