Skip page header and navigation

Agorodd myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu sioe graddio haf flynyddol ar nos Wener y 19eg o Fai mewn digwyddiad gorlawn ar draws nifer o leoliadau yn Abertawe. 

Myfyrwraig yn sefyll o flaen arddangosfa tecstilau pinc.

Mae’r arddangosfa haf flynyddol yn un o uchafbwyntiau calendr Coleg Celf Abertawe, lle mae myfyrwyr o bob cwrs creadigol yn dangos eu prosiectau terfynol – penllanw blynyddoedd o ddysgu a mireinio eu crefftau.

Roedd y noson yn fwrlwm o weithgarwch, a denwyd cannoedd o fynychwyr i’r lleoliadau, gyda pherfformiadau cerddorol a DJ yn yr HQ Urban Kitchen ochr yn ochr â’r sioeau celf gweledol. 

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo yn Adeilad Dinefwr Y Drindod Dewi Sant, lle rhoddwyd gwobrau i fyfyrwyr eithriadol yn amrywio o £200 i £10,000 ar gyfer yr Artist Benevolent Scholarship mawreddog.

Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost Campws Abertawe Y Drindod Dewi Sant: “Roedd hi’n bleser gan Y Drindod Dewi Sant agor i’r cyhoedd ddydd Gwener a chroesawu cynifer o ymwelwyr i arddangosiadau’r myfyrwyr sy’n graddio eleni o Goleg Celf Abertawe. Roedd hi’n noson wych gyda chelf anhygoel ar ddangos.

“Fel un o ganolfannau blaenllaw’r DU ar gyfer celf, dylunio a’r cyfryngau, mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o lwyddiant ei myfyrwyr a’r safonau y maen nhw’n eu cyflawni. Mae pwysigrwydd yr artist, y dylunydd, y gwneuthurwr ffilmiau, a’r meddwl creadigol wrth ddehongli’r oes sydd ohoni ac adrodd straeon pwysig yn hanfodol yn ystod y dyddiau heriol hyn.”

Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Sioe Graddio’n ddathliad a phenllanw astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig myfyrwyr, lle gall ymwelwyr brofi creadigrwydd rhagorol ar draws amrywiaeth eang o feysydd pwnc celf a dylunio.

“Mae colegau celf yn newid y byd – bydd ein myfyrwyr ni, y gwelwch eu gwaith pan fyddwch chi’n ymweld â’r sioe, yn mynd ymlaen i newid y byd”.

Myfyriwr yn arddangos ei ddarluniau.

Eleni, cynhelir yr arddangosfa yn adeiladau Dinefwr, ALEX ac IQ Y Drindod Dewi Sant, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Canolfan Dylan Thomas a HQ Urban Kitchen, a bydd sioeau dethol hefyd yn arddangos yn Llundain yn New Designers yn ddiweddarach yn ystod yr haf.

Ceir manylion y cyrsiau sy’n arddangos ym mhob lleoliad isod. Bydd yr arddangosfeydd yn aros ar ddangos i’r cyhoedd yn ystod oriau dydd hyd at 16eg Mehefin (ac eithrio dyddiau Sul, Gwyliau Banc a dydd Sadwrn 27ain Mai).

Dinefwr: SA1 3EU

Celf Gain

Ffotograffiaeth

Patrymau Arwyneb a Thecstilau

MA Deialogau Cyfoes

ALEX: SA1 5DU

Celf a Dylunio Sylfaen

Crefftau Dylunio

Dylunio Cynnyrch a Chelfi

MA Deialogau Cyfoes

HQ Urban Kitchen: SA1 5AJ

Technoleg Cerddoriaeth Greadigol (Perfformiadau byw 19eg Mai, tapiau arddangos 20fed-26ain Mai)

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: SA1 3RD

Darlunio (ar agor hyd at 18fed Mehefin)

Myfyrwraig yn gwenu gan sefyll o flaen ei ffabrigau patrymog.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau a’r Wasg a’r Cyfryngau / Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus / Corporate Communications and PR

Swyddfa’r Is-Ganghellor | Vice-Chancellor’s Office

Ffôn | Phone: 07384 467071

E-bost | E-mail: Rebecca.davies@uwtsd.ac.uk

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau