Myfyrwyr Twristiaeth a Digwyddiadau’r Drindod Dewi Sant yn cynnal Diwrnod Cyfleoedd Diwydiant
01.02.2023
Cynhaliodd myfyrwyr Twristiaeth a Digwyddiadau’r Drindod Dewi Sant Ddiwrnod Cyfleoedd Diwydiant yng Nghanolfan Dylan Thomas Abertawe ar 23 Ionawr.
Mae hanes hir Y Drindod Dewi Sant ym maes Addysg Uwch yng Nghymru yn cynnwys ysgol Lletygarwch a Thwristiaeth sydd wedi hen ennill ei phlwyf, gan ddod â gwell cyfleoedd i bobl Cymru. Â chysylltiadau cryf â busnesau a phartneriaethau diwydiant sy’n codi myfyrwyr a chymunedau, mae’r Brifysgol yn cyd-ddylunio ei chyrsiau i drwytho myfyrwyr yn y priodoleddau sy’n ddymunol i gyflogwyr.
Ysbrydolodd y siaradwyr ardderchog y myfyrwyr, gan rannu ystod o gyfleoedd o ran lleoliadau, digwyddiadau a phrosiectau newydd. Dyluniwyd y rhain yn benodol i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau diwydiant proffesiynol, ar y cyd â’u sgiliau academaidd.
Rhannodd Aggie Grover, un o gyn-fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant ac Arbenigwr Caffael Talent yn TUI ei thaith gyrfa a hefyd y cyfleoedd Teithio a Thwristiaeth a’r cyfleoedd lleoliad sydd ar gael i fyfyrwyr ar draws gweithrediadau TUI yn fyd-eang ac yn lleol.
Cyflwynodd Ricky Davies a Scott Jordan o MITOURS™ y myfyrwyr i’r cyfleoedd sydd ar gael yn rhan o’u tîm Digwyddiadau. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd prosiectau ymchwil i fyfyrwyr yn ogystal â lleoliadau lle byddant yn rhan o reoli teithiau a gwyliau chwaraeon yn y DU a thramor.
Tynnodd Zoe Antrobus o 4TheRegion sylw at y cyfleoedd i gefnogi’r ystod o ddigwyddiadau a phrosiectau a drefnwyd gan y bartneriaeth, gan gynnwys helpu i gynllunio, trefnu, marchnata, a rhedeg Canolfan Canol Dinas Abertawe yn Arena Abertawe.
Roedd y diwrnod hefyd yn gyfle ardderchog i rannu’r digwyddiadau newydd ac amrywiol, cyfleoedd gwirfoddoli, interniaeth, a chyfleoedd prosiect â thâl ar gyfer myfyrwyr ar draws campysau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Rhoddodd Kelly Williams, Pennaeth Gweithredol ar gyfer campysau’r Drindod Dewi Sant, a Rheolwr Datblygiad Busnes Y Drindod Dewi Sant Chloe Parsons gipolwg arbennig i fyfyrwyr ar yr amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gynhelir ar draws campysau, gan gynnwys Canolfan Gynadledda Halliwell y Brifysgol. Cyflwynasant y myfyrwyr hefyd i ddigwyddiadau â thâl a phrofiadau lletygarwch a chyfleoedd cynllunio prosiectau.
Rhannodd Nicola Powell o Dîm Ymgysylltu Dinesig Y Drindod Dewi Sant ac INSPIRE rai o’r cyfleoedd i fyfyrwyr ddod yn rhan o ddigwyddiadau cymunedol a dinesig a gwyliau a gefnogir gan gampysau’r Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, Caerfyrddin, Caerdydd ac Abertawe.
Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen ar gyfer rhaglenni Digwyddiadau Rhyngwladol, Twristiaeth a Rheolaeth Cyrchfannau Hamdden yn Y Drindod Dewi Sant: “Roedd hwn yn ddiwrnod ysbrydoledig i fyfyrwyr gan eu cyflwyno i rai o’r cyfleoedd sydd ar gael y semester hwn. Mae hon yn adeg gyffrous i fyfyrwyr Twristiaeth a Digwyddiadau yn Y Drindod Dewi Sant wrth iddynt ddatblygu’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer lleoliadau, prosiectau diwydiant, trefnu digwyddiadau a gwirfoddoli. Maen nhw hefyd yn edrych ymlaen at ddwy daith ryngwladol i’r Swistir ac Aspen, Colorado.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mobile: 07384 467071