Celf fyd-enwog yn ysbrydoli myfyrwyr ar daith i’r Eidal
06.01.2023
Daeth grŵp o 22 o fyfyrwyr Celf Gain sy'n astudio yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i ymweld ag arddangosfa gelf fwyaf blaenllaw yn Fenis.
Teithiodd myfyrwyr o’r brifysgol i'r Eidal gyda thiwtoriaid y cwrs i ymweld ag Arddangosfa Gelf Ryngwladol Biennale Fenis, y digwyddiad celf gyfoes mwyaf a hynaf yn y byd.
O dan y teitl Llaeth Breuddwydion ac wedi'i guradu gan Cecilia Alemani, mae Biennale 2022 yn gofyn cwestiynau perthnasol megis "Sut mae diffiniad y ‘dynol’ yn newid? " ac yn cynnwys artistiaid sy'n archwilio "cynrychiolaeth cyrff a'u gweddnewidiad; y berthynas rhwng unigolion a thechnolegau; a'r cysylltiad rhwng cyrff a'r Ddaear" - yr holl bethau y gall myfyrwyr Celf Gain gyfoes gysylltu â nhw ac ymateb iddyn nhw.
Mae lleoliad Fenis yn caniatáu i fyfyrwyr gyd-destunoli a chymharu celf gyfoes yr arddangosfa â champweithiau artistig a phensaernïol o'r gorffennol, a hynny o fewn arwyddocâd hanesyddol y ddinas yn bwerdy masnachu rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin.
Alex Duncan, darlithydd Celf Gain yn Y Drindod Dewi Sant, oedd wedi trefnu'r daith, ac meddai: "Yn anad dim, rhoddodd y daith gyfle i fyfyrwyr brofi ffordd wahanol o fyw. Mae morlyn Fenis yn cynnwys dwsinau o ynysoedd na ellir eu cyrraedd ond mewn cwch ac ar droed; ni chaniateir cerbydau na hyd yn oed beiciau.
"Mae Fenis yn ddinas fyw, nid parc thema, ac mae'n cynnwys rhai o'r enghreifftiau gorau o baentio, cerflunio, cerddoriaeth a champweithiau llenyddol a welodd y byd erioed. Mae'n swigen ficrocosmig sy'n gefndir i artistiaid cyfoes o bob cwr o'r byd rannu eu hymdrechion creadigol. Roeddwn i’n falch o helpu'r myfyrwyr i brofi hyn."
Ychwanega Owain Sparnon, Artist Preswyl yn Y Drindod Dewi Sant, a fynychodd y daith: "Er i’r Biennale ei hun ddechrau 127 mlynedd yn ôl, erbyn heddiw mae'n llythrennol yn teimlo ar y blaen o ran materion cyfoes y byd megis yr argyfwng hinsawdd wrth i'r morlyn llanw lapio a gorlifo ymyl gwareiddiad.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078