Dathlu’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS
19.09.2023
O am noson! Yn PCYDDS, rydym yn adnabyddus am ddathlu talent greadigol a nos Iau diwethaf cawsom y fraint o wobrwyo ac arddangos pobl greadigol y dyfodol!
Croesawodd y Brifysgol ddisgyblion o Ysgol Gyfun Tregŵyr a’r Esgob Gore, Coleg Gwent, Ysgol St Clare, Porthcawl, Ysgol Gyfun Bryntawe, Ysgol Dylan Thomas ac Ysgol Dyffryn Aman i gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer Swansea’s Got Textiles Talent – gan roi cyfle unigryw iddynt edrych ymlaen os ydynt yn dewis parhau i astudio Tecstilau a Phatrwm Arwyneb yn AU.
Roedd cyfleoedd i fynd ar daith o amgylch yr adran, ymgysylltu â myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr, gweld Arddangosfa wedi’i churadu o waith gwych myfyrwyr Uwchradd eraill a daeth i ben gyda Seremoni Gwobrwyo a gynhaliwyd gan y beirniad gwadd, Huw Rees o S4C.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Rhaglen, Georgia McKie: “Mae Swansea’s Got Textiles Talent yn dod ag athrawon ac arbenigwyr ynghyd i rannu arfer, sgiliau a gwybodaeth wych, wrth arddangos y cyfleoedd gwych sydd ar gael ar gyfer gyrfaoedd ym maes Tecstilau a’r maes Patrwm Arwyneb ehangach.
“Rydym yn arddangos ac yn dathlu detholiad o waith myfyrwyr uwchradd, gan roi cipolwg unigryw i ddisgyblion ar yr hyn a allai fod o’u blaenau. Rydym yn arddangos rhai o’n graddedigion Patrymau Arwyneb a Thecstilau, fel bod cyfranogwyr yn gallu gweld lle gall yr egni a’r priodoleddau a nodir yn ein categorïau gwobrau eu harwain yn eu bywydau a’u gyrfaoedd.”
Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Rydym yn falch iawn o groesawu Swansea’s Got Textile Talent ac nid yn unig yn rhannu talentau ein myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr ond hefyd yn gwahodd talent newydd i ymuno â ni o ysgolion a cholegau ledled Cymru.
“Cafodd BA Patrwm Arwyneb a Thecstilau yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS ei gosod yn Nhabl Cynghrair y Guardian 2023 yn 3ydd yn y DU ar gyfer Ffasiwn a Thecstilau ac yn 1af yng Nghymru. Rydym yn arwain y sector ac rydym am allu rhannu’r wybodaeth a’r profiad hwn i helpu i hysbysu pobl ifanc ar eu taith greadigol.”
Yn ogystal, mae’r arddangosfa’n dathlu Cwilt200 ac yn arddangos y darn olaf ar y campws am y tro cyntaf. Mae’r prosiect hwn yn benllanw cydweithrediad rhwng llawer o bartneriaid ysgolion a cholegau a’n myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau ein hunain.
Mae’r arddangosfa ar agor tan 28ain Medi ac rydym yn croesawu grwpiau ysgolion a cholegau, ac athrawon a thiwtoriaid i ymweld. Cysylltwch â'r tîm i drefnu taith o amgylch yr adran a'r posibilrwydd o gael gweithdy blasu.
Mae'r digwyddiad hefyd yn cyd-fynd yn agos ag arddangosfa deithiol fyd-eang Craft Hub UE sy'n cynnwys nifer o gyn-fyfyrwyr a'u gwaith.
Categorïau Gwobrau Talent Tecstilau Abertawe ac Enillwyr Gwobrau:
Myfyrwyr creadigol sy'n arddangos rhagoriaeth:
Rhagoriaeth mewn syniadaeth a/neu ddatblygu cysyniadau
Kiera Tyrell: Bishop Gore School
Rhagoriaeth mewn datblygu delwedd
Grace Williams: Ysgol Gyfrun Gymraeg Bryn Tawe
Rhagoriaeth mewn datblygu patrymau
Niamh Hill: St Clare’s School
Rhagoriaeth mewn defnyddio a chymhwyso lliw
Issabella Welch: St Clare’s School
Excellence in sketchbook and/ or portfolio practice
Carys Lewis Hopkins: Gowerton Comprehensive School
Myfyrwyr arloesol sy'n arddangos blaengaredd:
Athrylithoedd, arfer(ion) cynaliadwy blaengar
Rose Jones: Bishop Gore School
Athrylithoedd, ffasiwn a thueddiadau blaengar
Katie Richards: Gowerton Comprehensive School
Athrylithoedd, dysgwr STEAM blaengar
Harrison Purcell: Ysgol Gyfrun Gymraeg Bryn Tawe
Myfyrwyr brwdfrydig sy'n parhau i gyfrannu at y dosbarth:
Brwdfrydedd yn ein dosbarth, wedi teithio’r pellter mwyaf
Megan Walker: Gowerton Comprehensive School
Brwdfrydedd yn ein dosbarth, cymar mwyaf cefnogol
Libbie Wittey: Dylan Thomas Community School
Brwdfrydedd yn ein dosbarth, wedi’i dynghedu i fynd ymhell
Summer Davies: Coleg Gwent, Blaenau Gwent Learning Zone
Gwobr Huw Rees
Denim jeans – Josh McDonald: St Clare’s School
Printed quilt – Group quilt Year 8: Dylan Thomas Community School
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR
Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office
E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk