Rhannu arbenigedd i gefnogi datblygiad y Cwricwlwm Newydd i Gymru
31.01.2023
Mae partneriaid addysgol allweddol wedi rhannu eu harbenigedd mewn gweithdy a gynhaliwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) fel rhan o brosiect mawr i gefnogi datblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru’n cyflenwi Camau i’r Dyfodol mewn partneriaeth â PCYDDS a Phrifysgol Glasgow. Mae wedi’i gynllunio i helpu i ddatblygu gwybodaeth newydd a chefnogi’r gwaith o wireddu’r Cwricwlwm i Gymru trwy ddod ag athrawon, partneriaid addysgol, ac ymchwilwyr ynghyd i gyd-ddatblygu gallu, ffyrdd o feddwl ac adnoddau newydd i adeiladu ar ymarfer presennol.
Bydd integreiddio cynnydd mewn dysgu, y cwricwlwm, asesu, ac addysgeg er mwyn ymateb yn well i anghenion dysgwyr unigol yn ganolog yn y broses hon.
Mae’r prosiect yn adeiladu ar y prosiect Camau gwreiddiol y bu’r bartneriaeth yn rhan ohono rhwng 2018 a 2020, a’i nod yw cael goleuni pellach ar gynnydd mewn dysgu a’r hyn y mae’n ei olygu yng nghyd-destun y Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae’n bwriadu:
Meithrin dealltwriaeth o’r modd y gellir datblygu’r ddealltwriaeth gyffredin hon yn effeithiol ar gyfer holl ddisgyblion Cymru trwy gwricwlwm, asesu ac addysgeg, gan gefnogi’r gwaith o ddatblygu ymarfer a all wireddu uchelgeisiau’r Cwricwlwm newydd i Gymru, gan gynnwys edrych heibio’r cyfnod gweithredu i esblygiad y cwricwlwm dros y tymor hir.
Sicrhau bod newid yn ystyrlon ac yn ymarferol i ysgolion a lleoliadau, a’i fod yn cael ei gyflawni mewn modd cynhwysol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gyda thegwch, uniondeb ac aliniad rhwng holl rannau’r system.
Darparu sail tystiolaeth sy’n esblygu, a all fwydo’n ôl i mewn i’r system a rhoi gwybodaeth newydd i ymarferwyr am gwricwla, ymarfer proffesiynol, a newid addysgol sy’n seiliedig ar gynnydd.
Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, bydd y bartneriaeth yn creu adnoddau ac allbynnau i gynorthwyo ymarferwyr i fyfyrio ar eu hymarfer, rhannu eu profiadau a chefnogi trafodaeth bellach yn eu hysgolion neu leoliadau. Cyhoeddir yr adnoddau hyn trwy Hwb, porth adnoddau Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd y gweithdy yng Nghanolfan Dylan Thomas PCYDDS yn Abertawe ar 12 Ionawr ac roedd mwy na 50 o ymarferwyr o amryw leoliadau’n bresennol.
Ymunodd swyddogion consortia rhanbarthol a sefydliadau haen ganol eraill, swyddogion y llywodraeth ac ymchwilwyr o PCYDDS a Phrifysgol Glasgow â chynrychiolwyr o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig.
Dywedodd yr Athro Dylan E Jones, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant “Rydym yn falch bod y Brifysgol, trwy’r Athrofa, yn gwneud cyfraniad mor bwysig i’r sylfaen wybodaeth sy’n cefnogi taith diwygio’r cwricwlwm cenedlaethol. Mae’n adlewyrchu’r datblygiadau mawr a gyflawnwyd gan yr Athrofa wrth iddi adeiladu ei dylanwad o fewn y system addysg yng Nghymru.”
Meddai Chris Davies, Rheolwr, Dysgu Proffesiynol, yng Nghyngor Sir Powys: “Mae’n wych bod yma gyda phrosiect Camau i weithio ar y prosiect hwn sydd wedi’i lunio ar y cyd er mwyn dod o hyd i atebion gwahanol a chydweithio i edrych ar ddatblygiad cynnydd ac asesu o fewn y Cwricwlwm newydd i Gymru.”
Meddai Leanne Prevel, dirprwy bennaeth yn Ysgol Gynradd Gelliswick yn Sir Benfro: “Mae’n gyffrous iawn bod yma, yn cydweithio â chydweithwyr o bob rhan o’n gwlad ar brosiect o arwyddocâd mawr. Mae’n amser cyffrous yn natblygiad y Cwricwlwm newydd i Gymru, wrth wrando ar a dysgu gan gydweithwyr er mwyn gallu cefnogi ein taith ein hunain a rhai cydweithwyr o bob rhan o Gymru heddiw.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk