Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn teithio i Rio Grande ar gyfer Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi
27.02.2023
Bydd myfyrwyr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Rio Grande, Ohio y flwyddyn hon.
Mae gan y Brifysgol gysylltiad hirsefydlog gyda Phrifysgol Rio Grande a’i Chanolfan Madog yn ogystal â gyda chymunedau o dras Gymreig yng Ngogledd America.
Trefnwyd ac ariannwyd y daith dwy wythnos hon gan brosiect ‘Taith’ Llywodraeth Cymru, sydd â’r brif genhadaeth o “Gymryd Cymru i’r Byd.” Bydd myfyrwyr yn arddangos eu talentau i gynulleidfaoedd yn y cymunedau hyn yn Ohio yn ogystal ag ysgolion yn Ohio.
Pan fyddant yn Ohio, bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn Cyngerdd Dewi Sant gyda chôr Rio Grande. Byddant hefyd yn teithio i Cleveland i ymweld â chartref Cymreig a’r ‘Rock and Roll Hall of Fame’. Yn ogystal, byddant yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Gallia Academy gyda’r Côr Madrigal ac yn ymddangos ar y sianel deledu a gorsafoedd radio lleol, ac hefyd yn perfformio yn Eglwys Bresbyteraidd Oak Hill ar gyfer cinio a pherfformiad Dydd Gŵyl Dewi.
Meddai Eilir Owen Griffiths, Uwch Ddarlithydd:
“Mae’n wych gallu aildanio’r berthynas gyda Rio Grande. Bu rhai blynyddoedd ers i grŵp fynd yno. Gyda chysylltiadau cryf â Chymru, roedd yn addas bod ein myfyrwyr celfyddydau perfformio cyfrwng Cymraeg yn ymweld ag Ohio eleni. O dan gyfarwyddyd Angharad Lee byddant yn cyflwyno casgliad o waith yn cynnwys monologau, caneuon a threfniannau bendigedig newydd o rai o glasuron corawl Cymru gan Nathan Jones. Gan raddio yn yr Haf 2023, mae’r gwaith hwn yn arddangos eu talentau yn ogystal â dathlu rhai o ysgrifenwyr ac emynau gorau Cymru.
I Lowri Voyle, un o fyfyrwyr y BA Perfformio,
“Mae wedi bod yn brofiad anhygoel a gallwn weld faint mae’r gymuned yma’n gwerthfawrogi diwylliant Cymru. Teimlaf fod hanes y Cymry yma yn Rio Grande, Ohio, yn un na allwn ei anghofio, ac ar ôl y daith, hoffwn sicrhau bod y cysylltiadau’n parhau’n gryf rhyngom.”
Meddai Jeanne Jones Jindra, Cyfarwyddwr Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymraeg, Prifysgol Rio Grande:
“Bu nifer o flynyddoedd ers i ni gael grŵp o fyfyrwyr theatr gerddorol o’r Drindod Dewi Sant yma ym Mhrifysgol Rio Grande ac rydym wrth ein bodd i groesawu’r grŵp hwn o 7 o ferched ifanc ac un dyn ifanc. Cyraeddasant ar Chwefror 15fed ac nid ydynt wedi stopio am funud ers hynny, gan asio’n rhwydd i fywyd myfyrwyr ar ein campws. Maent wedi cwrdd â’n côr Corawl Mawr ac yn paratoi i ganu gyda’i gilydd ar gyfer rhai digwyddiadau yn yr ardal, a’r dathliad Dydd Gŵyl Dewi yw’r mwyaf nodedig o’r rhain.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476