Y Drindod Dewi Sant yn buddsoddi dros £1 miliwn mewn Ystafelloedd Trochi i greu profiad rhyngweithiol a diddorol ar gyfer dysgwyr


02.02.2023

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) yn cydweithio gyda darparwyr clyweled sy’n arwain y diwydiant i osod dwy ystafell drochi arloesol, o’r radd flaenaf, gan roi i’n myfyrwyr a’n partneriaeth fannau dysgu arloesol sy’n trawsnewid addysg.

The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) is collaborating with industry leading AV providers to install two innovative, state-of-the-art immersive rooms, providing its students and partners with world leading learning spaces which transform education.

Gan weithio gyda phartner clyweled y Brifysgol, IDNS, mae gwaith yn mynd rhagddo ar ddau fan dysgu newydd ar gampysau Caerfyrddin ac Abertawe sy’n defnyddio 18 metr o’r sgriniau LED Samsung diweddaraf ar draws tair wal i greu profiad realiti rhithwir ac estynedig sy’n trochi defnyddwyr yn gyfan gwbl.

Unwaith y byddant wedi’u cwblhau, bydd y mannau hyn yn galluogi i fyfyrwyr brofi realiti rhithwir, fideos a delweddau 360° a chymwysiadau trochi trwy feddalwedd trochi Igloo.

Mae dysgu trochi yn ffordd hynod o effeithiol i lawer o ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau. Mae’n darparu cynnwys ac amgylcheddau artiffisial a grëwyd yn ddigidol  sy’n atgynhyrchu scenarios bywyd go iawn er mwyn gallu dysgu a pherffeithio sgiliau a thechnegau newydd. Ni fydd dysgwyr yn gwylio’n oddefol; ond yn hytrach, byddant yn cael bod yn gyfranogion rhagweithiol sy’n dylanwadu’n uniongyrchol ar ganlyniadau. Hefyd, mae’n fan di-risg a diogel lle gellir ailadrodd yr hyn a ddysgir, a gellir mesur llwyddiannau’n gywir.

Dywedodd yr Athro Elena Rodríguez Falcón FREng, Dirprwy Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant: "Mae'r Brifysgol yn ymfalchïo mewn darparu profiadau dysgu perthnasol, cyd-destunol a dilys, a ddangosir drwy ymgysylltu â heriau byd eang a phartneriaid amrywiol.

"Rydym hefyd yn gwybod bod dysgu drwy brofiad weithiau yn llai ymarferol a hygyrch, a dyna pam, rydym wedi buddsoddi'n bwrpasol mewn gofodau dysgu ymgolli, i sicrhau nid yn unig y daw'r dysgu yn fyw, ond bod dysgwyr yn cael eu cymryd i fyd rhithwir eu pynciau a'u heriau y maent yn debygol o'u hwynebu."

Meddai Chris Rees, Pennaeth Gweithredol Creadigrwydd a Dysgu Digidol Y Drindod: “Gall ddysgu trochi fod yn hynod o fanteisiol o ran datblygiad dysgwr, gan gyfoethogi eu gwybodaeth a’u sgiliau ymarferol.

“Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd ein dwy ystafell ddysgu trochi newydd sbon yn agor ym mis Mawrth 2023! Mae’r cyfleusterau o’r flaenaf hyn yn cynnwys 18 metr o sgriniau LED, sy’n rhoi profiad i fyfyrwyr sy’n eu trochi’n gyfangwbl. Gyda chost o dros £1 miliwn, mae’r buddsoddiad hwn mewn technoleg yn dyst i’n hymrwymiad i ddarparu’r profiad dysgu gorau posibl ar gyfer ein myfyrwyr. Boed mewn teithiau maes rhithwir, efelychiadau neu wersi rhyngweithiol, bydd yr ystafelloedd yn caniatáu i fyfyrwyr weithio gyda’r deunydd mewn ffordd newydd a chyffrous.

Meddai James Cale, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Y Drindod: “Trwy fannau trochi, rydym yn gallu chwyldroi’r ffordd mae myfyrwyr yn dysgu, trwy ddarparu profiad addysgol rhyngweithiol, diddorol, a chofiadwy ar eu cyfer sy’n dod â’r cwricwlwm yn fyw.

“Nid yn unig y mae gweithredu mannau trochi ym maes addysg yn cyfoethogi ymgysylltiad a chymhelliant myfyrwyr, ond mae’n eu galluogi hefyd i brofi a rhyngweithio gyda’r cwricwlwm mewn ffordd fwy ystyrlon a chofiadwy. Mae’r dull hwn yn caniatáu dysgu mwy ymarferol a dysgu trwy brofiadau, y mae ymchwil wedi dangos ei fod yn fwy effeithiol wrth hyrwyddo’r gallu i gadw gwybodaeth yn yr hir dymor.

“Mae’r defnydd o dechnoleg drochi, fel realiti rhithwir ac estynedig, yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio a dysgu am bynciau a chysyniadau a fyddai fel arall yn anodd neu’n amhosibl eu hatgynhyrchu mewn ystafelloedd dosbarth traddodiadol. Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rydym yn gyffrous i fod ar reng flaen yr ymagwedd arloesol hon at ddysgu, gan ddefnyddio mannau trochi i gyfoethogi profiad dysgu’r myfyriwr a’u paratoi ar gyfer y dyfodol.

Meddai llefarydd ar ran Igloo: “Mae Igloo Vision yn falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, IDNS a Samsung i ddarparu man trochi LED cyntaf Cymru. Gan ddefnyddio meddalwedd trochi Igloo Vision a thechnoleg LED diweddaraf Samsung, bydd yr ystafelloedd yn cynnig profiadau diddorol i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr.

“Mae camu i mewn i fan trochi Igloo yn debyg i gamu i mewn i benset VR enfawr - ond eich bod yn gallu cael grwpiau cyfan i mewn. Mae Igloo yn dylunio a datblygu’r dechnoleg sy’n gallu gwneud unrhyw fan yn un trochi. Gellir rhannu unrhyw fath o gynnwys digidol, gan gynnwys realiti rhithwir trochi, fideos a delweddau 360° ac offer Office bob-dydd eu rhannu gyda grwpiau cyfan yn un o’r mannau hyn, felly mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyfleoedd diddiwedd o ran yr hyn y gall ei wneud gyda’i Hystafell Drochol. “

Meddai llefarydd ar ran IDNS: “Mae IDNS yn falch o ddarparu man trochi LED cyntaf Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Gan ddarparu’r fan trochi 18 metr trwy ddefnyddio’r dechnoleg LED Samsung ddiweddaraf, bydd profiad gweledol a synhwyraidd yn dod yn fyw i ymwelwyr, trwy gynlluniau gweledol heb eu hail a manylion eithriadol.

“Mae’r datblygiad arloesol hwn yn nodi oes newydd o ran cydweithredu ac ymgysylltu yn y brifysgol ac mae’n dyst i’w hymagwedd flaengar at ddefnyddio technolegau digidol sy’n cyfoethogi’r profiad dysgu.”

Am ragor o wybodaeth a chipolwg ar sut y bydd yr ystafelloedd yn edrych, ewch i https://www.uwtsd.ac.uk/immersive/cy/ Rydym yn ysu am i chi gael ei brofi!

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Executive Press and Media Relations Officer / Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Corporate Communications and PR / Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Mobile: 07384 467071