Rhoi cipolwg ar Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles i athrawon dan hyfforddiant


12.01.2023

Mae athrawon dan hyfforddiant o Ganolfan Addysg Yr Athrofa Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi mynychu Cynhadledd ADY ddeuddydd flynyddol, lle bu areithwyr cyweirnod yn trafod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Lles.

Group photo at ALN Conference with Children's Commissioner for Wales

Bwriad cynhadledd eleni yn Arena Abertawe, y’i trefnir yn flynyddol gan Yr Athrofa ac y’i cynhaliwyd ar-lein am y ddwy flynedd diwethaf, oedd darparu safbwyntiau cyfoes i fyfyrwyr ar y proffesiwn addysgu. Bu’n archwilio sut beth yw gweithio gyda myfyrwyr ADY, yn ogystal ag arferion addysgu cyffredinol a lles ar gyfer disgyblion ac athrawon fel ei gilydd.

Ymhlith y siaradwyr yr oedd Nina Jackson, yr oedd ei sgwrs, â’r teitl ‘Mae labeli ar gyfer tuniau, nid pobl’, yn archwilio pwysigrwydd gwerthfawrogi unigoliaeth o fewn yr ystafell ddosbarth. Cyflwynodd Dr. Emma Kell, Hyfforddwr Perfformiad â 25 mlynedd o brofiad addysgu, sesiwn ysbrydoledig ar les athrawon a sut i lywio drwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r proffesiwn. Sian Owen oedd i ddilyn, a gynigodd olwg bersonol ar fyw ochr yn ochr â’r rhai sydd ag anableddau dysgu a Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth.

Daeth yr areithiau cyweirnod i ben â chyflwyniad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes MBE, a gychwynnodd yn y swydd ym mis Ebrill 2022 i hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru am y saith mlynedd nesaf. Ysbrydolodd Rocio’r myfyrwyr trwy roi manylion ei thaith ei hun, o ffoadur o blentyn yn y 1970au i ddod yn Brif Weithredwr yr elusen Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru.

Children's Commissioner for Wales at ALN Conference January 23

Siaradodd Dirprwy Is-Ganghellor PCYDDS, Dr. Dylan Jones, yn uniongyrchol â’r myfyrwyr am rôl yr athro o fewn ystafell ddosbarth gefnogol a chynhwysol. Pwysleisiodd y pwysigrwydd fod addysgwyr yn defnyddio dull personol, ac y dylid cyfuno strategaethu â diwylliant ac amgylchedd dysgu da er mwyn i ddisgyblion, ac athrawon, lwyddo:

“Mae strategaeth heb ddiwylliant fel car wedi’i ddylunio’n dda heb injan addas,” meddai. “Ein cyfrifoldeb ni fel arweinwyr mewn addysg ar bob lefel yw sicrhau mai ein diwylliant yw’r injan orau bosibl, er mwyn rhoi’r momentwm mwyaf i bawb lwyddo, pa bynnag rwystr y maen nhw’n ei wynebu.”

Roedd trafodaeth banel ADY arbenigol hefyd wedi’i gynnwys, ac wedi’r siaradwyr ar y ddau ddiwrnod, symudodd y myfyrwyr i Adeilad IQ y Brifysgol a Chanolfan Dylan Thomas am weithdai yn y prynhawn. Cyflwynwyd y gweithdai gan ddarlithwyr, gweithwyr addysg ac iechyd proffesiynol wedi’u lleoli yn ne Cymru, a rhai o athrawon dan hyfforddiant PCYDDS ei hun.

Trefnwyd y gynhadledd gan Nanna Ryder PCYDDS, Uwch Ddarlithydd yn Yr Athrofa. Meddai hi: “Ein gweledigaeth yw bod athrawon dan hyfforddiant PCYDDS yn cychwyn yn y proffesiwn addysgu â chynhwysiant, cyfiawnder a lles yn greiddiol i bob agwedd ar eu haddysgeg a’u hymarfer. Mae’n anrhydedd mawr i ni groesawu areithwyr cyweirnod mor uchel eu proffil i weithredu’r weledigaeth honno.

“Mae’r negeseuon ysbrydoledig a rannwyd o’r prif lwyfan, yn ogystal â natur amlddisgyblaethol y gweithdai, wedi paratoi ein hathrawon dan hyfforddiant i fod yn asiantau newid. Gobeithio bod y gynhadledd hon wedi’u hysbrydoli i gychwyn yn y proffesiwn addysgu er mwyn trawsnewid bywydau ein dysgwyr amrywiol a mwyaf agored i niwed.”

Yr Athrofa yw’r Ganolfan addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’n dwyn ynghyd raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon a chymwysterau proffesiynol eraill i addysgwyr ym mhob un o sectorau’r system addysg.

Sian Owen, speaker at ALN conference January 23

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078