Lle yn rownd derfynol Gwobrau Arwr Dementia Cymdeithas Alzheimer 2023 ar gyfer y cydweithrediad Seeing dementia through their eyes (Living with Dementia)


08.02.2023

Cyhoeddwyd bod prosiect cydweithredol a ganiataodd i ymchwilwyr a gwneuthurwyr ffilm yn llythrennol weld y byd drwy lygaid cwpwl o Abertawe a oedd yn byw gyda dementia, wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Arwr Dementia Cymdeithas Alzheimer 2023.

 

Clive Jenkins smiles while wearing glasses with a computerised frame designed to track eye movements.

Roedd ymchwil gan dîm Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi hysbysu cyfres o 10 ffilm newydd gan eHealth Digital Media Ltd yn Abertawe, ar gyfer y prosiect Seeing dementia through their eyes (Living with Dementia), a gyrhaeddodd y rhestr fer yng nghategori Ymchwil ac Arloesi’r Gwobrau.

Cafwyd bron iawn 300 o enwebiadau ar gyfer y Gwobrau o bob cwr o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac maent yn cydnabod ac yn dathlu cyfranogiad pobl sy’n cael eu heffeithio gan dementia a’u hymwneud â gweithgareddau a phrosiectau.   Maent hefyd yn dangos effaith y rheini a enwebwyd drwy gyfranogiad ystyrlon pobl sy’n cael eu heffeithio gan dementia.   

Mae ffilmiau eHealth Digital Media yn ymwneud â bywydau a heriau pob dydd pobl sy’n byw gyda dementia ac maent yn canolbwyntio ar gyflwyno cymorth, hyfforddiant, ac addysg ar gyfer cleifion dementia, eu teuluoedd, eu gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Gweithiai tîm ATiC yn agos â Chyfarwyddwr Creadigol y cwmni, Kimberley Littlemore, o Newton yn Abertawe.   Roedd rhieni Kimberley, Clive a fu farw’n drist ym mis Tachwedd 2022, a Pauline Jenkins, a hwythau yn eu hwythdegau, ill dau yn byw gyda dementia a nhw oedd ei hysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect ymchwil.

Mae ATiC yn ganolfan ymchwil integredig sy’n rhoi meddwl sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac offer arloesi strategol ar waith drwy ei chyfleuster ymchwil blaengar ar gyfer gwerthuso profiadau defnyddwyr a defnyddioldeb, ac mae wedi’i lleoli yn Ardal Arloesi Abertawe yn SA1.  

Mae’r cwmni cyfathrebu digidol eHealth Digital Media yn cynhyrchu ac yn cyflwyno cynnwys i newid ymddygiad megis ffilmiau gwybodaeth â chynnwys o ansawdd uchel drwy’i phlatfform PocketMedic sefydledig.

Cymerodd y prosiect ychydig dros flwyddyn i’w gwblhau, a defnyddiai offer ymchwil datblygedig ym meysydd profiadau defnyddwyr ac ymddygiad dynol, megis technoleg i dracio llygaid ac i adnabod mynegiant yr wyneb, wrth greu a gwerthuso’r ffilmiau.  

Gosodwyd camerâu o gwmpas cartref Clive a Pauline yn Abertawe i gadw cofnod o’u bywydau o ddydd i ddydd.  At hynny, gwisgai’r cwpwl sbectol a fyddai’n tracio’r llygaid wrth iddynt wneud gweithgareddau yn y cartref, er mwyn i’r tîm allu ‘gweld y byd drwy eu llygaid nhw.’

Bu’r deunydd ffilm hwn yn gymorth i’r tîm ganfod a deall unrhyw batrymau a sbardunau dros amser ac i ddewis eiliadau allweddol, y gallai clinigwyr ac academyddion yn y maes eu dadansoddi a’u trafod ymhellach.

Mae’r ffilmiau ar gael ar blatfform PocketMedic eHealth Digital Media, sy’n cyflwyno ffilmiau gwybodaeth iechyd o ansawdd uchel sy’n cael eu ‘rhagnodi’ gan glinigwyr i gefnogi eu cleifion o ran rheoli eu hiechyd.   A chan fod y deunyddiau dysgu ar gael ar sgrin ac nid yn cael eu cyhoeddi nac ar gael mewn print, maent yn hygyrch iawn i ddefnyddwyr.   

Mae’r ffilmiau ar gael i’w gwylio’n rhad ac am ddim yng Nghymru diolch i gyllid a gafodd eHealth Digital Media gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost campysau PCYDDS yn Abertawe a Chaerdydd, a Chyfarwyddwr ATiC: “Rwyf wrth fy modd bod gwaith eHealth Digital Media a’i bartneriaeth â chanolfan ymchwil ATiC yn y Drindod Dewi Sant wedi’u cydnabod yng Ngwobrau Arwr Dementia y Gymdeithas Alzheimer.   Mae’n atgyfnerthu pwysigrwydd partneriaeth a chydweithio rhwng y Brifysgol a mentrau o ran cyflymu arloesi, sy’n arwain at effaith mor gadarnhaol ar fywydau pobl.”

Meddai Tim Stokes, Cymrawd Arloesi ATiC ac arweinydd y prosiect: “Mae hyn yn newyddion ardderchog ac yn gydnabyddiaeth gadarnhaol bellach o bwysigrwydd y gwaith cydweithredol hwn gydag eHealth Digital Media, a roddodd bobl wrth wraidd yr ymchwil.

“Yn y lle cyntaf dechreuodd y prosiect hwn fel arbrawf syml a ddeilliodd o’r syniad bod Kimberley yn dymuno ‘gweld dementia drwy lygaid ei rhieni’.  Mae wedi ein helpu i ddeall sut mae pobl â dementia yn byw ac i ddeall pa fathau o heriau maent yn eu hwynebu bob dydd.”

Meddai Kimberley Littlemore, Cyfarwyddwr Creadigol eHealth Digital Media:  “Rydym ni’n falch iawn o’n cydweithrediad gydag ATiC i weld dementia drwy lygaid fy rhieni.  Bu’r dechnoleg dracio llygaid yn fodd i ni ddangos a rhannu drwy ffilm mewn ffordd ddynol iawn, beth roedd ymchwilwyr wedi bod yn ei ddisgrifio yn eu papurau ynghylch newidiadau o ran canfyddiad gweledol mewn pobl sy’n byw gyda dementia.

“Dim ond edmygedd sydd gen i i’m rhieni, a ganiataodd i mi rannu eu taith.   Mae rhywbeth da yn dod allan o sefyllfa sy’n anhygoel o heriol i ni gyd.”

Cefnogwyd y prosiect Seeing dementia through their eyes (Living with Dementia) drwy’r rhaglen Cyflymu, cydweithrediad arloesol rhwng tair o brifysgolion Cymru, Prifysgol Caerdydd (Cyflymydd Arloesi Clinigol), Prifysgol Abertawe (Canolfan Dechnoleg Gofal Iechyd), ATiC yn y Drindod Dewi Sant, a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Mae rhaglen Cyflymu yn cael ei chyd-gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a’r byrddau iechyd, a nod y rhaglen yw creu gwerth economaidd hirdymor i Gymru.

Cefnogwyd gwaith eHealth Digital Media hefyd gan Ganolfan ar gyfer Heneiddio Arloesol  Prifysgol Abertawe, ac arbenigwyr yn y wlad yma a thramor, yn cynnwys Teepa Snow a’i Thîm Dull Cadarnhaol ar gyfer Gofal yn UDA, arbenigwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR – Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor), a’r tîm gwych o ofalwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a helpai i ofalu am Clive a Pauline Jenkins.

Cydweithrediad Seeing dementia through their eyes (Living with Dementia) oedd enillydd y wobr Budd i'r Gymdeithas yng Ngwobrau Gŵn Gwyrdd y DU ac Iwerddon ym mis Tachwedd 2022.

Sefydlwyd Gwobrau’r Gŵn Gwyrdd yn 2004 ac maent yn dathlu’r mentrau cynaliadwyedd eithriadol a gyflawnir gan brifysgolion a cholegau.  Roedd y wobr Budd i’r Gymdeithas yn cydnabod ATiC am ei chydweithrediad ymchwil arloesol gydag eHealth Digital Media Ltd, ac am y ffordd mae’r ffilmiau yn hawdd i ddefnyddwyr eu defnyddio gydag ôl troed carbon bach iawn.   

Cyhoeddir enillwyr Gwobrau Arwr Dementia Cymdeithas Alzheimer 2023 mewn seremoni ar ddydd Gwener 28 Ebrill yn Birmingham.

Gwybodaeth Bellach

Bethan Evans

Swyddog Prosiect ATiC, Marchnata a Chyfathrebu | ATiC Project Officer, Marketing and Communications

Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) | Assistive Technologies Innovation Centre (ATiC)

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) | University of Wales Trinity Saint David (UWTSD)

Technium 1 | Technium 1

Heol y Brenin | Kings Road

Abertawe | Swansea

SA1 8PH

Ebost | Email bethan.evans@uwtsd.ac.uk