Myfyriwr o Goleg Celf Abertawe yn dylunio tlysau Gwobrau Selar 2022


27.02.2023

Unwaith eto eleni, mae Coleg Celf Abertawe, Y Drindod Dewi Sant wedi cydweithio gyda chylchgrawn Y Selar i greu gwobrau ar gyfer Gwobrau’r Selar 2022.

Myfyriwr o Goleg Celf Abertawe yn dylunio tlysau Gwobrau'r Selar

Yn flynyddol, mae myfyriwr o’r brifysgol yn mynd ati i greu darn o gelf unigryw sy’n rhoi’r platfform iddynt ddangos ei gallu creadigol.  Eleni, Owain Davies, myfyriwr trydedd flwyddyn ar y cwrs BA Dylunio Graffeg, sydd wedi creu'r gwobrau.  Mae gan Owain diddordeb mawr mewn cerddoriaeth a’r cyswllt rhwng cerddoriaeth a phatrwm a’r effaith corfforol a gweledol yn ogystal â’r cyswllt hanesyddol gyda chelf.  Mae diddordeb mawr ganddo mewn dylunio posteri, cloriau recordiau a thaflenni cerddoriaeth.

Myfyriwr o Goleg Celf Abertawe yn dylunio tlysau Gwobrau'r Selar

Gan fod Owain yn astudio dylunio graffeg roedd yn bwysig bod y wobr yn cyfleu ei allu ef fel dylunydd a’i diddordeb mewn cerddoriaeth.  Wrth ymateb i’r cyfle i ddylunio’r tlysau ar gyfer y gwobrau eleni, Dywedodd Owain:

“Tyfodd dyluniad gwobrau’r seler allan o fy mhrosiect blwyddyn 3. Mae diddordeb gen i yn sut mae gwahanol fathau o gerddoriaeth yn cael dylanwad arnom. Gweithiais gyda grŵp o gyfranogwyr mewn sesiwn lle cawsant y cyfle i ymateb yn gorfforol ac yn weledol i gerddoriaeth gan ddefnyddio inc ar bapur, wrth glywed un esiampl o un genre ar y tro. I greu'r gwobrau eu hunain, defnyddiais y gweithiau grŵp fel man cychwyn ac ychwanegu lliw yn lle’r marciau du a gwyn eto wrth ymateb i’r gwahanol fathau o gerddoriaeth.

Roedd yn broses ddiddorol i ddatblygu’r syniadau gwreiddiol i fod yn ddyluniad graffeg. Fel dylunydd graffeg mae defnyddio geiriau yn hynod o bwysig ar gyfer cyfathrebu’n weledol, felly gwnes chwarae o gwmpas gyda theip a sut i’w gosod o fewn y dyluniad. Gwnes greu pob un wobr yn unigryw.”

Donna Williams yw Cyfarwyddwr Rhaglen ac uwch ddarlithydd y cyrsiau dylunio graffeg yn y brifysgol.  Dywedodd:

“Ar hyn o bryd mae Owain Davies yn fyfyriwr trydedd flwyddyn ar ein cwrs BA (Anrh) Dylunio Graffeg yng Ngholeg Celf Abertawe. Rydym wrth ein bodd ei fod wedi cael y cyfle i ddylunio a chynhyrchu’r gwobrau ar gyfer ‘Y Selar’.

Mae Owain wedi parhau i ymgysylltu o fewn ei agwedd broffesiynol at ei astudiaethau ac integreiddio prosiectau allanol o fewn ei raglen radd. Mae Owain bob amser yn bleser gweithio, gan ei fod yn berchen ar foeseg waith gref a dibynadwy gyda chanlyniadau dylunio ystyrlon.  Llongyfarchiadau Owain ar jobyn ardderchog."

Mae Gwenllian Beynon yn Gyfarwyddwr Academaidd Cynorthwyol Celf a'r Cyfryngau

ac yn gydlynydd y ddarpariaeth Gymraeg yng Ngholeg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant, ac fe nododd:

“Bob blwyddyn rwyf yn cael llawer o hwyl yn gweithio gyda myfyrwyr wrth greu gwobrau’r Selar.  Weithiau mae’n anodd i fyfyrwyr gweld sut gall y wobr fod yn bersonol ac yn driw i’w gwaith nhw ond hefyd bod yn wobr i rywun arall. Ond bob blwyddyn mae’n digwydd.

Mae wedi bod yn wych gweithio gydag Owain eleni a gweld y wobr yn datblygu trwy’r gwahanol brosesau a chamau datblygu. Mae creu gwobr o’r fath unigryw yma yn galluogi i fyfyrwyr ddatblygu llwyth o waith i’w portffolios ac felly ni’n ddiolchgar i'R Selar unwaith eto am y cydweithrediad yma.”

Mae Gwobrau’r Selar yn seremoni wobrwyo a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n cael ei threfnu gan y cylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg, Y Selar. Owain Schiavone yw trefnydd y digwyddiad. Dywedodd:

“Ein bwriad fel cylchgrawn y Selar yw rhoi’r cyfle i artistiaid ifanc cael platfform gwahanol i ddangos eu gwaith creadigol a bob blwyddyn rydym yn cael rhywbeth gwahanol ac unigryw.  Mae'r Selar yn falch iawn o'r berthynas gydag Adran Gelf a Dylunio Prifysgol y Drindod Dewi Sant sy'n ymestyn yn ôl sawl blwyddyn bellach. Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn o safon yr artistiaid sydd wedi creu'r gwobrau dros y blynyddoedd - pob un yn cynnig rhywbeth unigryw, a gwobrau arbennig i'w trysori gan yr enillwyr.”

Cyhoeddwyd holl enillwyr Gwobrau'r Selar ar raglenni Radio Cymru dros y bythefnos ddiwethaf.  

Gallwch hefyd ddarganfod rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau Dylunio Graffig isod:

Gwybodaeth Bellach

For more information please contact Arwel Lloyd, Principal PR and Communications Officer, on 07384 467076 / arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk