Astudio am radd Meistr mewn Arfer Proffesiynol yn PCYDDS yn helpu Ditectif Brif Arolygydd i gyflawni ei nodau gyrfa
17.01.2023
Bydd Dean Llewellyn, Ditectif Brif Arolygydd yn Heddlu De Cymru, yn graddio â Gradd Meistr mewn Arfer Proffesiynol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yr haf hwn. Mae’n canmol y cwrs am helpu i ddatblygu ei yrfa.
Treuliodd y tair blynedd diwethaf yn astudio yn Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC) y Brifysgol ac mae’n dweud bod y gefnogaeth a gafodd wedi’i helpu i wneud cynnydd o fewn yr heddlu.
Meddai Dean: “Mae’r cwrs wedi cael effaith sylweddol gadarnhaol ar fy natblygiad proffesiynol. Rydw i wedi ennill mewnwelediadau arweinyddiaeth a rheoli strategol amhrisiadwy, yn ogystal â mwy o allu i gynllunio a mwyhau fy natblygiad proffesiynol fy hun. Rydw i hefyd wedi gallu defnyddio’r dysgu trwy ddylanwadu’n gadarnhaol ar fy staff, fy nghydweithwyr, ac asiantaethau partner mewn meysydd Ymchwilio Troseddol a diogelu sy’n aml yn heriol a chymhleth.”
Yn ystod ei astudiaethau, cafodd Dean ddyrchafiad i’w rôl bresennol ac mae’n priodoli’r llwyddiant hwn i’r hyder a’r wybodaeth a enillwyd ganddo ers ymuno â’r Brifysgol.
“Rydw i wedi gweld fy hun yn datblygu’n sylweddol mewn sawl maes; yn enwedig o ran fy hyder yn fy ngwybodaeth broffesiynol a’m gallu academaidd,” meddai. “Mae fy astudiaethau wedi fy ngalluogi i ddod o hyd i’m ‘llais academaidd’; ac o ganlyniad, rydw i nawr yn gallu mynegi barn a syniadau strategol yn hyderus, tra na fyddwn efallai wedi bod â’r hyder i wneud hynny mewn rhai fforymau cyn y cwrs.”
Dywedodd Dean ei fod am ysbrydoli eraill mewn amgylchiadau tebyg i ystyried ailafael mewn dysgu.
“Gall fod yn heriol, ac mae angen i chi fod yn ddisgybledig wrth jyglo eich astudiaethau â’ch teulu a’ch swydd, ond mae’n bosibl,” meddai.
“Mae’r gefnogaeth a gewch gan y darlithwyr yn eich galluogi i lwyddo. Maen nhw’n gyfeillgar ac wrth law bob amser i helpu ag unrhyw gwestiynau. Mae’r gefnogaeth honno’n amhrisiadwy.”
Mae Dean bellach yn ystyried parhau yn PCYDDS i astudio ar gyfer ei Ddoethur mewn Arfer Proffesiynol (DProf).
Meddai Sarah Loxdale, darlithydd yn Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol (ACAPYC): “Mae Dean wedi gallu defnyddio ei yrfa helaeth yn Heddlu De Cymru er mwyn ennill credyd am y dysgu a gaffaelwyd ganddo wrth weithio. Mae cydbwyso astudio â gwaith yn heriol ac mae Dean wedi dangos ymrwymiad mawr i’w astudiaethau, ac rydym yn falch iawn ei fod wedi ennill dyrchafiad yn ystod y cyfnod hwn.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am y casgliad o raglenni hyblyg y gall yr Academi eu cynnig i chi, cymrwch olwg ar ein gwefan – www.uwtsd.ac.uk/cy/acapyc/
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk